Yma, gallwch ganfod y wybodaeth ddiweddaraf am Adroddiadau Gorfodi VMD ar adeg cyhoeddi’r erthygl hon.
Mae’r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol (VMD) yn ymwneud yn bennaf â gorfodi’r rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol, felly yn achos milfeddygon gweithredol, bydd yn goruchwylio’r gwaith dosbarthu yn bennaf (h.y. hysbysebu, marchnata, cyflenwi a rhoddi cyffuriau). Os oes gennych bryderon am ddosbarthu meddyginiaethau milfeddygol a’ch bod yn dymuno hysbysu’r VMD am y rhain, defnyddiwch un o’r dulliau canlynol:
- Bellach gellir hysbysu’r Adain Orfodi yn ddienw am unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio drwy’r ffurflen adrodd ar y we yn https://www.gov.uk/guidance/report-illegal-animal-medicines
- Drwy ffonio 01932 338 338, gellir gadael neges ddienw ar gyfer yr Adran Gorfodi i roi gwybod am ddiffyg cydymffurfio â’r Rheoliad Meddyginiaethau Milfeddygol
Gellir cysylltu â’r Uned Wybodaeth bwrpasol newydd drwy e-bostio intel@vmd.gov.uk. Defnyddiwch y cyfeiriad e-bost hwn at ddibenion rhannu gwybodaeth/ceisiadau am wybodaeth.
Yn achos unrhyw ymholiadau neu bryderon eraill, daliwch i ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost enforcement@vmd.gov.uk yn y ffordd arferol.
Yn achos unrhyw dramgwydd posibl, efallai bydd rhywfaint o orgyffwrdd â rheolau “Dan Ofal” RCVS. Pe bai’r tramgwyddau yn rhai o fath “Dan Ofal” yr RCVS, mae’r VMD wedi dweud y bydden nhw’n trosglwyddo unrhyw wybodaeth berthnasol i unrhyw un o’r cyrff sy’n ymwneud â goruchwylio agweddau eraill ar y rheoliadau meddyginiaethau. Yn amlwg, gall milfeddygon gysylltu â llinell gyngor gyfrinachol yr RCVS (ffoniwch dîm Cyngor yr RCVS ar 020 7202 0789 neu e-bostiwch advice@rcvs.org.uk).