Polisi Preifatrwydd
Mae Iechyd Da (Gwledig) Ltd yn deall bod y wybodaeth yr ydych yn ei rhannu â ni yn bwysig i chi, ac rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd, yn ogystal â nodi’n eglur sut mae’r wybodaeth a gasglwn yn cael ei defnyddio er mwyn darparu ein gwasanaethau i chi.
Nod
Nod y polisi preifatrwydd hwn yw cynnig gwybodaeth i chi ynghylch sut mae Iechyd Da yn casglu ac yn prosesu eich data personol trwy eich defnydd o’r wefan hon (iechydda.cymru).
Crynodeb
Mae Iechyd Da (Gwledig) Ltd yn Gwmni Preifat cyfyngedig trwy warant heb gyfalaf cyfranddaliadau. Ymgorfforwyd y cwmni ar 19 Rhagfyr 2013, rhif y cwmni: 08821623.
Ni wnaiff Iechyd Da werth eich gwybodaeth bersonol na’i rhannu ag unrhyw drydydd parti.
Fe wnaiff Iechyd Da ddiogelu’r holl wybodaeth bersonol gan ddefnyddio rheolaethau sefydliadol a thechnegol priodol.
Bydd Iechyd Da yn cadw eich data cyhyd ag y bo angen yn unig.
Mae gennych hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth bersonol sydd gan Iechyd Da amdanoch chi ac awgrymu cywiriadau neu ddileadau.
Rheolydd
Iechyd Da (Gwledig) Ltd yw’r rheolydd ac mae’n gyfrifol am eich data personol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y modd y mae Iechyd Da wedi ymdrin â’ch data personol, cysylltwch â ni drwy e-bostio info@iechyda.cymru neu drwy’r post yn Iechyd Da (Gwledig) Ltd, Blwch Post 8, Heol y Gogledd, Aberystwyth SY23 2WB.
Mae gennych hawl i gyflwyno cwyn ar unrhyw adeg i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef awdurdod y DU at ddibenion diogelu data (ico.org.uk). Byddai Iechyd Da yn gwerthfawrogi cael cyfle i ymateb i’ch pryderon cyn i chi gysylltu â’r ICO felly cysylltwch â ni i ddechrau os gwelwch yn dda.
Gwybodaeth y gall Iechyd Da ei chasglu oddi wrthych chi
Efallai y byddwn yn casglu, defnyddio, storio a throsglwyddo’r wybodaeth ganlynol:
Data hunaniaeth gan gynnwys eich enw cyntaf, enw morwynol, cyfenw, enw defnyddiwr neu ddynodwr tebyg, statws priodasol, teitl, dyddiad geni, rhywedd ac enw eich cwmni.
Eich manylion cyswllt gan gynnwys cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post a rhif ffôn.
Data y byddwch yn eu hanfon at Iechyd Da drwy’r wefan hon, gan gynnwys gwybodaeth a ddarperir gennych drwy arolygon ar wefan Iechyd Da, neu wybodaeth ysgrifenedig arall sy’n ymwneud ag ymholiad.
Data ynghylch defnydd o’r wefan sy’n cynnwys gwybodaeth am sut rydych chi’n defnyddio ein gwefan.
Data technegol gan gynnwys cyfeiriad protocol rhyngrwyd (IP), math o borwr a fersiwn, gosodiad a lleoliad parth amser, mathau a fersiynau ategion porwr, system weithredu a llwyfan, a thechnoleg arall ar y dyfeisiau a ddefnyddiwch i gyrchu’r wefan hon.
Data marchnata a chyfathrebu sy’n cynnwys eich dewisiadau o ran cael negeseuon marchnata oddi wrthym a’ch dewisiadau cyfathrebu.
Mae Iechyd Da yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion sy’n:
- Cysylltu ag Iechyd Da trwy’r post, dros y ffôn, trwy e-bostio neu mewn rhyw ffordd arall;
- Defnyddio Systemau Gwybodaeth a Chyfathrebu Iechyd Da;
- Llenwi ffurflen trwy gyfrwng gwefan Iechyd Da;
- Ateb arolwg ar wefan Iechyd Da;
- Tanysgrifio i dderbyn gwasanaethau neu gyhoeddiadau Iechyd Da;
- Gofyn am i negeseuon marchnata gael eu hanfon atynt;
Wrth ddefnyddio gwefan Iechyd Da (wrth i chi ryngweithio â gwefan neu systemau Iechyd Da), bydd Iechyd Da yn casglu data technegol yn awtomatig am eich offer a’ch gweithredoedd a’ch patrymau pori. Bydd Iechyd Da yn casglu’r data personol hyn gan ddefnyddio cwcis a thechnolegau tebyg eraill.
Data a geir oddi wrth drydydd partïon
Efallai y caiff Iechyd Da ddata personol amdanoch chi oddi wrth y trydydd partïon canlynol:
Rocket Science Group LLC, sy’n rhedeg MailChimp, system y mae Iechyd Da yn ei defnyddio i reoli rhestrau tanysgrifwyr e-byst marchnata ac i anfon e-byst at danysgrifwyr.
Llywodraeth Cymru, a all fod â chontractau ag Iechyd Da ar gyfer darparu gwasanaethau penodol.
Sut bydd Iechyd Da yn defnyddio eich data personol
Ni fydd Iechyd Da yn defnyddio eich data personol oni bydd y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny. Yn fwyaf cyffredin, bydd Iechyd Da yn defnyddio eich data o dan yr amgylchiadau canlynol:
- Pan fydd angen i ni gyflawni'r contract y byddwn ar fin ymrwymo iddo neu y byddwn wedi ymrwymo iddo â chi.
- Pan fo hynny’n angenrheidiol at ddibenion ein buddiannau cyfreithlon ac ni fydd eich buddiannau chi a’ch hawliau sylfaenol yn drech na’r buddiannau hynny.
- Pan fo angen i ni gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol.
Storio gwybodaeth
Rydym bob amser yn storio eich gwybodaeth yn ddiogel.
Er mwyn atal datgelu neu gyrchu eich gwybodaeth heb awdurdod i wneud hynny, mae Iechyd Da wedi rhoi mesurau diogelwch ymarferol ac electronig cryf ar waith i sicrhau (i’r graddau y mae hynny’n rhesymol bosibl) y cynhelir cyfrinachedd eich gwybodaeth bob amser.
Bydd unrhyw wybodaeth bersonol y bydd gennym amdanoch chi yn cael ei storio a’i phrosesu yn unol â deddfwriaeth berthnasol yn ymwneud â diogelu data.
Cwcis
Mae cwci yn ffeil destun fechan sy’n cael ei storio ar eich dyfais gan weinydd gwe o fewn ein parth. Ni ellir defnyddio cwcis i redeg rhaglenni meddalwedd nac i osod firws ar eich dyfais. Maent yn unigryw i chi ac yn osgoi ichi orfod mewnbynnu’r un wybodaeth a’r un dewisiadau bob tro y byddwch yn ymweld â gwefan Iechyd Da.
Gallwch rwystro cwcis trwy actifadu’r gosodiad ar eich porwr sy’n eich galluogi i wrthod gosod pob cwci neu rai cwcis. Fodd bynnag, os byddwch yn defnyddio gosodiadau eich porwr i rwystro pob cwci, efallai na fyddwch yn gallu cyrchu holl gynnwys y wefan.
Datgelu eich data personol
Efallai bydd Iechyd Da yn rhannu eich data personol â’r partïon isod.
- Darparwyr gwasanaeth sy'n gweithredu systemau TG, gwasanaethau gweinyddu systemau a chymorth busnes cyffredinol.
- Ymgynghorwyr proffesiynol gan gynnwys cyfreithwyr, cyfrifwyr ac yswirwyr sy'n darparu gwasanaethau ymgynghori, bancio, cyfreithiol, yswiriant a chyfrifyddu.
- Llywodraeth Cymru, a Llywodraeth y DU a’u hasiantaethau sydd wedi’u lleoli yn y Deyrnas Unedig y bydd angen eu hysbysu am weithgareddau prosesu o dan rai amgylchiadau.
- Sefydliadau sydd wedi cael contractau gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth penodol.
Ni fyddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol â neb ac eithrio trydydd partïon dibynadwy sydd â’r contractau a’r rheolaethau priodol yn eu lle, ac ar ôl i ni ystyried eu polisïau a’u prosesau trin gwybodaeth.
Dolenni i wefannau allanol
Gall gwefan Iechyd Da gynnwys dolenni i wefannau trydydd partïon. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau eraill, nac am ddiogelu neu breifatrwydd y data y byddwch yn eu cyflwyno iddynt. Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn ymwneud â gwefan Iechyd Da yn unig.
Marchnata
Gall Iechyd Da ddefnyddio eich data personol, gan gynnwys data a dderbynnir gan drydydd partïon, i ystyried beth yn ein tyb ni y bydd arnoch ei eisiau neu ei angen, neu beth allai fod o ddiddordeb i chi. Dyma sut byddwn yn penderfynu pa wasanaethau neu gynigion a allai fod yn berthnasol i chi.
Gallwch ofyn i ni roi’r gorau i anfon negeseuon marchnata atoch unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen optio allan mewn unrhyw neges farchnata a anfonir atoch neu drwy gysylltu â ni’n uniongyrchol ar unrhyw adeg.
Eich hawliau cyfreithiol
Mae gennych hawl i:
- Ofyn am gael gweld eich data personol (“cais gwrthrych am wybodaeth”). Mae hyn yn eich galluogi i gael copi o’r holl ddata personol sydd gennym amdanoch ac i gadarnhau ein bod yn eu prosesu’n gyfreithlon.
- Gofyn am gael cywiro unrhyw ddata personol sydd gan Iechyd Da amdanoch chi. Mae hyn yn eich galluogi i sicrhau y caiff unrhyw ddata anghyflawn neu anghywir eu cywiro.
- Gofyn am gael dileu eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i Iechyd Da ddileu a diddymu unrhyw ddata personol os nad oes unrhyw reswm da sy’n cyfiawnhau ein bod yn parhau i’w prosesu. Mae’n bosibl na fydd Iechyd Da yn gallu cydymffurfio bob amser â’ch cais i ddileu data oherwydd rhesymau cyfreithiol penodol. Byddwch yn cael eich hysbysu am y rhesymau hynny, os yn berthnasol, yn dilyn eich cais.
- Gwrthwynebu prosesu eich data personol Dyma pan fydd Iechyd Da yn dibynnu ar fuddiant dilys (neu fuddiant trydydd parti) a bydd rhywbeth ynghylch eich sefyllfa benodol yn gwneud i chi ddymuno gwrthwynebu prosesu ar y sail hon, oherwydd byddwch yn teimlo bod hynny’n effeithio ar eich hawliau a’ch rhyddid sylfaenol.
- Gofyn am gael cyfyngu ar brosesu eich data personol Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i Iechyd Da atal prosesu eich data personol dan yr amgylchiadau canlynol:
- Os byddwch am i Iechyd Da benderfynu pa mor gywir yw’r data
- Pan fo defnydd Iechyd Da o’r data yn anghyfreithlon ond na fyddwch am i ni ddileu’r data hynny.
- Pan fyddwch am i Iechyd Da gadw’r data hyd yn oed os na fydd eu hangen arnom mwyach oherwydd bydd arnoch eu hangen i sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.
- Rydych wedi gwrthwynebu dull Iechyd Da o ddefnyddio eich data ond mae angen i ni gadarnhau a fydd gennym seiliau cyfreithiol i’w defnyddio sy’n drech na’ch hawliau.
- Gofyn am gael trosglwyddo eich data personol i chi neu i drydydd parti. Bydd Iechyd Da yn rhoi eich data personol i chi, ni i drydydd parti y byddwch wedi’i ddewis.
- Atal eich cydsyniad unrhyw bryd pan fo Iechyd Da yn dibynnu ar gydsyniad i allu prosesu eich data personol. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar natur gyfreithlon unrhyw brosesu a ddigwyddodd cyn i chi atal eich cydsyniad.
Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau uchod, cysylltwch ag Iechyd Da trwy e-bostio info@iechydda.cymru neu anfon llythyr at Iechyd Da (Gwledig) Ltd, Blwch Post 8, Heol y Gogledd, Aberystwyth, SY23 2WB.
Byddwn yn ceisio ymateb ymhen 10 diwrnod gwaith a darparu’r wybodaeth ymhen 28 diwrnod gwaith.
Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi er mwyn cyrchu eich data personol (nac arfer unrhyw hawliau sydd gennych). Fodd bynnag, gallwn godi ffi resymol os bydd yn amlwg bod eich cais yn ddi-sail, yn ailadroddus neu’n ormodol. Dan yr amgylchiadau hynny, gallem wrthod cydymffurfio â’ch cais.
Cwynion
Mae Iechyd Da yn gweithio’n galed i sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn briodol a byddai bob amser yn croesawu’r cyfle i unioni unrhyw gwynion sydd gennych ynghylch eich data a gedwir gan Iechyd Da. Gallwch gysylltu ag Iechyd Da trwy e-bostio info@iechydda.cymru neu anfon llythyr at Iechyd Da (Gwledig) Ltd, Blwch Post 8, Heol y Gogledd, Aberystwyth, SY23 2WB.
Cadw eich data
Mae Iechyd Da (Gwledig) Ltd a’r wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanoch yn destun gofynion rheoleiddiol a chyfreithiol. Ni fydd Iechyd Da yn cadw eich data personol yn hwy na’r hyn sy’n ofynnol ar gyfer ein galluogi i gyflawni ein rhwymedigaethau i chi. Os bydd angen cadw eich data, byddwn yn sicrhau bod y mesurau diogelu a threfniadol priodol yn cael eu rhoi ar waith i ddiogelu’r defnydd o’ch data.
Trosglwyddiadau rhyngwladol
Bydd y rhan fwyaf o weithgarwch Iechyd Da yn digwydd yn y DU ac felly rydym yn gweithredu yn unol â gofynion yr ICO (y prif awdurdod diogelu data yn y DU).
Dylech nodi, efallai na fydd gan rai gwledydd oddi allan i Ardal Economaidd Ewrop (AEE) fesurau diogelu tebyg i’r rhai a ddefnyddir yn AEE at ddibenion diogelu a defnyddio eich data personol. Felly, os byddwn yn trosglwyddo eich data personol i wledydd oddi allan i AEE, byddwn yn cydymffurfio â’r rheolau cyfreithiol perthnasol sy’n llywodraethu trosglwyddiadau o’r fath ac yn cymryd camau rhesymol i sicrhau y caiff eich data eu trin yn ddiogel.
Newidiadau i’r polisi hwn
Bydd Iechyd Da yn adolygu’r Polisi Preifatrwydd o bryd i’w gilydd ac yn diweddaru’r fersiwn sydd ar gael ar y wefan a thrwy gyfrwng sianeli cyfathrebu priodol.