Mae Iechyd Da yn cyfuno ein harbenigedd milfeddygol gyda defnydd o ymchwil er mwyn archwilio a darparu datrysiadau i gadw da yn iach a gwella bywyd i bawb.

Darganfod, datblygu a darparu.

Gan gydweithio â milfeddygon a ffermwyr lleol rydym yn gwrando, yn ymchwilio ac yn rhannu ein gwybodaeth er mwyn sicrhau datrysiadau mwy ataliol.

Mae Iechyd Da yn ganolbwynt cydweithredol 36 o bractisau milfeddygol, sy’n darparu ystod o wasanaethau da byw ledled De Cymru. Rydym yn cefnogi dros 10,000 o ffermwyr Cymru gyda datrysiadau iechyd a lles yn amrywio o brofion TB i gadw golwg ar glefydau, bioddiogelwch a llawer mwy.

Working with local vets and farmers.

Gwella iechyd a lles da byw

Ein rôl ni, fel partner cyflawni gwasanaethau milfeddygol ledled De Cymru, yw sicrhau bod ein ffermwyr a’u busnesau yn ffynnu yn sgil gwella iechyd a chynyddu cynhyrchiant da byw.

Milfeddygon

Vets

Mae ein rhwydwaith sy’n cynnwys mwy na 250 o filfeddygon lleol yn darparu datrysiadau milfeddygol dibynadwy sy’n eich cynorthwyo i wella iechyd da byw.

Ffermwyr

Farmers

Rydym yn gwrando, yn ymchwilio ac yn datblygu datrysiadau ataliol fel y gall ffermwyr a’u da byw fwynhau bywydau iachach a mwy cynhyrchiol.

Llywodraeth

Gan gydweithio â Llywodraethau a’u hasiantaethau, byddwn yn datblygu ac yn darganfod datrysiadau sy’n cael eu harwain gan ymchwil sy’n gwella iechyd da byw yng Nghymru a thu hwnt.

Practisau

Ers ein sefydlu yn 2013, rydym wedi bod yn cynrychioli, cynorthwyo ac yn cydweithio â phractisau milfeddygol lleol ledled De Cymru. Fel consortiwm o bractisau milfeddygol, mae ein holl filfeddygon yn rhannu’r un gwerthoedd, sef:

Mae statws aelodaeth cyfartal gan yr holl bractisau milfeddygol sy’n rhan o Iechyd Da. Y canlyniad? Bydd ffermwyr yn cael cymorth cyson, rhagorol bob tro.

Prosiectau

Fel sefydliad sy’n cael ei arwain gan ymchwil, rydym yn ymdrechu i ganfod datrysiadau sy’n fuddiol i’r byd amaeth yng Nghymru a rhoi’r adnoddau i’n harbenigwyr milfeddygol i’w galluogi i sicrhau effaith ychwanegol.

Mae ein prosiectau rhagweithiol ar y cyd â milfeddygon a ffermwyr lleol yn ein galluogi i ymchwilio a darparu datrysiadau mwy ataliol.

Newyddion a gwybodaeth

Darganfyddwch yr adnoddau y dylech wybod amdanyn nhw. Porwch trwy flogiau am bynciau penodol a darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am y diwydiant mewn un lle. Mae’r wybodaeth wedi’i chasglu ynghyd gan ein tîm arbenigol a’i llunio er eich budd chi.

News

Arwyddion clinigol Firws y Tafod Glas (BTV) yn yr achosion presennol yn y DU

Cyngor clinigol cyfredol ar arwyddion a thriniaeth y Tafod Glas (BTV).
Bulletin

Bwletin Misol: Hydref 2024

Y wybodaeth ddiweddaraf am BVD, lladd ar ffermydd a gwybodaeth bwysig am gysylltiadau e-bost Iechyd Da.
Blog

Diwrnod yn Mywyd: Milfeddyg Arobryn o Gymru

Cyfweliad gyda Rhys Beynon-Thomas, ffermwr, milfeddyg a llefarydd amaethyddol o’r Hendy

Cysylltwch â ni os oes gennych ymholiad

Os oes angen cymorth arnoch, os oes gennych gwestiwn ynglŷn â TB neu unrhyw beth arall, rydym yma i helpu.

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Po Box 8, North Road, Aberystwyth, SY23 2WB.

T: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Iechyd Da Limited is a company registered in England and Wales with company number: 1234567

Iechyd Da

Darganfod, datblygu a darparu.

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Blwch Post 8, Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, SY23 2WB.

Ff: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Mae Iechyd Da Cyfyngedig yn gwmni sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni: 08821623