Annwyl pawb,
Fel yr ydych yn gwybod, mae Iechyd da wedi datblygu tu hwnt i’w bwrpas gwreiddiol o ddarparu gwasanaethau OV i’r llywodraeth. Yn hyn o beth mae’r orchwyl wedi mynd i’r pwynt ble roedd angen fwy o adnoddau i’r cwmni esblygu yn ogystal â goruwchwylio y prosiectau sydd gyda ni yn bresennol.
Hysbysebwyd swydd, rhan amser, am swyddog gweithredu a datblygu; a phenodwyd Phil Thomas i ddechrau ar 1/11/2024.
Mae Phil wedi bod ar fwrdd Iechyd Da ers 2013 a newydd ymddeol o fwrdd Milfeddygon Ystwyth.
Mae yna sawl cyfrifoldeb i’r swydd yma yn cynnwys cysylltu a’r aelod practisau am syniadau ac adborth yn ogystal a pharatoi am y tender nesaf, a fydd hwnnw gyda ni wap.
Gan fod aelodau Iechyd Da gyda nifer o safleoedd a cherbydau, mae’n debyg gall ein hôl traed carbon fod yn sylweddol. Rhan o’i waith bydd i weld sut y gallwn ni leihau hyn. Mi fydd yn cynhyrchu cylchlythyr misol am gyfleodd i wneud ein gwaith yn fwy cynaliadwy.
Yr ydym yn gobeithio y byddwch yn cefnogi Phil yn ei rôl newydd. Yr ydym yn hyderus y gall gryfhau sefyllfa Iechyd Da o fewn ein diwydiant.