Mae Firws y Tafod Glas yn glefyd feirysol sy'n effeithio ar ddefaid, gwartheg, geifr, ceirw a chamelidau (fel lamas ac alpacas). BTV3 yw’r math o glefyd Tafod Glas sy’n achosi problemau yn y DU, a rhestrir manylion y prif arwyddion clinigol isod.
Caiff BTV3 ei ledaenu gan wybed sy’n brathu ac mae nifer o achosion wedi’u cadarnhau a cheir cyfyngiadau symud dros rannau helaeth o Ddwyrain Lloegr. Mae wedi’i gludo o Ewrop gan wybed wedi’u heintio sy’n cael eu chwythu yma gan y gwynt. Mae ardaloedd eraill ble ceir risg sylweddol o ddal yr haint yn cynnwys Arfordir De Lloegr (o Gernyw tua’r dwyrain). Nid yw’n beth doeth prynu da byw o unrhyw un o’r ardaloedd hyn ar hyn o bryd.
Mae Firws y Tafod Glas yn glefyd hysbysadwy – os ydych chi’n tybio bod achos o’r clefyd, mae’n rhaid i chi hysbysu APHA am hynny – yng Nghymru, ffoniwch 03003 038268. Os bydd eich milfeddyg preifat neu un o filfeddygon APHA yn tybio bod achos o BTV, bydd y fferm yn cael ei gosod dan gyfyngiadau symud. Os cadarnheir yr achos, pan fo ychydig o achosion yn y rhanbarth hwn, efallai yr ystyrir difa gorfodol. Pan fydd y firws yn cylchredeg mewn ardal, bydd difa gorfodol yn dod i ben ond bydd rhyw fath o gyfyngiadau symud yn parhau.
Arwyddon ymhlith gwartheg (y mwyaf cyffredin yn gyntaf)
- Iselder
- Cloffni
- Doluriau (o amgylch y geg a’r trwyn)
- Pilenni coch (e.e. tethi)
- Llid yr amrannau (hylif o’r llygaid/cochni yn y llygaid)
- Crach o amgylch y trwyn
- Cochni uwchlaw’r carn (coronitis)
- Gwres
- Y trwyn yn rhedeg/glafoerio
Arwyddon ymhlith defaid (y mwyaf cyffredin yn gyntaf)
- Y trwyn yn rhedeg
- Iselder
- Wyneb wedi chwyddo
- Crach o amgylch y geg/trwyn
- Glafoerio’n ormodol
- Pilenni coch
- Diffyg archwaeth
- Doluriau o amgylch y geg a’r trwyn
- Cloffni/anfodlon symud
Brechu ac atal
Canfuwyd bod cyffuriau lladd poen yn ddefnyddiol i leddfu’r symptomau ar ôl i anifeiliaid gael eu heintio ac ar ôl i’r arwyddion clinigol ddod i’r amlwg. Mae cymhlethdodau eilaidd yn gyffredin, gan gynnwys niwmonia, difrod/diffygion yn y carnau, meinweoedd marw yn crawennu, heintiau yn y cymalau a heintiau eilaidd eraill.
Mae’r Llywodraeth wedi awdurdodi’r defnydd o frechlynnau gweithredol yn erbyn seroteip BTV 3 yn y DU (dan amgylchiadau penodol). Bydd y brechlynau hyn yn lleihau’r arwyddion clinigol a brofir ond ni fyddan nhw’n atal anifail rhag cael ei heintio na heintio anifeiliaid eraill. Cânt eu defnyddio yn yr ardaloedd ble ceir risg sylweddol i ddechrau. Cysylltwch â’ch milfeddyg preifat os oes gennych ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am hyn.
Yn ôl pob golwg, nid yw defnyddio pryfladdwyr fel dull o atal da byw rhag dal y clefyd yn fuddiol iawn. Gall cadw anifeiliaid dan do pan fydd hi’n gwawrio a phan fydd hi’n nosi, pan mae’r gwybed yn fwyaf bywiog, helpu i leihau’r posibilrwydd o ddal yr haint.
Ni all y firws ddatblygu ymhlith gwybed oni bydd y tymheredd yn uwch na 12°C, felly gadewch i ni obeithio y bydd cawn ni dywydd hydrefol oerach yn fuan.