Mae casglu data’n cymryd amser ac mae’n cymryd hyd yn oed mwy o amser i roi’r gwersi a ddysgir ar waith, felly a fydd y prosiectau ymchwil presennol yn helpu ffermwyr yn y dyfodol agos?
Heb os, meddai Brendan Griffin, Milfeddyg Anifeiliaid Fferm Ymgynghorol yn Fenton Vets, Hwlffordd. Er mwyn fory, mae’n rhaid i ni gychwyn ymchwilio a datblygu heddiw.
Mae gwaith Brendan o ddydd i ddydd yn cynnwys cydweithio â ffermwyr lleol i fynd i’r afael â phroblem heriol TB buchol yn yr ardal. Yn ogystal â chyd-arwain prosiect Sir Benfro, sy’n ymchwiliad rhagweithiol i lefelau creiddiol yr haint yn Sir Benfro.
Mae Brendan yn credu mai’r cyfuniad o ddadansoddi data a gwyddor gymdeithasol yw’r ateb er mwyn helpu ffermwyr, eu da byw a’u busnesau.
Beth yw’r agwedd fwyaf heriol ar eich rôl fel Rheolwr Milfeddygol yng Nghymru yn eich barn chi?
Dweud wrth ffermwr bod un o’i anifeiliaid wedi adweithio i’r prawf TB yw rhan waethaf y swydd, heb os. Mae TB buchol yn effeithio’n drychinebus ar ffermwyr yn ariannol ac yn emosiynol, a ni, y milfeddygon anifeiliaid fferm, yw eu rhwydwaith cymorth. Ein rôl ni yw rhoi cyngor adeiladol a datrysiadau buddiol, ac er mwyn gallu gwneud hyn, mae angen i ni ymchwilio a datblygu’n barhaus i sicrhau bod gennym y wybodaeth a’r sgiliau diweddaraf, ac yn ddelfrydol, bod gam ar y blaen yn y byd cyfnewidiol yr ydym yn byw ynddo.
Beth yn eich barn chi yw’r agwedd ar eich gwaith sy’n fwyaf gwerth chweil?
Gweld ffermwyr yn gwella. Mae’n wych gweld hynny, boed yn iechyd eu da byw neu’n gynnydd eu busnes. Wrth i’r diwydiant gael ei arwain fwyfwy gan ddata, mae hyn yn haws i’w weld, ac mae elwa ar ein hymdrechion yn rhywbeth sy’n cymell ffermwyr a ninnau fel milfeddygon hefyd.
Beth yn eich barn chi yw rôl y Milfeddyg Anifeiliaid Fferm yn natur gyfnewidiol y sector?
Fel milfeddygon anifeiliaid fferm, rydym yn ymwneud fwyfwy â busnesau ein ffermwyr lleol. Rwy’n ystyried rôl y Milfeddyg Fferm fwy neu lai fel rôl Ymgynghorydd, yn defnyddio’n sgiliau a’u rhannu â ffermwyr er mwyn eu galluogi i fonitro eu stoc yn effeithiol a sicrhau’r cynhyrchiant gorau posibl. Gan symud oddi wrth y rol weithredol draddodiadol, rwy’n gweld y milfeddyg anifeiliaid fferm lleol fel pwynt cyswllt uniongyrchol i ffermwyr wella’u sgiliau trin da byw a sicrhau bod y sgiliau hynny heb eu hail, o ran iechyd a lles.
Beth yn eich barn chi fydd yn digwydd yn y dyfodol o ran TB buchol?
Mae TB buchol yn fygythiad cyson i ffermwyr yn ardal Sir Benfro, ac o ganlyniad mae agweddau negyddol ynghylch y pwnc fel y byddech yn ei ddisgwyl. Fodd bynnag, mae prosiect ymchwil Sir Benfro wedi cael croeso yn yr ardal, fel cam cadarnhaol i ymchwilio ymhellach i’r clefyd hwn o safbwynt gwahanol. Mae’r prosiect yn hybu cydweithio lleol ac mae’r canlyniadau hyd yma’n dangos cyfranogiad cadarnhaol ymhlith ffermwyr fel ymateb braf i’w weld i bwnc sensitif.
Pe gallech chi roi un cyngor i ddarpar filfeddyg, beth fyddai’r cyngor hwnnw?
Mae bod ar fferm a chael gweithio ble mae’r gwaith go iawn yn digwydd gyda ffermwyr Cymru a’u da byw yn anrhydedd heb os. Byddwn i’n cynghori darpar filfeddygon y dylen nhw fod yn agos-atoch bob amser, ac y dylen nhw uniaethu â ffermwyr a’u trin fel y bydden nhw’n hoffi cael eu trin.
Beth sy’n eich ysbrydoli i gyflawni mwy na dim ond eich rôl fel Rheolwr Milfeddygol?
Gwneud pethau’n wahanol i’r hen ffordd arferol a gwneud gwahaniaeth go iawn.
Sut fyddwch chi’n ymlacio ar ôl eich gwaith milfeddygol?
Boed law neu hindda, Sul, gŵyl neu waith, byddaf allan yn yr awyr agored. Mae bod yn yr awyr agored yn hyfforddi chwaraewyr rygbi, yn gwneud gwaith adnewyddu ac yn beicio yn rhan bwysig o ‘mywyd i.