Croeso i Fwletin Misol Iechyd Da. Gwybodaeth a diweddariadau defnyddiol i gyd yn yr un fan.
Lladd anifeiliaid ar fferm – Peryglon o drin gwartheg gyda meddyginaethau cyn prawf TB
Yn y tair mlynedd rhwng Tachwedd 2020 i Hydref 2023, lladdwyd 1131 o wartheg ar ffermydd oherwydd iddynt fethu profion TB tra bod meddyginiaethau a roddwyd ynghynt, dal yn y cyfnod cadw o’r gadwyn fwyd.
Nid yw’n bosibl osgoi lladd ar fferm yn gyfan gwbl, ond mae pethau ymarferol y gellir eu gwneud i leihau hyn.
Gall meddyginiaethau ymyrryd â chanlyniadau prawf TB, oherwydd mae’r prawf TB yn dibynnu ar imiwnedd y corff ac mae meddyginiaethau yn gallu effeithio’r imiwnedd. Mae’n bosib y bydd rhaid i anifeiliad sydd wedi cael triniaeth orfod cael eu lladd ar fferm neu, gall fod yna oedi cyn iddynt cael eu cludo o’r fferm (ac mae hyn yn cynyddu hyd y cyfyngderau ar y fferm ac efallai yn ychwanegu at risg y fferm o ran TB).
Felly mae’n bwysig i beidio trin anifeiliad gyda triniaethau sydd ddim eu hangen ar frys e.e, brechiadau neu driniaethau yn erbyn llynger, cyn prawf TB os bydd y cyfnod cadw o’r gadwyn fwyd heb orffen cyn eich prawf TB. Mae canllawiau presennol milfeddygol yn dweud y dyla’r rhain ddim ond cael eu defnyddio ar ôl i anifail gael canlyniad clir mewn prawf TB.
Os oes wir angen triniaeth ar frys, mae rhaid gwneud hyn neu bydd lles yr anifail yn cael ei effeithio yn andwyol.
Os oes rhaid trin, gwnewch ef; os oes modd oedi, oedwch.
BTV-3
Mae APHA yn gwneud profion olrhain ar anifeiliad i edrych am Glefyd y Dafod Las ar anifeiliad sydd wedi dod o ardaloedd gyda risg uwch. Mae hyn yn cael ei wneud er mwyn darganfod presenoldeb anifeiliaid sydd wedi’u heintio mor fuan â phosib..
Cofiwch hefyd ystyried lleoliad eich anifeiliad os ydynt yn mynd i ffwrdd i aeafu. Mae ardaloedd yn gallu mynd o dan gyfyngiadau ar unrhyw adeg a gall fod yn anodd i gludo eich creaduriaid yn ôl neu hyd yn oed yn amhosibl,(ar hyn o bryd mae anifeiliad yn y parthau cyfyngedig wedi’u gwahardd rhag dod i Gymru).
Gallwch wylio’r cyfarfod diweddaraf yma.
Ail wampio brand Iechyd Da
Yr ydym yn falch o’r gwaith sydd wedi mynd mewn i greu ein delwedd newydd. Mae’r broses hyn wedi gwneud i ni ystyried pwrpas Iechyd Da a beth yw ein gwerthoedd craidd. Yn syml,
Darganfod, datblygu a darparu.
Gyda’n gweledigaeth gref wedi ei grisialu, yr ydym am gyfathrebu’n glir a hyderus am ein gwaith ysbrydoledig sydd yn cael ei wneud gyda’n gilydd.
Mae’r ail wampio yn dechrau cyfnod newydd i ni, ac ‘rydym yn defnyddio hyn i dynnu sylw at y prosiectau a gweithgareddau rhagweithiol ac arloesol yr ydym yn ymwneud â hwy yn feunyddiol.
Beth nesaf? Mae’r sylfaen wedi’i osod i greu darpariaeth ddigidol, newyddion ar y cyfryngau cymdeithasol a digwyddiadau. Mae mwy i ddod..
Cysylltu â Iechyd Da
Yn dilyn y newidiadau yma, mi welwch fod ein cyfeiriadau e-bost wedi newid hefyd:
General – info@iechydda.cymru
Natasha Thomas – natasha.thomas@iechydda.cymru
Grace Lewis – grace.lewis@iechydda.cymru
Peidiwch poeni os eith eich e-byst i’r hen gyfeiriad, mi fyddant yn cael eu hail-gyfeirio am gyfnod eto.