APHA
Mae’r cyfarwyddiadau i ATTs yng Nghymru a Lloegr wedi eu diweddaru. Gwnewch yn siwr eich bod wedi darllen rhain ar Improve International, os gwelwch yn dda.
Mae yna ‘Restr Wirio Perchnogion’ newydd wedi cael ei chyhoeddi – ‘TB Reactor Removal in Wales’. Gwnewch yn siwr mai yr un diweddaraf sydd ganddo chi.
Casglwyr samplau gwaed cymeradwy (ABS) – casglu samplau ar gyfer BVD yng Nghymru.
Nodyn i atgoffa OVs, ABSs ac ATTs fod angen dilyn y cyfarwyddiadau i gyd cyn gall ABS gasglu gwaed o wartheg i brofi am BVD
Angen gwirfoddolwyr ar gyfer Ymchwil Defnyddwyr
Mae DEFRA ac APHA yn adolygu’r ffyrdd mae milfeddygon yn gallu cysylltu ag APHA am gymorth. Maent yn awyddus i chi gymryd rhan, fel defnyddwyr o’r gwasanaeth yma, a bydd eich adborth ar eich profiad o ddefnyddio hyn yn werthfawr iawn iddynt. Fe gewch hefyd gyfle i rhoi eich barn ar syniadau a phrototeip newydd o’r gwasanaeth cyswllt newydd.
Mae’r gwaith ymchwil yn mynd i fod ar ffurf ymgynghoriad dros linc fideo gyda ymchwilydd o APHA, Stu Penny. Bydd modd trefnu’r sesiynau yma ar amseroedd sydd yn gyfleus i chi ym mis Hydref. Os oes diddordeb, cysylltwch trwy ddefnyddio y linc isod.
https://defragroup.eu.qualtrics.com/jfe/form/SV_9FtdJ2XFqSis2cm
Aros yn gyfredol o ran newidiadau a diweddariadau
Mae’n debyg ers i’r diweddariadau i ffurflenni a chyfarwyddiadau gael eu symud i Improve nad yw rhain yn cael eu danfon yn gyson trwy ebyst i OVs
I ddarganfod newidiadau a diweddariadau dilynwch APHA ar X (@APHAgovuk) / X
Isod gwelwch y linc diweddaraf am gyfarwyddiadau ar Brofion TB ar wartheg.
BTV3
Mae llawer wedi newid yn ddiweddar ynglŷn â’r Tafod Glas. Ac yn hytrach na dweud hen newyddion dyma’r linc i gael y newyddion diweddaraf am y Tafod Glas.
https://www.gov.wales/bluetongue
Profion TB i anifeiliaid nad ydynt yn fuchol (non bovine)
Ar sawl achlysur mae yna fethiant KPI ar brofion TB ar anifeiliaid nad ydynt yn fuchol. Gwnewch yn siwr fod y gwaith papur a’r WSA wedi gofnodi a’i ddanfon ar SAM.
I helpu gyda hyn yr ydym yn mynd i ddanfon ebost i’ch atgoffa am y profion yma. Fe fydd rhain yn cael eu danfon o fewn 5 diwrnod gwaith o ddyddiad y TT1, ac mi fydd hyn yn ein galluogi i gael WSA trwodd mewn da bryd.
Mae ein KPIs yn dibynnu ar ddanfon y canlyniadau yn brydlon.
Damweiniau a’r digwyddiadau lle fuont bron a digwydd.
Diolch i’r bobl hynny sydd yn danfon yr adroddiadau yma i mewn. Rydym yn gwybod eich bod yn wynebu problemau gyda profion ond dim ond canran fechan sy’n cael eu recordio ar DEWIN.
Gwnewch yn siwr fod rhain hefyd yn cael eu rhoi ar DEWIN ac os oes angen cymorth arno chi, cysylltwch â’r swyddfa.