Ap Arwain DGC yn Helpu i Wella Bioddiogelwch ar Ffermydd

Mae ap pwrpasol i wella bioddiogelwch ar ffermydd, a dreialwyd gan filfeddygon a ffermwyr yng Nghymru, wedi gwella iechyd da byw ac ysgogi camau i frwydro yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) ymhlith anifeiliaid. 

Mae milfeddygon a ffermwyr wedi bod yn treialu’r ap asesu risg bioddiogelwch, HerdSafe, fel rhan o raglen Arwain DGC (Defnydd Gwrthficrobaidd Cyfrifol / Responsible Antimicrobial Use).  

Mae Arwain DGC, rhaglen arobryn a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cefnogi ffermwyr a milfeddygon yn y frwydr yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) trwy benderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata, technolegau arloesol, ac arferion gorau. 

Datblygodd partneriaid y rhaglen, Iechyd Da, mewn partneriaeth â Cefn Gwlad Solutions Ltd, yr ap asesu risg bioddiogelwch, HerdSafe, sef teclyn llaw y gellir ei ddefnyddio ar ffôn neu dabled.  

Gan weithio â’i gilydd, mae ffermwyr a’u milfeddygon yn defnyddio’r ap i nodi meysydd posibl o risg bioddiogelwch a chynhyrchu sgôr risg wedi’i phwysoli ar gyfer ffermydd unigol a phwyntiau gweithredu. 

Hyd yn hyn, mae tua 30 o ffermydd da byw a 13 o filfeddygfeydd wedi bod yn defnyddio ap HerdSafe i wella bioddiogelwch ar ffermydd.  

Mae Llywydd NFU Cymru, Abi Reader, yn un o’r ffermwyr sydd wedi treialu’r ap. Gyda’i milfeddyg, Morgan Hanks o South Wales Farm Vets Ltd, mae Abi yn defnyddio’r ap i wella bioddiogelwch ar ei fferm ym Mro Morgannwg. 

Dywedodd Abi fod y dechnoleg wedi galluogi trafodaeth fwy deinamig ar y fferm am fioddiogelwch. “Am fod yr ap yn caniatáu ichi fod ar y safle gyda’ch milfeddyg a gofyn cwestiynau’n ‘fyw’, mae’n haws gweld meysydd nad oeddech chi efallai wedi’u hystyried yn rhai â risg a thrafod opsiynau i leihau’r risg honno.” 

O ganlyniad, mae hi’n credu bod yr ap wedi gwneud i’r drafodaeth ar iechyd a bioddiogelwch “deimlo’n fwy ystyrlon na dim ond siarad am ddipiau traed a ffensys.” Mae’r canlyniadau, meddai, “yn teimlo fel pe bai gen i well rheolaeth dros gau i lawr neu leihau ffactorau risg lluosog. Yn hollbwysig, mae’n eich helpu i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n gyraeddadwy ac yn effeithiol a theimlo’n bositif eich bod wedi gwneud gwahaniaeth yn hytrach na phoeni am restr enfawr o bethau i’w gwneud a all fod yn llethol ac yn ddigalon.” 

I lawer o ffermwyr, y brif her wrth weithredu pwyntiau gweithredu bioddiogelwch yw’r gwariant ariannol posibl, yn enwedig gan fod ffensio neu gyfyngu perimedr yn ddrud. Ond yn ôl Abi, mae’r ap yn galluogi trafodaeth ynghylch yr hyn sy’n ymarferol. 

“Er enghraifft, a all ffens drydan syml sy’n cael ei phweru gan yr haul o amgylch eich storfa bwyd anifeiliaid yn y nos fod yn ddigon, neu ddefnyddio camera bywyd gwyllt i weld a oes gennych broblem yn y lle cyntaf, cyn i chi wario arian. Roedd sgyrsiau eraill yn cynnwys opsiynau ar gyfer bwydo stoc ifanc yn yr awyr agored a sut i leihau’r risg bosibl.” 

Dywedodd Abi fod gwella bioddiogelwch yn helpu i wella iechyd a chynhyrchiant yr anifeiliaid a lleihau’r defnydd o wrthfiotigau. “Mae ein defnydd o wrthfiotigau yn parhau i ostwng, ac rydyn ni ymhell islaw’r cyfartaledd cenedlaethol ar 2mg/kg. Fel gyda llawer o bethau, yn aml dyw hi byth yn fater o wneud unrhyw un newid; mae’n gasgliad ohonyn nhw. A dyna beth yw pwrpas yr ap: cau cymaint o fylchau ag y gallwch yn eich cynllun iechyd. Dyw’r ap ddim yn un datrysiad hawdd i ddileu clefydau, fel twbercwlosis ymhlith gwartheg, ond mae’n rhan fawr o’r darlun. Yr hyn dwi eisiau ei weld yw buchod sy’n gyflo’n gyflym, yn lloia heb drafferth, ac yn cael cyfnodau llaetha gwych heb broblemau. Mae rheoli iechyd yn bwnc enfawr; dyw hi byth yn ymwneud ag unrhyw un broblem ar ei phen ei hun.” 

Mae cymryd rhan yn y treial HerdSafe hefyd wedi helpu i ddatblygu’r berthynas rhwng y ffermwr a’r milfeddyg.  

Dywedodd Abi, “Dwi’n bendant yn credu bod ein perthynas â’n milfeddyg wedi gwella. Anaml iawn mae’n rhaid i ni wneud galwadau brys; mae pob ymweliad â’r milfeddyg yn canolbwyntio ar fod yn rhagweithiol. Po fwyaf y mae fy milfeddyg yn deall sut mae’r fferm yn gweithio, y gorau yw ansawdd y cyngor a’r gefnogaeth a gynigir i mi, sy’n golygu bod iechyd a pherfformiad yn parhau i wella, sy’n arbed cryn dipyn o amser ac arian. Does gen i ddim goddefgarwch o gwbl tuag at ymateb o hyd i broblemau brys.” 

O safbwynt y milfeddyg, mae’r ap wedi darparu platfform defnyddiol i drafod bioddiogelwch. 

Dywedodd Morgan Hanks, “Mae’r ap wedi bod yn ffordd wych o ddechrau sgwrs am bwnc nad yw weithiau’n cael blaenoriaeth ym mywydau prysur bob dydd ffermwyr a milfeddygon.  

“Mae wedi helpu’n aruthrol gyda thrafodaethau, ac mae’r cwestiynau syml yn sbarduno cwestiynau mwy manwl sy’n fwy penodol i bob fferm. Mae’r ap wedi tynnu sylw at feysydd o bryder, yn bendant, ac wedi gwneud y pryderon hyn yn fwy amlwg i ffermwyr a’u galluogi i ganolbwyntio ar atebion.” 

Dywedodd Morgan ei bod hi hefyd wedi canfod bod yr ap yn hawdd i’w ddefnyddio ar y fferm yn ystod ymweliadau ffrwythlondeb arferol yn ogystal â thros y ffôn, a phan fydd wedi’i ddatblygu’n llawn, mae hi’n credu y bydd yr ap yn “fuddiol iawn i filfeddygon a’u cleientiaid.” 

Dywedodd cyfarwyddwr Iechyd Da, Ifan Lloyd, “Mae’r tîm a arweiniodd y ffrwd waith bioddiogelwch hon yn hynod falch o ymrwymiad y milfeddygon a gymerodd ran a’u cleientiaid sy’n ffermwyr wrth gynnal asesiadau risg bioddiogelwch cynhwysfawr gan ddefnyddio ap HerdSafe. O ganlyniad, mae 30 o ffermydd yng Nghymru wedi cyflwyno amrywiaeth o newidiadau, sydd wedi arwain at well protocolau bioddiogelwch a rheoli heintiau.  

“Nid yw’n syndod bod y rhan fwyaf o’r gwelliannau’n gysylltiedig â risgiau sy’n ymwneud â symud anifeiliaid – boed hyn o anifeiliaid a gyflwynir i’r fferm, eu statws clefyd, trefniadau cwarantîn, ac unrhyw brofion neu driniaethau yn ystod y cyfnod cwarantîn. Roedd rheoli ffiniau a stoc sy’n crwydro yn feysydd allweddol eraill a amlygwyd, er bod rhai milfeddygon wedi crybwyll rhwystrau ymarferol a phroblemau cost fel rhwystrau i newid.” 

Mae milfeddygon y treial HerdSafe hefyd wedi rhannu eu profiadau mewn gweithdy bioddiogelwch, a gynhaliwyd fel rhan o ffrwd waith Atal Rheoli Heintiau (IPC) o fewn rhaglen Arwain DGC. 

Yn ogystal â gwerthuso’r defnydd o ap HerdSafe i hyrwyddo gwell bioddiogelwch ymhlith ffermwyr, nod allweddol arall oedd deall y ffactorau sy’n effeithio ar sut mae ffermwyr a milfeddygon yn ymgysylltu â bioddiogelwch ac i nodi’r rhwystrau a’r galluogwyr i wella bioddiogelwch ar ffermydd. Tynnwyd sylw at ddyluniad cwestiynau’r ap a’r defnydd o sgôr rifiadol i fesur y risgiau fel ffactorau ysgogol pwysig iawn. 

Dywedodd Ifan, “Prif nod y system sgorio yw blaenoriaethu peryglon, dangos gwelliannau risg, a hyrwyddo trafodaeth rhwng y milfeddyg a’r ffermwr. Gellir mesur effaith unrhyw newidiadau arfaethedig a argymhellir gan y milfeddyg (ac y cytunir arnynt gan y ffermwr) gan y newid yn y sgôr mewn modd “beth os…”. Trafodir y gwelliannau a wneir gan y ffermwr wedi hynny gan y sgôr newydd pan ailasesir y fferm ar ôl 9–12 mis. 

“Roedd y milfeddygon yn y gweithdy yn gytûn ynghylch gwerth cyflwyno’r math hwn o offeryn bioddiogelwch ymhellach i’r gymuned ffermio ehangach yng Nghymru.”

Rhannu’r erthygl hon

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Po Box 8, North Road, Aberystwyth, SY23 2WB.

T: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Iechyd Da Limited is a company registered in England and Wales with company number: 1234567

Iechyd Da

Darganfod, datblygu a darparu.

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Blwch Post 8, Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, SY23 2WB.

Ff: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Mae Iechyd Da Cyfyngedig yn gwmni sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni: 08821623