Diwrnod yn Mywyd: Rheolwr Milfeddygol WVSC

Rydych chi'n mwynhau ymchwil, datblygu a darparu gwasanaethau milfeddygol, ond ai dim byd ond Profion TB yw'r realiti ar gyfer milfeddygon heddiw?

Dywed Bev Hopkins, Rheolwr Milfeddygol WVSC, Darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth a Chyd-Arweinydd Prosiect Sir Benfro yn y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer TB buchol, y gallwch chi wneud hynny i gyd, a mwy.

O gynnal archwiliadau post-mortem er mwyn cadw golwg, rhoi cyngor ymarferol i filfeddygon ynghylch profion diagnostig i redeg cyrsiau DPP ar gyfer milfeddygon ac arwain prosiectau ymchwilio; dywed Bev fod bod yn filfeddyg yn golygu gwneud cymaint mwy na dim ond profi.

Dyma sylwadau Bev am rôl Milfeddyg Anifeiliaid Fferm, swydd sy’n newid yn gyson.

Heb os, teimladau ffermwyr Cymru nad ydyn nhw’n gallu gwneud unrhyw beth ynghylch sefyllfa presennol TB buchol – mae’n dorcalonnus. Mae anodd iawn gwrando ar yr effeithiau proffesiynol a phersonol y mae’r clefyd hwn yn eu cael ar ffermwyr a’u teuluoedd. Ond, yn bersonol, mae hyn yn fy ngwneud yn fwy penderfynol fyth i ddod o hyd i ateb.

Helpu ffermwyr yw’r agwedd ar fy rôl rwy’n ei hoffi fwyaf. Cefais fy magu yng Ngogledd Sir Benfro yn y gymuned amaethyddol, felly rwy’n teimlo cysylltiad dwfn â’r rôl sydd gan ffermwyr ac rwy’n awyddus i’w helpu sut bynnag y gallaf i. Rwy’n mwynhau cydweithio â chydweithwyr yn WVSC ond hefyd yn y rhwydwaith gwyliadwriaeth ehangach ar achosion ymchwilio i glefydau a gweld manteision ein diagnosis i ffermwyr o ran mynd i’r afael ag achosion o glefydau ar ffermydd.  

Rwy’n gweld y Milfeddyg Anifeiliaid Fferm yn dod yn estyniad agosach fyth o dîm y fferm. Rwy’n credu bod rôl milfeddygon a ffermwyr yn dod i’r amlwg wrth i ddata ffermydd gynyddu ac wrth i’r dadansoddi ddod yn fwy gwerthfawr. Rwy’n credu y bydd cyfathrebu dyfnach yn digwydd, a bydd ymddiriedaeth a grymuso yn sail i hynny.

Rwy’n obeithiol y byddwn ni’n symud tuag at atal rhagweithiol ac yn cydweithio â ffermwyr i gyflawni hyn. Gobeithio y bydd cydweithio â Llywodraeth Cymru ar Brosiect Sir Benfro o fudd i’r gymdeithas amaethyddol ehangach wrth i ganfyddiadau newydd ddod i’r amlwg yn rheolaidd.

Peidiwch â meddwl mai dim ond gwneud profion TB a dim byd arall yw gwaith milfeddygon anifeiliaid fferm – mae’n llawer ehangach na hynny. Fel milfeddyg anifeiliaid fferm, mae gennych chi gyfle i feithrin perthynas agos a chyfeillgarwch â ffermwyr lleol, gan sicrhau teimlad o werth a boddhad pan fydd eich cymorth chi wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol iddyn nhw. Mae’r posibiliadau ym maes milfeddygaeth anifeiliaid fferm yn ddiddiwedd a dweud y gwir.

Yn bersonol, rwy’n dymuno defnyddio fy mhrofiadau a fy ngwybodaeth i helpu pobl eraill yn y modd mwyaf effeithiol. Mae ymgymryd â sawl rôl yn fy ngalluogi i rannu a dal ati i ddysgu hefyd, ac rydw i wrth fy modd â hynny. Mae helpu pobl eraill yn gwneud i mi deimlo’n ddefnyddiol, felly rydw i bob amser yn awyddus i gyfrannu os gallaf i gynnig rhyw fath o werth ychwanegol.

Rwy’n mwynhau pobi, garddio, cerddoriaeth a chrwydro i fannau newydd gyda’r teulu yn ein fan wersylla.

Rhannu’r erthygl hon

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Po Box 8, North Road, Aberystwyth, SY23 2WB.

T: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Iechyd Da Limited is a company registered in England and Wales with company number: 1234567

Iechyd Da

Darganfod, datblygu a darparu.

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Blwch Post 8, Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, SY23 2WB.

Ff: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Mae Iechyd Da Cyfyngedig yn gwmni sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni: 08821623