Bwletin Misol: Chwefror 2025

Croeso i Fwletin Misol Iechyd Da. Gwybodaeth a diweddariadau defnyddiol i gyd yn yr un fan.

BVDCymru

 Diolch i bawb am eich cwestiynau ynglŷn â’r rheolau newydd am BVD a ddanfonwyd i swyddfa Iechyd Da, maent wedi eu danfon ymlaen i fwrdd BVDCymru steering a TAG.

 Diolch hefyd am gefnogi’r WVSC yn Aberystwyth. Hyd yn hyn mae yna 921 o sgriniau wedi’u rhedeg a mae rheiny sydd ddim yn negyddol tua 16%. Mae’r canlyniadau yn cael eu lawrlwytho i’r gronfa ddata yn ddyddiol ers mis Rhagfyr.

 Mae’r staff hefyd yn cynnig gwasanaeth am ddim i roi cyngor ar y canlyniadau. Ond rhaid cofio na fedr y staff weld canlyniadau o labordai eraill ac fe ddylsech siarad am rhain gyda’r labordy a wnaeth y profion yn y lle cyntaf.

Ymchwil mewn i ddefnydd profion gwrthgyrff IDEXX ac Enferplex

 Mae’r astudiaeth sy’n cymharu defnydd profion Enferplex ac IDEXX ar yr yn pryd â’r prawf Gamma Interferon ar ffermydd sydd gyda achosion OTFW yng Nghymru a Lloegr, yn parhau; ac mae angen recriwtio mwy o fuchesi sydd wedi cael achos newydd i gymryd rhan yn yr astudiaeth.

(Y rhai mae nhw angen yw’r buchesi hynny sydd wedi cael achos o TB ond sydd heb gael achos yn y pum mlynedd blaenorol).

 Pwrpas yr astudiaeth yw i gymharu perfformiad y gwahanol brofion, a hefyd sut mae cyfuno’r profion yn gallu effeithio ar y deilliant. Bydd y data o’r astudiaeth yn cael ei ddefnyddio i weld sut y gellir, yn y dyfodol, ddefnyddio y profion gwrthgyrff ar ffermydd sydd wedi cael TB.

 Mi fydd yr astudiaeth yma yn rhoi y cyfle i ffermwyr ddarganfod mwy o’r anifeilaid sydd wedi eu heintio, felly atal nifer o wartheg gyda canlyniadau negatif anghywir (hynny yw rhai sydd a haint cuddiedig) rhag aros yn y fuches.

Newid eich manylion ar SAM

 Os ydych nagen diweddaru eich manylion ar SAM, neu newid/ychwanegu practis mae angen cwblhau ffurflen OV58 cyn newid y cofrestr. Mae hyn yn anghenrheidiol i gyflawni’r trywydd archwilio, felly mae angen gwneud hyn, o hyn ymlaen.

Yn ogystal, mae angen i OV ddiweddaru eu cyfrif gyda Improve International a nodi yn y man “other information” os ydynt yn gweithio i unrhyw bractis arall.

Ffliw’r adar

 Mae yna barth atal ffliw’r adar (AIPZ) wedi ei roi dros Gymru gyfan o 00:01 30/01/2025. Mae hyn yn golygu rheolau dwysach ar fioddiogelwch ar bobl sy’n cadw adar. Mi fydd hwn yn parhau tan fod y lefel o berygl yn lleihau. Fe fydd y gwaharddiadau a’r mesurau yma o fewn yr APZ yn cael eu monitro yn gyson. Mae gofynion a rheolau yr AIPZ, yn cynnwys y rhestr bioddiogelwch gorfodol, i’w cael yn y datganiad

 

 BTV-3, Y Tafod Las

 Mae yna ymgyrch blaengar “Battle Bluetongue” wedi ei ddatblygu gan AHDB a’r Ruminant Health and Welfare Group gyda cyrff eraill o’r byd amaethyddol a milfeddygol. Does yna ddim triniaeth i’r clefyd felly y mesurau gorau yw ceisio atal ei ymlediad, (trwy frechu a lleihau symud anifeiliaid o ardaloedd heintiedig). I helpu practisau i hybu ymwyddiaeth o #BattleBluetongue mae yna becyn o adnoddau ar gael i baratoi ffermydd amddiffyn eu hunain yn erbyn y clefyd.

Rhannu’r erthygl hon

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Po Box 8, North Road, Aberystwyth, SY23 2WB.

T: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Iechyd Da Limited is a company registered in England and Wales with company number: 1234567

Iechyd Da

Darganfod, datblygu a darparu.

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Blwch Post 8, Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, SY23 2WB.

Ff: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Mae Iechyd Da Cyfyngedig yn gwmni sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni: 08821623