Ynglŷn ag Iechyd Da

Rydym yn bartner cyflawni gwasanaethau milfeddygol ychydig yn wahanol i’r arfer. Y gwahaniaeth yw yn gonsortiwm o bractisau milfeddygol, sy’n cydweithio i ymchwilio’n rhagweithiol a darganfod datrysiadau ataliol sydd o fudd i filfeddygon, ffermwyr a’r Llywodraeth.

Sefydlwyd ym mis Rhagfyr
0
Practis milfeddygol yng Nghymru
0
o ffermwyr Cymru yn cael cymorth
0 +

Profion TB a llawer iawn rhagor

Yn Iechyd Da, rydym yn frwdfrydig dros wella iechyd a lles da byw, a dyna ein diben. Bob amser.

Rydym yn ymchwilio ar y cyd â’n ffermwyr, yn datblygu’n rhagweithiol ar y cyd â’n milfeddygon ac yn mynd ati’n frwdfrydig i sicrhau datrysiadau ataliol ar gyfer y Llywodraeth a’r diwydiant. Y canlyniad? Mae ffermwyr a’u da byw yn mwynhau bywydau iachach a hapusach.

Dull sy’n cael ei ysgogi gan ymchwil

O’r fferm i’r labordy, byddwn yn gwrando, yn asesu ac yn cynghori.

Gan gydweithredu â Phrifysgol Cymru, fe agorodd Iechyd Da Ganolfan Milfeddygaeth Cymru (WVSC) yn 2015. Heddiw, mae WVSC yn darparu archwiliadau post-mortem milfeddygol arbenigol, yn diagnosio clefydau ac yn cynnig hyfforddiant prifysgol, gan gynorthwyo sector amaethyddol y DU gyfan ac iechyd anifeiliaid.

Cyfleoedd gyrfa

Mae darganfod datblygiadau gwyddonol a rhoi cymorth gwerthfawr sy’n gwella bywydau yn gyffrous. Mae gweithio yn y sector milfeddygaeth da byw yn golygu gwneud gwahaniaeth bob dydd. Dyma’r swyddi gwag sydd ar gael ar hyn o bryd, yn ein holl bractisau milfeddygol…

Profwr TB

Lleoliad: Remote

Rôl: Full-time

Dyddiad cau: 14/11/2024

Cyfle i fod yn Filfeddyg Anifeiliaid Mawr

Ydych chi’n chwilio am rôl ym maes Milfeddygaeth Anifeiliaid Mawr gyda phecyn sy’n gweddu’ch anghenion chi?

Lleoliad: O bell

Rôl: Amser llawn

Dyddiad cau: 14/11/2024

Gwnewch wahaniaeth go iawn

Cyfrannwch at ddarganfod cyfleoedd gwyddonol newydd, datblygu datrysiadau sy’n gweddnewid bywydau a darparu gwasanaethau buddiol i’r gymdeithas.

Gareth Mulligan

Gareth Mulligan BSc BVSc Cert BCP MRCVS

Cadeirydd y Bwrdd

Ymunodd yn 2018

Gareth yw Cyfarwyddwr y Practis a’r Prif Glinigwr Anifeiliaid Fferm yng Nghanolfan Filfeddygol Afon yng Nghastell-nedd, De Cymru, lle mae’n defnyddio ei 30 mlynedd o brofiad yn y maes milfeddygol i helpu ffermydd teuluol sy’n ffermio defaid mynydd a gwartheg bîff yn bennaf i gyflawni eu nodau. 

Diddordeb pennaf Gareth yw hybu dulliau ymarferol yn ymwneud ag iechyd a chynhyrchu da byw a sicrhau bod y practisau milfeddygol lleol yn cadw’u gwreiddiau’n ddwfn yn y cymunedau amaethyddol.

Mae Gareth bod amser yn mwynhau bod yn agos at natur, a phan na fydd yn ymwneud â’r practis milfeddygol, mae mwynhau treulio amser yn ei ardd, sy’n rhoi heddwch ac ysbrydoliaeth iddo, yn ogystal â her.

Arwyddair Gareth…

Peidiwch fyth â chymryd eich hun ormod o ddifrif.

Nikki Hopkins

Nikki Hopkins BVSc MRCVS BSc (Hons)

Is-gadeirydd y Bwrdd

Ymunodd yn 2023

Mae Nikki yn Locwm practis clinigol ar hyn o bryd ac mae’n cyfuno hynny â rolau anghlinigol gan weithio i’r Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Glefydau Anifeiliaid (NADIS). Bu Nikki’n Llywydd y BCVA ac mae wedi gweithio yn holl sectorau practisau amaethyddol yn ogysta â gwaith gyda bridfeydd teirw.

Mae cyfathrebu â ffermwyr yn flaenoriaeth allweddol i Nikki, ynghyd â gwybodaeth y cyhoedd am ffermio a’u dealltwriaeth o’r diwydiant. Ar hyn o bryd mae Nikki wrthi’n cynllunio ar gyfer ymgymryd â prosiect yn ymwneud â chlefydau ecsotig.

Pan na fydd yn gwneud gwaith milfeddygol, mae Nikki’n mwynhau teithio, sy’n ei galluogi i gyfuno gwaith gwirfoddol a chynorthwyo elusennau mewn gwledydd tramor.

Arwyddair Nikki…

Mae unrhyw beth yn bosibl.

David Thomas

David Thomas BVSc MRCVS

Prif Filfeddyg Swyddogol

Ymunodd yn 2015

David yw Prif Filfeddyg Swyddogol (POV) Iechyd Da, felly mae’n gyfrifol am gyflawni gwasanaethau milfeddygol y Llywodraeth sydd wedi’u diffinio yn y contract Partneriaid Cyflenwi Milfeddygol (VDP) ac am sicrhau y cyflawnir y safonau proffesiynol gorau posibl. Trwy gydol ei yrfa, mae David wedi ffynnu ar ateb yr heriau a ddaw yn sgil clefydau endemig a chlefydau newydd.

Mae David yn cyfrannu’n frwdfrydig at gynorthwyo milfeddygon swyddogol (OVs) sydd newydd eu penodi i ddatblygu eu sgiliau er mwyn llwyddo.

Ar wahân i Iechyd Da, mae David yn mwynhau pysgota plu mewn afonydd anghysbell tra’n gwylio ambell i Eryr neu Walch yn hedfan uwchben.

Arwyddair David…

Ymdrechwch bob amser i wneud eich gorau glas a mwy na hynny.

Brendan Griffin

Brendan Griffin MVB MRCVS

Cyfarwyddwr

Ymunodd yn 2015

Cafodd Brendan ei fagu ar fferm laeth ar Arfordir Gorllewin Iwerddon gan gymhwyso’n filfeddyg yn yr ysgol filfeddygaeth yn Nulyn. Wedi hynny, gweithiodd mewn practis cymysg yng nghefn gwlad Cymru, ac yna symudodd dramor i weithio yn Seland Newydd ac Awstralia cyn dychwelyd adref i weithio yn Galway.

Mae Brendan yn Filfeddyg Anifeiliaid Fferm Ymgynghorol yn Fenton Vets, ac mae hefyd yn Gyfarwyddwr Sicrhau Ansawdd a Hyfforddiant ar gyfer Iechyd Da. Ef hefyd yw’r Partner Cyflenwi Milfeddygol (VDP) yn Ne Cymru a’r Dirprwy Brif Filfeddyg Swyddogol (POV) a Milfeddyg Arweiniol Peilot Enferplex yng Nghymru, ac mae’n cyd-reoli Prosiect TB buchol Sir Benfro.

Yn ei amser hamdden, mae Brendan yn mwynhau bod allan yn yr awyr agored, yn beicio neu’n hyfforddi chwaraewyr rygbi, boed law neu hindda. 

Arwyddair Brendan…

Mae cydweithredu’n allweddol.

Don Thomas

Don Thomas BSc, MBA, FCCA, SIRM, FIMC

Arweinydd Gweinyddu a Rheoli

Ymunodd yn 2013

Mae Don yn gyfrifydd cymwysedig sydd â gradd meistr mewn gweinyddu busnes.

Mae Don yn gweithredu fel Cyfarwyddwr Gweithredol ac Anweithredol ar sawl cwmni preifat a chyrff a noddir gan y Llywodraeth, ac mae hefyd yn Brif Swyddog Gweithredol Cynhyrchwyr Cig Oen ac Eidion Cymru Cyf (WLBP).

Yn ei amser hamdden, mae Don yn mwynhau dilyn chwaraeon a cherdded a physgota yng nghefn gwlad.

Arwyddair Don…

Does dim atal ar dîm brwdfrydig.

George Roberts

Dr. George Roberts BVM BVS MRCVS

Cyfarwyddwr

Ymunodd yn 2023

Fel Milfeddyg a Chyfarwyddwr yn gweithio ym maes practis cymysg yn Hafren Vets yng Nghanolbarth Cymru, mae George yn cydweithio’n agos â’r diwydiant defaid, gwartheg a dofednod masnachol.

Mae George yn mwynhau helpu ei gleientiaid i wella iechyd, lles, cynhyrchiant a phroffidioldeb eu da byw tra’n dibynnu llai ar wrthfiotigau, bod yn fwy cynaliadwy a gwella ansawdd bywyd ac iechyd meddwl ym maes ffermio.

Pan na fydd yn gweithio neu’n brysur gyda’i deulu, bydd George yn mwynhau treulio amser yng nghefn gwlad hyfryd Cymru.

Arwyddair George…

Mae cymuned yn hollbwysig.

Ifan Lloyd

Dr. Ifan Lloyd BSc; MA; VetMB; MRCVS

Cyfarwyddwr

Ymunodd yn 2015

Mae gan Ifan dros 35 mlynedd o brofiad o waith Milfeddyg Clinigol gyda diddordeb arbennig ym maes anifeiliaid fferm. Fel Cyfarwyddwr Cefn Gwlad Solutions Ltd, mae Ifanc yn darparu gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd anifeiliaid yn cynnwys rhaglen bioddiogelwch fferm a gwasanaethau brechu moch daear rhag TB.

Mae Ifan yn aelod o Grŵp Cynghori Technegol (TAG) TB Cymru. Bu’n llywydd Cangen Cymru y BVA ac mae’n cynrychioli cangen Cymru yng nghyfarfodydd Grŵp Polisi’r BVA ar hyn o bryd.

Yn ei amser hamdden, mae Ifan yn mwynhau bridio a dangos ei ddiadell o ddefaid Ryeland pedigrî, ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn rhedeg rasys dycnwch gan gystadlu mewn marathonau, rasys oddi ar y ffordd a rasys dros bellter hir.

Arwyddair Ifan…

Wyddoch chi fyth nes y byddwch chi’n rhoi cynnig arni.

Jim Hopkins

Dr James Hopkins BVetMed MRCVS

Cyfarwyddwr

Ymunodd yn 2023

Mae Jim yn Filfeddyg Anifeiliaid Fferm ym Milfeddygon Steffan (IVC Evidensia) yn Llanbedr Pont Steffan, Gorllewin Cymru. Mae Jim yn ymddiddori’n benodol mewn gwella iechyd ar ffermydd defaid a bîff, ac mae ganddo ddiddordeb mewn cynorthwyo’r diwydiannau amaethyddol a milfeddygol i ddod yn fwy cynaliadwy.

Mae Jim hefyd yn Gadeirydd Bwrdd Clinigol Anifeiliaid Fferm IVC Evidensia, ac yn Gyfarwyddwr Canolfan Filfeddygol Cymru, a thrwy hynny mae’n mwynhau hyfforddi a chyflwyno i ffermwyr a milfeddygon.

Pan na fydd yn gweithio, bydd Jim yn treulio amser gyda’i deulu a’i gŵn, beicio, ceufadu a theithio yn ei fan wersylla.

Arwyddair Jim...

Mae gan bawb y grym i wneud gwahaniaeth.

Paul Rodgers

Paul Rodgers BVSc MRCVS

Cyfarwyddwr

Ymunodd yn 2015

Mae Paul yn arbenigwr ym maes TB buchol, yn hyfforddwr ac yn Ddatblygwr TG, ac mae ganddo dros 30 mlynedd o brofiad fel milfeddyg. Mae Paul yn ymddiddori ym meysydd rheoli a dileu TB buchol, yn cynnwys yr ymdrech i sicrhau bod y prawf SICCT yn broses fwy diogel i’r milfeddygon swyddogol (OVs) a’r Profwyr Twbercwlin Cymeradwy(ATTs).

Wedi’i ysbrydoli gan waith Paul Livingston, datblygwr TB Free New Zealand, mae Paul yn cydweithio’n rhagweithiol â milfeddygon a ffermwyr i gefnogi dulliau ymarferol o reoli TB buchol a gwella bioddiogelwch ffermydd.

Yn ei amser hamdden, mae Paul yn mwynhau treulio amser gyda’i Wyrion a’i Wyresau, Gwaith Coed, Ffotograffiaeth a Cherdded.

Arwyddair Paul…

Peidiwch fyth â rhoi’r gorau iddi.

Phil Thomas

Phil Thomas BVetMed MRCVS

Rheolwr Gweithrediadau a Datblygu

Ymunodd yn 2015

Mae Phil yn filfeddyg practis cymysg sydd â 37 mlynedd o brofiad yn gweithio yng nghanolbarth a de Cymru.

Mae Phil yn un o Gyfarwyddwr Iechyd Da ers adeg ei sefydlu ac yn un o Gyfarwyddwyr Canolfan Milfeddygaeth Cymru ers 2015. Mae’n un o gymrodyr anrhydeddus Prifysgol Aberystwyth, ac ers 2024, mae’n cynrychioli Cymdeithas Filfeddygol Prydain yng nghyfarfodydd bwrdd rhaglen TB Cymru.

Yn ogystal â chynorthwyo’r genhedlaeth nesaf o filfeddygon, mae Phil yn mwynhau darllen, cerdded ar lwybr yr arfordir, dilyn hynt a helynt y byd pêl-droed a ‘Park Runs’.

Arwyddair Phil…

Os gallwch chi gyflawni rhagor, gwnewch hynny.

Rob Smith

Rob Smith BVetMed MRCVS

Cyfarwyddwr

Ymunodd yn 2015

Mae Rob yn Gyfarwyddwr Farm First Veterinary Services yn y Fenni. Er dros 30 mlynedd, mae Rob wedi gweithio mewn practisau cymysg, ac ers 15 mlynedd, mae’n gweithio gydag anifeiliaid fferm a ffermwyr yn Ne Ddwyrain Cymru.

Mae rôl Rob yn Iechyd Da ac fe arweinydd prosiect Cynllun Arwain DGC wedi tanio diddordeb ynddo yn y gwaith o gefnogi a hyrwyddo proffesiwn milfeddygaeth yng Nghymru.

Pan na fydd yn gweithio, bydd Rob yn rhedeg ym mynyddoedd Cymru ac yn teithio o amgylch mynyddoedd ac arfordiroedd rhannau eraill o’r byd.

Arwyddair Rob...

Gyda’n gilydd, gallwn ni gyflawni pethau gwych.

Stephen Davies

Stephen Davies BVSc MRCVS

Cyfarwyddwr

Ymunodd yn 2023

Mae Stephen yn Rheolwr Gyfarwyddwr ac yn Filfeddyg Clinigol ym Milfeddygon Prostock yng Nghaerfyrddin. Ers cymhwyso o Ysgol Filfeddygaeth Bryste, mae Stephen wedi ymroi i oruchwylio iechyd buchesi a chynorthwyo ffermwyr i gynllunio’n rhagweithiol ar gyfer y dyfodol.

Mae Stephen yn ymddiddori yn anad dim yn ffrwythlondeb a maeth buchesi llaeth.

Yn ystod ei amser hamdden, mae Stephen yn brysur yn cludo ei dri mab i amrywiaeth o feysydd chwaraeon yng Ngorllewin Cymru, a phan fydd amser yn caniatáu, mae’n gwirfoddoli yn ei glwb criced lleol.

Arwyddair Stephen…

Gyda data daw grym.

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Po Box 8, North Road, Aberystwyth, SY23 2WB.

T: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Iechyd Da Limited is a company registered in England and Wales with company number: 1234567

Iechyd Da

Darganfod, datblygu a darparu.

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Blwch Post 8, Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, SY23 2WB.

Ff: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Mae Iechyd Da Cyfyngedig yn gwmni sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni: 08821623