Adborth o APHA
Y golofn “Remarks” ar SAM
Mae wedi dod i’n sylw fod yna oedi ar ganlyniadau rhai profion oherwydd sylwadau yn cael eu llenwi yn y golofn “Remarks”
Mae unrhyw brawf sydd gyda rhywbeth yn y golofn “Remarks” yn gorfod cael sylw milfeddyg APHA. Mae yna amryw o ganlyniadau sydd wedi eu cyflwyno gyda rhywbeth yn y golofn yma. Efallai eu bod o ddefnydd i chi ond os nad oes yna bwrpas i APHA, yna plîs peidiwch rhoi rhain ar y prawf.
e.e
t gyferbyn a phedwar anifail
sn gyferbyn ag un anifail
1-10 gyferbyn a deg anifail
888 gyferbyn ag un anifail
8 gyferbyn a dau anifail
Felly i hwyluso pethau, ac osgoi creu gwaith diangenrhaid, gwnewch yn siwr fod unrhywbeth sydd yn cael ei ysgrifennu yn y golofn yma yn briodol ac yn angenrheidiol.
Yr unig beth ddylsai fod yn y golofn yma yw cofnodion sydd i’w rhannu gyda APHA
e.e
Rhif tag DNA
os oes clefyd arall ar yr anifail, e.e, Skin TB
Y blwch “Comments”
Yn yr un modd, byddwch yn ofalus beth sy’n cael ei ysgrifennu yn y blwch “Comments”:
Newidiadau sylweddol i fanylion y cwsmer.
Pryderon ynglyn â phroblemau clefyd neu les yr anifeiliaid.
Esboniad am anifeiliaid sydd wedi eu ychwanegu
Problemau gyda tagiau e.e nifer fawr gyda un tag
Pam fod yna anifail gyda rhif sy’n wahanol i’r arfer
Esboniad pam nad oedd anifail wedi cael prawf (ar goll, rhy wyllt)
Materion eraill i wneud gyda adnabod anifeiliad, ac os yn bosib, i gynnwys rhif yr anifeiliaid yma.
Os yw anifail heb gael prawf am y rheswm, “advised by APHA not to test”
Rydym hefyd wedi holi am “not presented at TT2” i’w ychwanegu i’r rhestr.
Trafferthion ychwanegu anifeiliaid
Os oes angen ychwanegu anifail i’r rhestr peidiwch defnyddio y blwch “comments”. Os yr ydych yn methu ychwanegu anifail yna gorffenwch y prawf fel “Part test” a cysylltwch â’r linell cyswllt OV helpline iddynt fedru gwneud hyn drosto chi. Yna danfon y completed test gyda’r anifeiliad ychwanegol yma.
Datafixes
Os oes yna datafix rhowch wybod i swyddfa Iechyd Da, info@iechydda.cymru yn ogystal â APHA.cymruwales.samdatafix@apha.gov.uk
IbTB
Mae ibTB yn wefan rhyngweithiol sy’n mapio achosion o TB ledled Cymru a Lloegr dros y ddegawd flaenorol.
Y prif ddarnau o wybodaeth sy’n cael ei ddangos yw:
Lleoliad yr achosion cyfredol
Nifer o flynyddoedd mae y fferm wedi bod yn rhydd ers yr achos diwethaf, yr “health rating”.
Gellir hefyd gweld hanes anifeiliad unigol trwy ddefnyddio yr “eartag” search.
https:/ibtb.co.uk
BTV, Tafod glas
Mae APHA wedi cysylltu a Iechyd Da ynglyn a’r posibilrwydd o gael OVs i wneud yr ymweliadau adroddiad achos Tafod glas o Fawrth y cyntaf, 2026.
I fod yn gymwys i wneud hyn mae angen i’r OV fod wedi cwblhau yr hyfforddiant NDOT ac rydym yn gofyn i bob un practis gael o leiaf un OV sy’n gymwys.
I gwblhau hwn mae angen côd arnoch, cysylltwch a’r swyddfa i dderbyn hwn. Ar ôl cwblhau y cwrs danfonwch eich tystysgrif i swyddfa Iechyd Da.
Methiannau KPI
Ceisiwch ddanfon canlyniadau eich profion yn ôl yn brydlon ac o fewn yr amser a ganiataŵyd i’r prawf. Os oes rheswm pam na chwblhawyd hyn o fewn yr amser cywir rhowch wybod i’r swyddfa.
Gwnewch eich gorau i wneud yn siwr fod y data yn gywir.
Os nad oes tag, cofiwch rhoi clip ar yr anifail a’i restri fel WSAxxxxx (rhif y prawf) i’w ddilyn gyda rhif y marc clip.
Profion anifeilaid nad ydynt yn fuchol (Non bovine)
Cofiwch ddanfon copi i Iechyd Da yn ogystal ac i APHA. Rydym yn cael sawl methiant KPI oherwydd fod WSA ddim yn cael ei gau.
