Dyma wahoddiad i gymryd rhan mewn holiadur ar iechyd carnau a chloffni yn y fuches bîff. Mae’r arolwg hwn yn rhan o brosiect ehangach ‘Carnau Cadarn – Beefed up Mobility’. Nod y prosiect hwn yw helpu ffermwyr a’u milfeddygon i wella iechyd carnau gwartheg ar ffermydd. Bydd yr arolwg yn cymryd tua 5 munud i’w gwblhau. Bydd y data fydd yn cael ei gasglu yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol a bydd ond yn cael ei ddefnyddio’n ddienw. Gallwch dynnu’n ôl o gymryd rhan yn yr holiadur ar unrhyw adeg. Trwy gwblhau’r holiadur, rydych chi’n rhoi eich caniatâd i gymryd rhan. Ar ddiwedd yr holiadur, byddwch yn cael eich gwahodd i roi eich cyfeiriad e-bost er mwyn cael bod yn rhan o raffl sy’n cynnwys taleb werth £100 fel gwobr. Gallwch wario’r daleb hon gyda chyflenwr amaethyddol lleol. Noddwyd y wobr hon gan Arwain DGC. Os byddwch chi’n dewis cymryd rhan, bydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei dynnu o weddill eich ymatebion fel bod pob ateb unigol yn aros yn ddienw. Fydd eich cyfeiriad e-bost ddim yn cael ei ddefnyddio at unrhyw ddibenion eraill.
Milfeddyg. https://app.onlinesurveys.jisc.ac.uk/s/fd/carnau-cadarn-beefed-up-mobility-vets-cymraeg
Ffermwr https://app.onlinesurveys.jisc.ac.uk/s/fd/carnau-cadarn-beefed-up-mobility-ffermwr