APHA
Profion cyn ac ar ôl symud (PRMT a POSTMT) ar ffermydd o dan waharddiadau symud.
O dan y ddeddfwriaeth TB fel ac y mae hi yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, gall brofion TB ar anifeiliad ddim ond cael eu gwneud ar ôl cael caniatad o’r Gweinidog o’r Awdurdod perthnasol.
I hwyluso gwneud profion cyn ac ar ôl symud mae yna Ganiatad Cyffredinol sy’n galluogi gwneud hyn, os yw y gofynion isod yn bodoli:
1 Bod yr anifeiliad heb cael prawf croen yn y 60 niwrnod diwethaf.
2 Bod yr OV yn hapus fod yr anifeiliaid ddim o dan unrhyw waharddiad symud
3 Ar ôl gwneud y prawf, bod canlyniadau y prawf yn cael eu danfon i APHA.
Felly oherwydd yr ail reol uchod, NID yw y Caniatad Cyffredinol yn galluogi gwneud profion cyn ac ar ôl symud ar ffermydd sydd o dan waharddiad symud oherwydd TB. I fedru gwneud rhein, bydd angen cysylltu ac APHA i gael caniatad uniongyrchol i wneud y profion yma.
Arolwg Watery mouth (geg ddyfrllyd neu y geglaith)
A fedrwch chi ddosbarthu yr arolwg yma ar ba gyfryngau cymdeithasol yr ydych yn eu defnyddio – ma linc i hwn ar wefan Iechyd Da, neu rhanwch y postiad Facebook gan Iechyd Da.
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bryste, fel rhan o brosiect arloesol Arwain DGC,wedi cyhoeddi arolwg ar-lein i geisio deall mynychder, triniaethau a dulliau atal y geg ddyfrllyd neu Watery Mouth ymysg diadelloedd Cymru.Mae nhw’n galw ar ffermwyr Cymreig i gwblhau yr arolwg i gyfrannu tuag at yr ymchwil pwysig yma, hyd yn oed os nad ydynt â phrofiad union gyrchiol o’r clefyd.
Mae’r arolwg angen ryw gwarter awr i’w gwblhau. Fe fydd pawb sy’n cyfrannu yn cael ei rhoi mewn i’r het ac fe fydd un person lwcus yn medru ennill offer a darllennydd EID Shearwell, gwerth dros £775.
Link to Welsh survey: https://app.onlinesurveys.jisc.ac.uk/s/svs/clefyd-y-geg-ddyfrllyd-ymhlith-wyn
Siartiau profion ar anifeiliaid nad ydynt yn fuchol (non-bovine).
Cofiwch gopïo eich siartiau nad ydynt yn fuchol i Iechyd da yn ogystal ac ar SAM
Ar sawl achlysur mae yna fethiant KPI wedi bod ar brofion ar anifeliaid nad ydynt yn fuchol, trwy’r methiant o gwblhau’r WSA ar SAM
Gwnewch yn siwr fod y gwaith papur a’r WSA wedi gofnodi a’i ddanfon ar SAM, a chopi i Iechyd Da.
Newidiadau i’r gofynion i rhywun fod yn Oruwchwylydd Enwebedig yn eu gwaith yn goruwchwylio darpar OV i gwblhau yr OCQ (V)-TT.
Yn ran o’r broses i gwblhau yr OCQ(V)-TT mae angen i’r darpar OV cael Goruwchwylydd Enwebedig i gwblhau ei hyfforddiant practegol.
Mae’n rhaid i’r Goruwchwylydd Enwebedig fod:
yn OV sydd gyda’r cymwyster OCQ(V)-TT yn barod,
yn OV profiadol,
yn hyderus i wneud yr hyfforddiant.
Ar hyn o bryd nid oes yna unrhyw ofynion ynglyn a hanes archwiliad (audit) y Goruwchwylydd Enwebedig.
Mae yna newid ar ei ffordd o’r 1/06/2026, sef, fod angen i Oruwchwylydd Enwebedig i’r cwrs OCQ(V)-TT cael archwiliad gan APHA, VDP, neu Improve International o fewn y ddwy flynedd olaf cyn cychwyn. Mae hyn yn cysoni pethau gan fod hyn yn anghenrheidiol i’r goruchwylydd yr ATTs o dan reloau y cwrs OCQ (AHP)-ATT yn barod.
Nid yn unig cael archwiliad ond hefyd cydymffurfio gyda’r rheolau, ac os oes sawl archwiliad wedi bod yn y cyfnod yma mae’n rhaid i’r un olaf fod wedi cydymffurfio. Os oes unrhyw anghydymffurfio ar yr archwiliad- nid yw yr ymgeisydd yn cael ei ystyried yn gymwys i fod yn Oruwchwylydd Enwebedig.
Dilynwch y linc am fwy o fanylion
Newidiadau i ddulliau Archwiliad UK Farmcare.
Yn y broses o archwilio OV neu ATT, mae dull UK Farmcare wedi bod yn un sy’n seiliedig ar cydweithrediad rhwng yr Archwilydd a’r person sy’n gwneud y prawf; er mwyn sicrhau fod y prawf SICCT yn cael ei wneud i’r safon gorau posib. Os gwelwyd unrhyw fater a oedd yn codi yn ystod y cyfnod cyntaf o’r ymweliad, fe fydd rhein yn cael eu trafod cyn fod y darn o’r archwiliad sy’n cael ei farcio yn cychwyn (er mwyn i’r person sy’n gwneud y prawf gael cyfle i wneud newidiadau i’w techneg).
Mae APHA moyn newid y trefniant yma o’r 1/1/2026 fel fod yna ddim cyfnod sydd dim yn cael ei farcio, felly ni fydd y broses o ymgynghori yn digwydd, ac fe fydd y marcio a’r pwyntiau cosb yn cael eu cofnodi trwy yr archwiliad i gyd.
Mae’r deunydd archwilio a’r llawlyfrau yn cael eu newid i fod yn barod erbyn y Cyntaf o Ionawr. Yr ydym yn ystyried sut i gydweithio gyda OVs i leihau yr effaith o’r newidiadau. Y mae y newid yn fwyaf tebygol o effeithio ar OVs sy’n goruwchwylio ATTs newydd, gan all archwiliad sydd ddim yn cydymffurfio feddwl nad yw yr OV yn gallu goruwchwylio hyfforddiant ATT (nac OVs o 1/6/26 ymlaen fel y soniwyd amdnao uchod). Yr ydym wedi sôn am hyn i APHA eisoes.
Fe ddaw canllawiau pellach a diweddariad o’r deunydd hyfforddi cyn bo hir, ond yr oeddem am eich diweddaru a’r newyddion ma mor gynted a oedd phosib.
