APHA
Mae APHA wedi darganfod sawl achos o wartheg wedi cael sawl prawf TB o fewn 60 niwrnod. Gan amlaf mae hyn yn digwydd ar brofion mawr ble mae’r prawf wedi ei rannu yn sawl
rhan-brawf dros sawl diwrnod. Mae APHA yn ymchwilio i’r rhesymau tu ôl i hyn.
APHA Nodyn Briffio 36/25 – duplicate TB test submissions
Mae yna Nodyn Briffio arall wedi ei ryddhau ar un pryd, sef
APHA nodyn briffio 37/25- request for TT OVs and ATTs to review their personal details, including VDP status on their Imrove International training record
Dyw rhain ddim ar gael yn ddwyieithog yn anffodus.
Methiant mewn Dangosydd Perfformiad Allweddol (KPI)
Rhoi canlyniadau profion ar anifeiliaid nad ydynt yn fuchol ar SAM
Ar sawl achlysur mae yna fethiant KPI wedi bod ar brofion ar anifeliaid nad ydynt yn fuchol, trwy’r methiant o lenwi’r WSA ar SAM
Gwnewch yn siwr fod y gwaith papur a’r WSA wedi gofnodi a’i ddanfon ar SAM.
Yn aml mae’r profion yn cael eu ebostio/postio i APHA, ond mae’r WSA yn cael ei fethu ar SAM.
I geisio mynd i’r afael â hyn rydym yn gofyn i bractisau/OV gopio Iechyd Da i mewn ar yr ebost fel ein bod ni yn medru monitro yr WSA cyn iddo fynd yn fethiant KPI.
Mae ein KPIs yn dibynnu ar ddanfon y canlyniadau yn brydlon ac yn bren mesur o’n perfformiad ni i gyd.
Talebau Cymorth.
Diolch i bawb sydd wedi bod yn cwblhau eich Talebau Cymorth ar Dewin.
Mae’r dewis “derbyn/gwrthod” i weld yn gweithio’n dda i alluogi APHA i ddanfon mlaen y dogfennau priodol. ( Yn ddelfrydol a allech roi o leiaf 2 ddiwrnod gwaith i APHA baratoi hyn).
Er dweud hynny, yr ydym yn cael sawl WSA Cymorth sydd heb eu cyffwrdd gan bractisiau ac fe fydd rhain yn cael eu diddymu gan APHA.
A fedrwch chi gysylltu gyda’r ffermwyr i weld os ydynt am ddefnyddio y Daleb Cymorth neu beidio yn brydlon os gwelwch yn dda.
DEHONGLI PROFION
Mae APHA wedi tanlinellu nifer o brofion sydd wedi eu cofnodi gan ddefnyddio y dehongliad anghywir.
Cofier os yw OV neu ATT yn datgelu adweithydd ar fferm OTF neu OTFS fe ddylid ail ddehongli ar ddehongliad llym (severe) a gwneud unrhyw rhan-brawf yn y dyfodol o dan ddehongliad llym hefyd (fe fydd APHA yn ail-ddehongli unrhyw rhan-brawf wedi eu cwblhau). Ble mae’n bosib dylai’r OV/ATT roi tag DNA gwyrdd yn yr adweithyddion i gyd, yn cynnwys rhai o dan amodau llym (severe reactors) a adweithyddion amhendant sydd yn dod yn adweithyddion o dan amodau llym).
Os yw hi’n bosib rhowch y tag i mewn i’r rhai sydd wedi cael eu darllen yn barod ac esboniwch y newidiadau i’r ffermwyr.
O’r cyntaf o Ionawr 2026 fe fydd adweithyddion amhendant sydd wedi cael ail brawf clir yn cael eu cyfyngu i’r daliad ble’u datgelwyd am eu hoes.
Fe fydd hyn yn effeithio ar bob un adweithydd amhendant o dan ddehongliad safonol ( standard interpretation) sydd hefyd wedi cael ail brawf o dan amodau safonol.
Fe fydd eu symudiadau yn cael eu cyfyngu i :
Aros ar y daliad ble datgelwyd y canlyniad
symud i ladd-dŷ
symud i uned besgi gymeradwy (AFU)
Gall y symud yma fod yn uniongyrchol, trwy farchnad Oren neu gasgliad lladd gymeradwy.
