Croeso i Fwletin Misol Iechyd Da. Gwybodaeth a diweddariadau defnyddiol i gyd yn yr un fan.
Difa ar ffermydd – Risgiau rhoi meddyginiaethau i wartheg cyn profion TB arfaethedig
Dros y cyfnod 3 blynedd o fis Tachwedd 2020 i fis Hydref 2023, cafodd 1,131 o wartheg eu difa ar y fferm at ddibenion TB yng Nghymru oherwydd roeddent wedi derbyn meddyginiaethau ac nid oedd y cyfnod cadw o’r gadwyn fwyd wedi dod i ben pan gawsant eu profi.
Mae gweld anifail yn cael ei ddifa ar fferm yn brofiad dirdynnol i’r perchennog, ac mae hefyd yn golygu gwastraffu carcas a fyddai fel arall yn addas i’w fwyta gan bobl.
Ni ellir osgoi difa ar ffermydd yn llwyr, ond mae yna ragofalon ymarferol y gall perchnogion eu gweithredu er mwyn sicrhau gostyngiad sylweddol yn nifer yr adegau pan fo angen gwneud hynny.
Gwybodaeth Gyffredinol am Feddyginiaethau a Phrofi Gwartheg am TB
Gall meddyginiaethau amharu ar gywirdeb y prawf TB, gan y gall cyfryngau effeithio ar system imiwnedd yr anifail dros dro, gan ddylanwadu ar y canlyniad. Gall fod rhaid difa gwartheg sydd wedi cael meddyginiaethau ar y fferm neu gall achosi oedi o ran symud anifeiliaid sydd wedi’u heintio o’r fferm, gan arwain o bosib at hwyhau’r problemau TB yn y fuches a hyd y cyfyngiad.
Cynghorwch y ffermwr i osgoi rhoi triniaethau arferol nad oes eu hangen ar frys, os na fydd y cyfnod cadw o’r gadwyn fwyd wedi dod i ben cyn y prawf TB. Yn ôl y cyngor milfeddygol presennol, ni ddylid rhoi meddyginiaethau milfeddygol rheolaidd (megis rhai i reoli parasitiaid neu frechlynnau) i anifeiliaid nes bydd unrhyw brawf TB arfaethedig wedi cadarnhau eu bod yn glir.
Yn amlwg, dan rai amgylchiadau, mae’n rhaid rhoi triniaethau brys os bydd peidio â rhoi meddyginiaeth yn peryglu lles yr anifail.
Yng Nghymru, mae’n rhaid i’r holl fuchesi sydd â statws Heb TB Swyddogol (OFT) gael profion blynyddol rheolaidd (caiff buchesi eu profi bob 6 mis yn yr Ardal Triniaeth Ddwys). Mae perchnogion buchesi yn gwybod pryd y mae angen cynnal y profion. Fel arfer, bydd ganddynt gyfnod o 60 diwrnod i gynnal y profion a byddant yn cael llythyr oddi wrth APHA yn eu hysbysu am y prawf ddeufis cyn cychwyn y cyfnod profi. Mae’n ofynnol i berchnogion buchesi drefnu i’r prawf gael ei gwblhau gyda’u practis milfeddygol yn ystod y cyfnod profi. Dylai hyn roi digon o amser i’r perchennog roi’r rhan fwyaf o driniaethau arferol a sicrhau y bydd y cyfnod cadw o’r gadwyn fwyd wedi dod i ben cyn dechrau’r prawf TB.
Anogir perchnogion buchesi i drafod amseru’r triniaethau a’r cynhyrchion a’r cyfnodau cadw o’r gadwyn fwyd cysylltiedig sydd ar gael â’u milfeddygfa er mwyn sicrhau na wnaiff y cyfnod cadw o’r gadwyn fwyn gyd-daro a dyddiad y prawf TB sydd wedi’i drefnu.
Opsiynau i gael profion yn gynt mewn buchesi â statws Heb TB Swyddogol (OFT) yn gynt na’r dyddiad sydd wedi’i drefnu
Er mwyn cynorthwyo’r ceidwaid gwartheg hynny y bydd eu profion yn digwydd ar adeg anghyfleus, gellir cynnal rhai mathau o brofion yn gynt na’r dyddiad sydd wedi’i drefnu. Dyma rai o’r rhesymau dros brofi ar yr adeg y byddwch yn ei ffafrio:
- Er mwyn osgoi cyfnodau lloia mewn bloc yn achos buchesi llaeth
- Er mwyn profi gwartheg cyn eu troi allan yn y gwanwyn
- Er mwyn profi gwartheg cyn eu symud i borfeydd yr haf
- Er mwyn profi gwartheg cyn eu gwerthu yn yr hydref
Bydd yn rhaid i berchennog y fuches gyflwyno cais ysgrifenedig yn gofyn am gael cynnal prawf yn gynharach a chyn i’r cyfnod profi gychwyn. Ni ellir gohirio unrhyw brofion.
Ni ellir newid dyddiadau profion pan fydd y cyfnod profi eisoes wedi cychwyn.
Gellir cynnal y mathau canlynol o brofion yn gynharach:
- Profion buchesi cyfan (WHT), profion gwirio (12M) a gynhelir 12 mis wedi achos o TB mewn buches a phrofion ar fuchesi cyffiniol (CON12) hyd at bum mis cyn dyddiad cychwyn y cyfnod profi
- Ar gyfer buchesi yn Ardal Triniaeth Ddwys Cymru (IAA), gellir cynnal y profion chwe misol ar fuchesi (IA6 ac IA12) hyd at fis cyn dyddiad cychwyn y cyfnod profi
Gellir cynnal y profion afreolaidd a restrir isod hyd at fis cyn dyddiad cychwyn y cyfnod profi.
- Profi buchesi cyffiniol (CON)
- Profion buchesi cyffiniol (CON6) a gynhelir chwe mis ar ôl y prawf cyffiniol cyntaf neu brawf blaenorol ar fuches gyffiniol
- Ni ellir cynnal profion gwirio a gynhelir chwe mis wedi achos o TB mewn buches yn gynt na hynny
Mae’n bosibl i geidwad gwartheg gael sawl blwyddyn o brofion afreolaidd yn sgil achosion o TB mewn buches neu ofynion yn ymwneud â phrofi buches gyffiniol, cyn gallu dychwelyd i amserlen brofi arferol. Ceir disgresiwn i gynorthwyo’r ceidwaid hynny y bydd eu profion yn digwydd yn fuan ar ôl troi allan neu ar adeg anghyfleus arall.
BTV3
Mae’r achos cyntaf o BTV3 wedi digwydd yng Nghymru mewn anifeiliaid a symudwyd o ardal risg uchel i Wynedd. Mae’r gwaith o samplu anifeiliaid sydd wedi dod i gyswllt â’r rhain yn digwydd ar hyn o bryd. Mae APHA yn ymateb i unrhyw symudiadau “peryglus” trwy gynnal profion ar ôl symud. Mae’n hanfodol eich bod yn gofyn i’ch ffermwyr fod yn wyliadwrus ac ystyried unrhyw symudiadau i’w daliad o ardaloedd risg uchel.
Cynhelir cyfarfod ar-lein arall ddydd Iau 4 Hydref am 4pm; gwyliwch am y gwahoddiad a gaiff ei e-bostio atoch chi.
Gallwch weld y cyfarfod diwethaf yma.
Llinell Gymorth Gorfodi VMD
Yn dilyn cyfarfod VPC diweddar yn Llandrindod, mae ID wedi ymgynghori â thîm gorfodi VMD, i drafod yr uchod.
Dangosir manylion Llinell Gymorth VMD yn y llun uchod ac mae’n ymddangos ei bod yn cwmpasu llawer o’r hyn yr oedd ID yn gobeithio’i gyflawni â’i linell gymorth arfaethedig ei hun. Gall pobl roi gwybod am unrhyw anawsterau yn ddienw.
Fel y gwyddoch, mae’r VMD yn ymwneud yn bennaf â gorfodi’r rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol, felly yn achos ein haelodau, bydd hynny’n golygu goruchwylio’r gwaith dosbarthu’n bennaf (h.y. hysbysebu, marchnata, cyflenwi a rhoddi cyffuriau). Mae rhywfaint o orgyffwrdd â rheolau “Dan Ofal” RCVS a’r hyn a ddywedodd yr arolygydd pan wnaethom ei holi am achosion o dorri rheolau “Dan Ofal” RCVS oedd y byddent bob amser yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth berthnasol i’r cyrff sy’n ymwneud â goruchwylio agweddau eraill ar y rheoliadau meddyginiaethau. Yn amlwg, gall milfeddygon gysylltu â llinell gyngor gyfrinachol yr RCVS (ffoniwch dîm Cyngor yr RCVS ar 020 7202 0789 neu e-bostiwch advice@rcvs.org.uk).
Mae bwrdd ID yn awyddus i barhau i hyrwyddo defnydd cyfrifol o feddyginiaethau, ac i’r perwyl hwnnw, maen nhw ar gael i gyfryngu rhwng practisau os yw un practis neu bractisau’n teimlo nad yw busnes arall yn cadw at y rheolau. Cysylltwch ag un o’r cyfarwyddwyr os byddwch yn teimlo bod problem ac fe wnawn ein gorau i wrando ar eich pryderon a’u codi gyda’r busnes dan sylw.
Trwydded Gyffredinol Newydd TB24c TB buchol – Awdurdodi Symudiad Cyffredinol Anifeiliaid Buchol i Ladd-dy Trwyddedig
O 30 Medi 2024 ymlaen, bydd Trwydded TB24c ddiwygiedig (Awdurdodi Symudiad Cyffredinol Anifeiliaid Buchol i Ladd-dy Trwyddedig) ar gael. Bydd y drwydded yn caniatáu i geidwaid symud anifeiliaid buchol o safle sydd â chyfyngiad TB i ladd-dy cymeradwy ym Mhrydain Fawr, naill ai’n uniongyrchol neu drwy Grynhoad Lladd TB Cymeradwy yng Nghymru neu Loegr.
Nid yw symudiadau o dan y TB24c diwygiedig yn ei gwneud yn ofynnol i anifeiliaid fod wedi cael prawf croen TB negyddol yn ystod y 90 diwrnod blaenorol. Nid oes unrhyw ofyniad i gofnodi rhifau tagiau clustiau gwartheg sy’n cael eu symud i’w lladd ar y drwydded TB24c gyffredinol ond rhaid rhoi gwybod am symudiadau i BCMS neu ScotEID, fel yn achos unrhyw symudiadau eraill.
O 30 Medi 2024, ni roddir rhagor o drwyddedau TB24b – Awdurdodi Symud Cyffredinol Anifeiliaid Buchol o fangre o dan gyfyngiadau TB i Lladd-dy trwy grynhoad lladd TB cymeradwy yng Nghymru neu Loegr. Fodd bynnag, bydd trwyddedau TB24b a roddwyd eisoes yn parhau’n ddilys tan y dyddiad a nodir ar y drwydded. Rhaid i geidwaid sy’n symud anifeiliaid o dan y drwydded hon sicrhau bod yr anifeiliaid yn cydymffurfio ag amodau’r drwydded.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Unedau Ynysu TB (TBIU)
Mae newid ar y gweill i reolau Unedau Ynysu TB (TBIU).
Mae TBIUs yn ddefnyddiol i berchnogion rhai buchesi yr effeithir arnynt gan TB gan eu bod yn darparu man ar gyfer lloi neu wartheg stôr o ddaliadau, sydd â chyfyngiad TB, nad oes ganddynt gyfleusterau magu digonol. Gall TBIUs gael gwartheg dan drwydded o un daliad sydd â chyfyngiad TB, ac ar hyn o bryd, caniateir cyfnod o hyd at chwe wythnos (42 diwrnod) i lenwi’r uned. O 30 Awst 2024, bydd y cyfnod cofnodi yn cael ei ymestyn i 60 diwrnod, sy’n golygu y bydd hi’n haws i geidwaid lenwi eu TBIUs. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Profion Croen TB Lloi sydd dan 42 diwrnod oed
Bellach, ni fydd angen i loi o dan 42 diwrnod oed gael eu profi’n ddiofyn yn achos pob Prawf Cyfnod Byr (SIT), Prawf Gwirio (Ymchwiliad ac Ymyrraeth) (CT(I-I)) a Phrawf Gwirio (Lliniaru Datguddio) (CT(EM)) gyda dyddiad TT1 ar neu ar ôl 15 Mehefin 2024.
Wrth gyflwyno canlyniadau ar gyfer unrhyw un o’r profion hyn, dylai profwyr ddefnyddio’r rheswm “Not Eligible for this test” iSam yn adran ‘Not Tested’ ar gyfer unrhyw anifeiliaid buchol o dan 42 diwrnod oed yn TT1 y SIT, CT(I-I) neu CT(EM) a restrir yn y lawrlwythiad System Olrhain Gwartheg (CTS). Os mai’r anifeiliaid buchol hyn yn unig sydd heb gael eu profi, dylid cyflwyno’r prawf TB fel un “complete” ar iSam.
Darllenwch y nodyn briffio llawn yma.
Cymorth TB
Wrth archebu eich ymweliadau Cymorth TB sicrhewch eich bod wedi derbyn y daleb ar DEWIN ac wedi nodi’r amser a’r dyddiad ynghyd â manylion y milfeddyg swyddogol (OV).
Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi o leiaf 48 awr o rybudd (2 ddiwrnod gwaith), fel y gall APHA ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf.
Os nad yw’r ffermwr yn dymuno cael yr ymweliad, gwrthodwch y daleb.
Mae DPA yn cael eu defnyddio ar gyfer ymweliadau Cymorth, gwnewch yn siŵr nad oes gennych chi WSAs hwyr. Os yw’r ffermwr yn dymuno cael dyddiad diweddarach, rhowch wybod i ni fel y gellir newid y WSA!
Profion sydd wedi’u trefnu
Dylai pob practis/OV sicrhau bod yr amser a’r dyddiad yn cael eu cofnodi ar SAM pan fydd profion wedi’u trefnu, gan sicrhau bod enw’r OV hefyd yn cael ei ddiweddaru cyn gynted â phosibl.
Damweiniau fu bron â digwydd a Digwyddiadau Iechyd a Diogelwch
Dylai pob Profwr TB Cymeradwy (ATT) ac OV ddefnyddio cyfleuster adrodd Dewin i roi gwybod am ddamweiniau fu bron â digwydd neu ddigwyddiadau peryglus yn ystod profion TB. Gallwch ganfod yr adnodd hwn wrth gwblhau’r rhestr wirio.
Os ydych yn ansicr ynglŷn â’r drefn hon yna cysylltwch â’r swyddfa a byddwn yn hapus i ddangos y broses i chi.
Amser segur SAM
Bwriedir i SAM fod yn segur am gyfnod penodol. Dyma’r manylion ar hyn o bryd:
09:00 Dydd Sul 08/12/2024 hyd at 08:00 Dydd Llun 9/12/2024.
Dewin
Manylion personél
Dylai practisau/milfeddygol swyddogol wirio eu rhestrau personél ar Dewin i sicrhau bod yr holl aelodau staff presennol wedi’u rhestru a bod yr holl fanylion perthnasol wedi’u cwblhau. Mae hyn yn cynnwys cyfeiriadau e-bost a rhifau SP.
Rydym yn gweithio o Dewin i ddod o hyd i unrhyw staff sydd newydd eu penodi y mae angen iddynt fynychu hyfforddiant a bod â chofnodion hyfforddiant cyfredol. Os nad ydynt yn ymddangos, ychwanegwch eu manylion.
Os ydynt wedi trosglwyddo o bractis arall, rhowch wybod i ni fel y gallwn ni drosglwyddo eu cofnodion.
Cofrestrwch yma.
Dyddiadau i’w roi yn eich dyddiadur.
- Dydd Iau 3 Hydref am 4.30pm - y Dafod Las - diweddariad gan filfeddygon Llywodraeth Cymru ac APHA
- Cyfarfod OVs - 6 Tachwedd, 3-4pm, trwy gyfrwng TEAMS
- Diwrnod Iechyd Cnofilod APHA, Chwefror 2025 - Trefnir y diwrnod gan y Ganolfan Arbenigedd ar gyfer Da Byw a Reolir yn Helaeth, a bydd yn canolbwyntio ar y clefyd a'r heriau o ran iechyd sy'n gysylltiedig â phori da byw yn helaeth. Cynigir y digwyddiad rhad ac am ddim hwn i ffermwyr, milfeddygon a phob rhanddeiliaid sy’n ymddiddori ym maes ffermio da byw ar raddfa fawr