Diweddariad ynglŷn â Brechu Gwartheg rhag TB buchol

Yma, gallwch ganfod y newyddion diweddaraf ynglŷn â Brechu Gwartheg rhag TB ar adeg cyhoeddi’r erthygl hon.

Dyma’r 8 diweddariad mwyaf newydd:

1: Gellir brechu gwartheg rhag TB buchol gan ddefnyddio brechlyn BCG i Wartheg. Dyma’r brechlyn a ddefnyddir i amddiffyn pobl a moch daear rhag TB. Mae astudiaethau diweddar yn Ethiopia wedi profi bod y brechlyn hwn nid yn unig rhoi amddiffyniad uniongyrchol i wartheg sy’n cael eu brechu, ond hefyd yn sicrhau bron iawn 90% o ostyngiad yng nghyfraddau trosglwyddo TB rhwng gwartheg. Os bydd anifeiliaid sydd wedi’u brechu yn cael eu heintio, byddan nhw gryn dipyn yn llai heintus i anifeiliaid eraill. Yn yr treial yn Ethiopia, roedd brechiad cBCG yn gysylltiedig â gostyngiad o tua 60% yn y tueddiad i ddal haint M.bovis (95% CI, 34-73%) a gostyngiad o tua 75% yn lefelau heintusrwydd (95% CI, 45-98%) gan sicrhau cyfanswm effeithiolrwydd o 89% (95% CI 64-99%).

2: Fodd bynnag, mae brechu gyda brechlyn BCG yn sensiteiddio gwartheg i PPD Twbercwlin Buchol ac yn peryglu penodolrwydd y Prawf Twbercwlin Serfigol Cymharol Mewngroenol Sengl (SICCT) rydym yn ei ddefnyddio yn y DU (llawer mwy o ganlyniadau positif ffug).

3: Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae prawf DIVA (Differentiates Infected among Vaccinated Animals) wedi’i ddatblygu er mwyn nodi gwartheg sydd wedi’u heintio â M. bovis mewn buchesi sydd wedi’u brechu. Gelwir prawf DIVA yn brawf DST-F hefyd. Mae crynodeb o’r data DIVA sydd wedi’i greu yn Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) hyd yn hyn yn wedi amlygu canlyniadau addawol. Profwyd fod y prawf DIVA yn effeithiol o ran canfod anifeiliaid sydd wedi’u heintio tra’n rhoi canlyniadau negyddol yn achos gwartheg heb eu heintio sydd wedi’u brechu. Mae treialon maes ac astudiaethau arbrofol ar wahân yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd i sicrhau amcangyfrifon mwy manwl gywir o benodolrwydd a sensitifrwydd y prawf DIVA mewn gwartheg sydd wedi, a sydd ddim wedi’u brechu.

4: Beth wyddom ni am y brechlyn hyd yn hyn:

Mae egwyddor a threfn y prawf croen DIVA yn debyg iawn i’r prawf SICCT. Fodd bynnag, nid oes angen chwistrellu twbercwlin adar ar yr un pryd er mwyn cymharu.

5: Fel y nodwyd yn flaenorol, mae arbrofion maes yn cael eu cynnal yn y DU ers 2021 er mwyn deall diogelwch ac effeithiolrwydd y brechlyn cBCG a’r prawf DIVA. Mae DEFRA newydd gyhoeddi trydydd cam o arbrofion maes yn ymwneud â phrawf croen DIVA. Bydd y defnydd ohono’n dibynnu ar lwyddiant yr arbrofion maes hyn, yn enwedig o ran y prawf DIVA.

6: Mae llawer o waith i’w wneud eto cyn y gellir cyflwyno’r brechlyn a’r prawf. Mae’n rhaid cael Tystysgrif Awdurdodi Marchnata gan y VMD ar gyfer y brechlyn a’r prawf DIVA. Bydd yn rhaid i sefydliadau fel Sefydliad y Byd ar gyfer Iechyd Anifeiliaid (WOAH) a’r UE gydnabod y defnydd o’r brechlyn a’r prawf DIVA yn rhyngwladol i sicrhau na fydd effaith ar ein masnach mewn anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid. Mae angen datblygu system TG i gofnodi ac olrhain brechiadau, ac yn hollbwysig, mae’n rhaid i amrywiaeth o randdeiliaid y diwydiant fod yn fodlon derbyn brechiadau. I’r perwyl hwn sefydlwyd grŵp craidd brechu rhag TB ar y cyd rhwng y diwydiant a’r llywodraeth ac mae’r grŵp wedi bod yn cynllunio cynigion polisi lleoli ar gyfer Cymru a Lloegr. Roedd gan ID aelod bwrdd ar y grŵp craidd hwn. Ar ôl ymgynghori ymhellach â grwpiau ar draws y sectorau yr effeithir arnynt, penderfynwyd ymgynghori ynghylch cynigion terfynol yn ystod 2024 (gall yr etholiad fod wedi achosi oedi â hyn).

7: Bydd brechu gwartheg rhag TB buchol yn ychwanegiad gwerthfawr at yr adnoddau i reoli TB buchol ond ni fydd yn disodli mesurau presennol. Mae cynnal mesurau bioddiogelwch ar ffermydd, osgoi masnachu peryglus a chydymffurfio â phrotocolau profi dal i fod mor bwysig ag erioed yn y frwydr yn erbyn TB. Nid yw brechu gwartheg rhag TB yn ateb perffaith.

8: Pa mor agos ydym ni at allu defnyddio’r brechlyn cBCG a’r prawf DIVA? Gan ddyfynnu’r Athro James Wood yn ystod gweminar ddiweddar y BCVA ar frechu TB (gweler y manylion isod): “Byddwn i’n siomedig iawn pe na bai’n cael ei ddefnyddio ymhen 5 mlynedd, nid o reidrwydd mewn ardal eang, ond mewn rhyw ffordd neu’i gilydd o leiaf, yn yr ardaloedd yng Nghymru a Lloegr ble mae’r nifer fwyaf o achosion”.

Gweminar BCVA; RBCG Vaccination in Cattle – a substantial reduction in natural transmission between cattle – 21.5.2024.

Rhannu’r erthygl hon

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Po Box 8, North Road, Aberystwyth, SY23 2WB.

T: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Iechyd Da Limited is a company registered in England and Wales with company number: 1234567

Iechyd Da

Darganfod, datblygu a darparu.

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Blwch Post 8, Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, SY23 2WB.

Ff: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Mae Iechyd Da Cyfyngedig yn gwmni sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni: 08821623