CYNLLUN PEILOT ‘GWYLIADWRIAETH CLEFYDAU’ YN ARCHWILIO’R DEFNYDD O AI I REOLI HAINT YMHLITH DA BYW
Mae defnyddio technoleg Deallusrwydd Artiffisial (AI) fel ffordd o fonitro clefydau ar ffermydd da byw yng Nghymru yn cael ei archwilio fel rhan o raglen arobryn sy’n ceisio lleihau ymwrthedd gwrthficrobaidd ymhlith anifeiliaid ac yn yr amgylchedd.
Mae’r gwaith AI yn ffurfio rhan o Brosiect Gwyliadwriaeth Syndromig Practis (PSSP), sydd ei hun yn rhan o raglen Arwain DGC (Defnydd Gwrthficrobaidd Cyfrifol / Responsible Antimicrobial Use). Mae’r rhaglen, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cefnogi ffermwyr a milfeddygon yn y frwydr yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) trwy benderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata, technolegau arloesol, a hybu’r arferion gorau.
Mae’r PSSP yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Lerpwl, Canolfan Gwyddor Filfeddygol Cymru (WVSC), a’r partner cyflawni milfeddygol, Iechyd Da, ac mae’n adeiladu ar gynllun peilot cynharach gan Arwain DGC.
Mae’r system gwyliadwriaeth syndromig yn defnyddio rhaglen FAVSNET (Rhwydwaith Gwyliadwriaeth Filfeddygol Anifeiliaid Fferm) y brifysgol i gasglu data am symptomau clefydau a’r defnydd o wrthfiotigau, a hynny o rwydwaith o filfeddygfeydd ledled Cymru. Yna, mae’r tîm yn datblygu ac yn gwerthuso sawl dull, gan gynnwys rhai sy’n seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial, i ddadansoddi’r wybodaeth ac adnabod syndromau – neu batrymau – clefydau penodol sy’n effeithio ar anifeiliaid fferm y milfeddygfeydd sy’n cymryd rhan.
Gan fod yr wybodaeth ar gael bron mewn amser real, mae modd ei defnyddio i fonitro statws iechyd da byw, gyda’r milfeddygon, y ffermwyr a’r rhanddeiliaid eraill yn cael rhybudd cynnar am y posibilrwydd o glefyd newydd yn dod i’r amlwg (neu’n ailymddangos). Caiff hyn wedyn ei ategu gan wybodaeth o wyliadwriaeth y Llywodraeth. Yna, bydd modd gwneud penderfyniadau gwybodus i osgoi’r clefyd rhag lledaenu ymhellach a rhoi opsiynau am driniaeth gynnar ar waith.
Mae dod o hyd i glefyd yn gynnar yn lleihau effaith unrhyw achosion eraill ohono yn datblygu. Mae hefyd yn helpu i atal y clefyd rhag lledaenu i anifeiliaid eraill, neu hyd yn oed fodau dynol, gan leihau’r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau. Mae hyn, yn ei dro, yn helpu i ddiogelu lles anifeiliaid, iechyd y cyhoedd, a’r economi. Mae hefyd yn cyfrannu at yr ymagwedd ‘Un Iechyd’ tuag at les pobl, anifeiliaid, planhigion a’r amgylchedd.
Ar gyfer astudiaeth beilot PSSP, dewiswyd pum syndrom sy’n effeithio ar anifeiliaid fferm: erthyliad, clefyd y cymalau, mastitis, niwmonia a chloffni. At ei gilydd, casglwyd data o 32,799 o ymgynghoriadau rhwng 1 Chwefror 2024 a 31 Ionawr 2025, yn bennaf ar gyfer gwartheg (19,224, 58.6%) a defaid (12,356, 37.7%).
Roedd canlyniadau’r astudiaeth yn galonogol iawn. Dangosodd fod modd casglu symiau mawr o ddata yn llyfn ac yn barhaus o systemau rheoli milfeddygfeydd wrth i filfeddygon fynd ati i wneud eu gwaith o ddydd i ddydd.
Mae’r dechnoleg hefyd yn caniatáu i arbenigwyr archwilio’r cysylltiad rhwng defnyddio gwrthfiotigau a syndromau clefydau penodol. Mae hyn, wedyn, yn eu galluogi i adnabod syndromau sy’n gysylltiedig â defnyddio llawer o wrthfiotigau, ac felly’n flaenoriaeth ar gyfer mesurau rheoli.
Dywedodd un o filfeddygon Iechyd Da, Robert Smith, “Nod y prosiect oedd archwilio a ellid casglu’r math hwn o ddata ‘byw’ gan filfeddygon yng Nghymru wrth iddyn nhw ymweld â ffermydd. Ceisiwyd hefyd ymchwilio i weld a ellid casglu a dadansoddi’r wybodaeth yn brydlon er mwyn cynnig system ‘gwyliadwriaeth clefydau’ ymarferol i leihau unrhyw risgiau o glefydau heintus a’r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau.”
Dywedodd fod dull cydweithredol y PSSP wedi gweithio’n dda, a bydd cam nesaf y prosiect yn cynnwys mwy o filfeddygfeydd yng Nghymru, gan ddefnyddio systemau rheoli gwahanol y milfeddygfeydd.
Dywedodd Robert, “Drwy gynyddu faint o ddata a gasglwn a mireinio’r technegau dadansoddi gan ddeallusrwydd artiffisial, rydyn ni’n gobeithio gwella safon y gwaith ‘gwyliadwriaeth clefydau’ a wnawn. Y nod, yn y pen draw, yw creu system y gallwn ei defnyddio i adnabod clefydau sy’n flaenoriaeth a chryfhau prosesau ‘gwyliadwriaeth clefydau’ ledled Cymru.
“Bydd llai o achosion ac ymyrraeth dargedig yn cyfrannu at leihau’r ddibyniaeth ar wrthfiotigau a thriniaethau gwrthficrobaidd eraill, gan arafu ymwrthedd rhag datblygu.” Dywedodd yr Athro Alan Radford, Athro mewn Gwybodeg Iechyd Milfeddygol ym Mhrifysgol Lerpwl, “Mae tîm prosiect FAVSNET yn ddiolchgar iawn i’r milfeddygfeydd partner am rannu eu data a gwneud y prosiect hwn yn bosibl.”