Blythe Emery ydw i a dwi’n Vet Tech sy’n gweithio ar y ffîn rhwng Ceredigion a Sir Benfro. Rwyf wedi fy hyfforddi yn ATT, yn R-SQP (pob rhywogaeth), yn asesydd symudedd RoMS ac yn falch iawn o ddweud fy mod yn un o’r criw cyntaf i gwblhau y prentisiaeth Vet Tech, a redwyd gan Harper Adams, yn 2024.
Dwi wrth fy modd allan ar ffermydd a phan mae amser yn caniatáu, yn ceisio penderfynu pa gwrs i wneud nesa neu wasanaeth yr hoffwn gyflwyno (mae yna gymaint i’w ddewis, ble mae cychwyn!)
8:30 yb (neu weithiau ddim)
Dyw bywyd fferm ddim yn dilyn patrwm 9-5. Weithiau mi fyddai wedi codi cyn y wawr i fynd i fuches cyn godro’r bore, ond gan amlaf dwi’n cyrraedd y practis erbyn 8:30 sy’n lot fwy hamddenol! Yn ffodus dyw y cychwyn cynnar ddim yn digwydd mor aml a hynny – a gan fod sawl un wedi dweud nad wyf yn berson ben bore – falle bod hynny llawn cystal.
Paratoi y fan.
Llenwi y fan gyda’r darpar am y dydd – offer prawf TB a’r gwaith papur, offer dadimpio a fy PPE. Dwi’n ceisio bod yn drefnus ond weithiau mae angen trip bach yn ôl i HQ i gasglu rhywbeth, gan amlaf fy wellies, credwch neu beidio.
Mae’r “co-pilot” yn disgwyl fi yn y sedd flaen – sef fy nghi defaid Lunar (sydd ofn defaid!) Mae sawl ffermwr yn gwybod am hyn ac mae’n destun tipyn o sbort.
Ar yr heol
Mae fy niwrnod yn mynd a fi o le i le yng nghanol peth o dirwedd hyfrytaf Cymru – meysydd gwyrddion a golygfeydd o’r arfordir hudolus. Erbyn hyn dwi’n gwybod ble i brynu y brechdanau gorau a ble mae’r peiriannau gwerthu ysgytlaeth. Pethau bach ond pethau pwysig ar ddiwrnodau caled.
Y gwaith
Does dim dau ddiwrnod yr un peth. Gall y dyletswyddau gynnwys:
Profion TB
Asesu symudedd gwartheg
Dadimpio lloi
Helpu gyda llawdriniaethau
Gwaith labordy
Gwaith gweinyddu
Ac wrth gwrs…. popeth arall – sydd wedi cynnwys trwsio ffens hanner ffordd trwy prawf TB, calibro gosodiad gwn drensh, neu rhuthro ffwrdd i fynd a rhywbeth i gydweithiwr sydd wedi rhedeg allan o rywbeth yn annisgwyl ac ar fyrder.
Hefyd gweithio yn y dderbynfa – ateb y ffôn, bwcio gwaith a thrafod gyda chleientiaid a fy nghyd weithwyr.
Y darn gorau o’r swydd.
Bod yn ran o dîm ehangach. Dwi’n gweithio gyda milfeddygon a thrinwyr carnau, ac mae angen tipyn o gyfathrebu rhyngddom. Felly trwy weithio fel hyn mae fy ngwaith yn rhan o gynllun ehangach i wella lles ac iechyd anifeiliaid y ffermydd.
Dwi’n mwynhau’r cyfathrebu ar y ffermydd hefyd, a dyw y sgyrsiau byth yr un fath chwaith. Weithau mae nhw’n hwyl, weithiau o ddifrif ac mae hi’n sadio rhywun pan fod y person arall yn agor y sgwrs i sôn am eu problemau a’u heriau.
Mi gymrodd peth amser i bobl ddod i ddeall gwaith yr ATT a Vet Tech. Bu sawl sgwrs yn cychwyn gyda “Ah, dydech chi ddim yn fet te?” ond nawr fod pobl yn deall maent yn gwerthfawrogi beth gall Vet Tech wneud i’w helpu.
Y darn anodd.
Dyw e ddim yn fêl i gyd, yfed ysgytlaeth a gyrru ymysg golygfeydd godidog. Weithiau mae pethau anodd yn pentyrru – falle darllen prawf TB sydd dim yn glir ac yna mynd i alwad i gynorthwyo gan nad oedd pethau yn mynd yn ôl y drefn.
Mi all hyn fod yn anodd iawn. Mae gweld y siom ar wyneb ffermwr pan dyw canlyniad y prawf TB ddim cystal a beth oedd rhywun yn ddisgwyl, ddim yn dod yn haws. Ond mae cael tîm cefnogol wrth gefn yn gwneud byd o wahaniaeth. Y berthynas rhwng pobol sydd yn ein cynnal, ac yn gwneud e’n werth chweil.
Amser cinio – amser ailgychwyn ac adfer.
Gall hyn fod rhywle rhwng ganol dydd a dau o’r gloch y pnawn, yn dibynnu ar heriau’r dydd. Dwi’n ceisio chwilio man tawel i fynd a Lunar am dro. Weithiau ar hyd lwybr neu lôn gefn dawel. Mae hyd yn oed pum munud yn gwneud gwahaniaeth – seibiant, awyr iach ac, os yn lwcus, hyd yn oed ychydig bach o heulwen. Cyfle i adfer egni at y prynhawn.
Rhuthr 4:30
Mae yna bob amser ryw brysurdeb erbyn diwedd y prynhawn – galwadau brys, gwaith papur angen ei gwblhau ac offer i’w glanhau. Ac os oes yna rhywbeth sydd angen gwneud amser godro’r hwyr dyna pryd mae fe yn cael ei wneud.
Pam dwi’n gwneud y fath swydd?
Mae’n gorfforol ac yn amrywiol. Dwi’n cael gweithio tu fas gyda cleientiaid gwych a’u gwartheg, a dwi’n gwneud hyn mewn lleoliad mae pobl eraill yn fodlon talu i’w ymweld.
Sawl swydd sy’n gallu cynnig hyn?
Mae Lunar yn meddwl fod ganddi hi’r bywyd gorau yn y byd – ac efallai ei bod hi yn gywir.
