Diwrnod yn Mywyd: Milfeddyg Arobryn o Gymru

A ydych chi eisiau gwybod beth yw’r elfen allweddol er mwyn sicrhau dyfodol disglair i ffermio yng Nghymru?

Rydyn ni’n golygu disglair go iawn (sgleiniog ac arobryn, a dweud y gwir).

Fe wnaethom gyfweld Rhys Beynon-Thomas, Cyfarwyddwr Practis yn Milfeddygon ProStock ynghylch yr heriau sy’n wynebu ffermwyr ar lawr gwlad ar hyn o bryd a sut y gall pob un ohonom wneud ein rhan.  

Ym mhobman, o’r buarth i’r ystafell fwrdd, dywed Rhys fod cydweithio’n allweddol oherwydd gyda’n gilydd gallwn gyflawni pethau gwych, ond mae’n rhaid i ni gyfathrebu.

Dyma sut atebodd Rhys ein cwestiynau ynghylch realiti bod yn Filfeddyg Anifeiliaid Fferm a chyfeiriad posibl dyfodol ffermio.

Dirnadaeth y cyhoedd o ffermio da byw, mae’n debyg. Mae diffyg dealltwriaeth ynghylch y rôl allweddol ffermwyr Cymru o ran rhoi bwyd ar ein platiau a’r heriau sy’n eu wynebu er mwyn gallu gwneud hynny. Fel milfeddyg anifeiliaid fferm, rwy’n credu fod gen i ddyletswydd i gefnogi ffermwyr pan nad ydyn nhw yn yr ystafell.

Gwelliannau, 100%. Pan fyddwch chi’n sefyll ochr yn ochr â ffermwr rydych chi wedi’i helpu i newid ei ddull o ffermio ac mae’r canlyniadau’n dangos bod eu gwaith caled wedi bod yn werth chweil. Weithiau, bydd yn teimlo fel brwydr ddiddiwedd ond pan fyddwch chi’n dechrau gweld llwyddiannau, does dim teimlad gwell i bawb.

Symud tuag at fod yn wasanaeth ataliol yn hytrach na gwasanaeth sy’n ymateb i argyfyngau yw’r dyfodol yn fy marn i. Mae’n rhaid i ffermio yn y dyfodol fod yn gydweithredol, mae’n rhaid rhannu cyngor ac addysg er mwyn cynllunio cystal ag y gallwn ni at y dyfodol. Bydd yn yrfa gyffrous i’r rhai sy’n dymuno gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ffermwyr, eu busnesau a’r gymdeithas ehangach. 

Mae angen i ni ddal ati. Mae angen i ni ddal i ymchwilio pob llwybr posibl gan gynnwys y sectorau bywyd gwyllt a pheidio â stopio nes y byddwn ni wedi canfod ateb. Mae angen i ni hefyd gyfleu’r gwersi y byddwn yn eu dysgu yn sgil gwaith ymchwilio yn eglur a mynd ati i ystyried beth yw goblygiadau’r gwersi hynny i bawb, gyda’n gilydd. 

Os ydych chi’n dymuno gweithio gyda chymuned o bobl o’r un anian sy’n frwd dros sicrhau gwelliannau – milfeddygaeth yw’r yrfa berffaith i chi. Y bobl, eu hangerdd a’u dyfalbarhad yw’r pethau sydd bob amser wedi fy ysbrydoli i ac sy’n fy ysbrydoli hyd heddiw, bob dydd. 

I mi, gwneud eich rhan sy’n bwysig, rydyn ni’n un tîm – yn filfeddygon ac yn ffermwyr. Fe wnaeth magwraeth ar fferm feithrin yr ymdeimlad o gydweithio sy’n bwysig i mi a fy ngalluogi i ddeall pa mor anodd yw gwaith ffermwyr. Trwy helpu ein gilydd, rydyn ni’n helpu’r diwydiant a’r darlun ehangach. Fy nhred i yw y dylech chi helpu os gallwch chi. 

Yn y gorffennol, byddwn i byth a beunydd yn chwarae i fy nhîm rygbi lleol. Bellach, mae treulio amser gyda’r teulu yn bwysicach na dim, a gwylio rygbi fel rhan o’r dorf.

Rhannu’r erthygl hon

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Po Box 8, North Road, Aberystwyth, SY23 2WB.

T: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Iechyd Da Limited is a company registered in England and Wales with company number: 1234567

Iechyd Da

Darganfod, datblygu a darparu.

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Blwch Post 8, Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, SY23 2WB.

Ff: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Mae Iechyd Da Cyfyngedig yn gwmni sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni: 08821623