Nodir fod yna fersiwn diwydiedig o’r ffurflen TB181 ar gael i’w lawrlwytho. Gwnewch yn sicr mai y fersiwn newydd, gyda’r dyddiad 7/25 ar y gwaelod, sydd gan pawb sy’n gwneud profion TB
Mae APHA wedi danfon nodyn briffio i hysbysu OVs ac ATTs fod posibilrwydd i fusnesau milfeddygol preifat gyflogi profwyr gwaed cymeradwy (Approved blood samplers, ABSs) o 31/07/2025 ymlaen.
Siartiau TB i anifeliiaid sydd ddim yn fuchol.
Mae nifer o’r siartiau yn cael eu dychwelyd oherwydd fod y data yn anghyflawn.gwnewch yn siwr fod y ffurflenni yn cael eu llenwi yn gywir:
Cofiwch ddefnyddio eich stamp OV, ac nid stamp y practis.
Cofiwch arwyddo a rhoi dyddiad ble mae’r ffurflen yn gofyn a hyn.
Rhowch fanylion llawn yr anifeiliaid a’u profwyd, yn ogystal a mesuriadau y croen.
PEIDIWCH ysgrifennu unrhyw beth yn y darnau sy’n dweud “APHA ONLY”
ADBORTH 360 i Iechyd Da
Os medrwch gymryd ychydig funudau i wneud hyn, mi fyddwn yn ddiolchgar, erbyn 21/8/2025 plîs. Trwy ateb y cwestiynau fe allwn ni weithio i wella ein gwasanaeth.