Bwletin Misol: Gorffennaf 2024

Croeso i Fwletin Misol Iechyd Da. Gwybodaeth a diweddariadau defnyddiol i gyd yn yr un fan.

Deddfwriaeth BVD, Profion a Chynghorion Ymarferol ar gyfer Practisau Milfeddygol

O 1 Gorffennaf 2024 ymlaen, bydd y gyfraith yn mynnu bod holl ddaliadau Cymru yn gwybod beth yw eu statws BVD, a bydd yn ofynnol iddynt gwblhau eu sgrinio blynyddol cyntaf erbyn diwedd Mehefin 2025.

Bydd pob daliad yn dechrau fel BVD annegyddol, gan na fydd unrhyw ddata hanesyddol yn cael eu trosglwyddo i’r gronfa ddata. Rydym yn ceisio eglurhad ynghylch y sefyllfa o ran buchesi sydd wedi’u hachredu gan CHECS ar hyn o bryd. Bydd ffermwyr yn cael hysbysiad am y gofyniad i gynnal sgrinio BVD ar yr un pryd â’u prawf TB blynyddol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Profion Croen TB Lloi sydd dan 42 diwrnod oed

Bellach, ni fydd angen i loi o dan 42 diwrnod oed gael eu profi’n ddiofyn yn achos pob Prawf Cyfnod Byr (SIT), Prawf Gwirio (Ymchwiliad ac Ymyrraeth) (CT(I-I)) a Phrawf Gwirio (Lliniaru Datguddio) (CT(EM)) gyda dyddiad TT1 ar neu ar ôl 15 Mehefin 2024. Wrth gyflwyno canlyniadau ar gyfer unrhyw un o’r profion hyn, dylai profwyr ddefnyddio’r rheswm “Not Eligible for this test” iSam yn adran ‘Not Tested’ ar gyfer unrhyw anifeiliaid buchol o dan 42 diwrnod oed yn TT1 y SIT, CT(I-I) neu CT(EM) a restrir yn y lawrlwythiad System Olrhain Gwartheg (CTS). Os mai’r anifeiliaid buchol hyn yn unig sydd heb gael eu profi, dylid cyflwyno’r prawf TB fel un “complete” ar iSam. Darllenwch y nodyn briffio llawn yma.

Parodrwydd ar gyfer Clefydau Anifeiliaid

Mynychodd Iechyd Da gyfarfod grŵp cynghori’r diwydiant ynghylch parodrwydd ar gyfer clefydau anifeiliaid a risg yn ymwneud â hynny yn ddiweddar, lle trafodwyd sefyllfa bresennol BTV3. Isod, ceir diweddariad ynghylch y sefyllfa bresennol.

Bu nifer sylweddol o adroddiadau ac achosion wedi’u cadarnhau o Feirws y Tafod Glas yn yr Iseldiroedd a’r Almaen.  Deallwn mai BTV-3 yw’r math sydd dan sylw. Mae 94 achos wedi digwydd yn yr Iseldiroedd. Nid oes unrhyw wyliadwriaeth weithredol neu wedi’i thargedu yn digwydd, ond gall milfeddygon preifat gyflwyno samplau i’w profi, a dyna fwy na thebyg pam fod bron i 80% o’r safleoedd heintiedig yn dangos arwyddion clinigol. Ar sail gwybodaeth gan swyddogion yn yr Iseldiroedd yr wythnos diwethaf pan oedd ganddynt dim ond 49 achos, roedd anifeiliaid ar 36 o’r 49 fferm hynny (73%) wedi’u brechu, roedd gan 6  anifail (12%) statws brechu anhysbys ac roedd 7 (15%) heb eu brechu. Roedd yr arwyddion clinigol yn ddifrifol ond mae’n rhy gynnar i ddweud a oes cynnydd yn nifer y marwolaethau ac nid oes gennym wybodaeth am nifer yr achosion yn niadell y wlad. Er bod y rhan fwyaf o achosion yn ne a dwyrain y wlad (ble’r oedd lefelau isel o’r clefyd y llynedd), mae dau achos yn y gorllewin, yn nes at yr arfordir. Bu tua 50 o achosion hefyd yn yr Almaen yn ystod yr wythnos ddiwethaf – pob un yn sgil heintiau a ddaliwyd yn naturiol yn ôl pob tebyg a heb gysylltiad uniongyrchol â’r broblem yn ymwneud â methiant y brechlyn awtogenaidd. Ystyrir bod y risg i’r DU yn isel ar hyn o bryd oherwydd patrymau’r tywydd a’r gwynt yn ddiweddar.  Cafwyd trafodaethau ynghylch symud anifeiliaid o ardaloedd risg Uchel i Gymru, os oes achos wedi’i gadarnhau o BTV3, ynghyd ag unrhyw angen am brofion cyn ac ar ôl symud stoc. Gall ardaloedd risg uchel yn Lloegr ofyn am brofion BTV3 cyn symud anifeiliaid a chyn gwerthu’r anifeiliaid hynny.

Diweddariad ynghylch Brechu rhag TB buchol Gorffennaf 2024

Darllenwch y newyddion diweddaraf yma.

Dyddiadau i’w rhoi yn eich Dyddiadur

Rhannu’r erthygl hon

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Po Box 8, North Road, Aberystwyth, SY23 2WB.

T: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Iechyd Da Limited is a company registered in England and Wales with company number: 1234567

Iechyd Da

Darganfod, datblygu a darparu.

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Blwch Post 8, Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, SY23 2WB.

Ff: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Mae Iechyd Da Cyfyngedig yn gwmni sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni: 08821623