APHA
Profion Gamma
Mae APHA wedi cytuno i ohebu practisau o hyn ymlaen os ydynt yn bwriadu gwneud profion Gamma ar yr un pryd ac yr ydych chi yn gwneud y prawf croen. Mi fydd hyn yn bwysig i chi o ran cynllunio eich amserlen gan fod gwneud y ddau yr un pryd yn aml yn cymryd fwy o amser.
Fe ddeith y wybodaeth yma i chi ar ffurf e-bost o Iechyd Da
Os oes OV newydd yn ymuno a’ch practis neu locums a fydd yn gwneud profion TB gwnewch yn siwr eu bod nhw yn llenwi ffurflen OV58 i newid practis.
Gwnewch yn sicr hefyd fod ei :
proffeil personol hwy yn eu cysylltu a’ch practis.
a’u manylion wedi eu rhoi ar DEWIN.
Mae nifer o filfeddygon newydd heb gael e-byst pwysig oherwydd bod eu manylion ddim ar dudalen “personnel” ar eich cyfrif DEWIN.
Os oes OV yn symud i bractis arall o fewn rhwydwaith Iechyd Da rhowch wybod i Natasha a mi wneith hi drosglwyddo nhw ar eich rhan.
BTV Report cases ( Achosion adroddiad Tafod Glas)
Mae unrhyw achosion newydd sydd i’w ymchwilio yn cael eu danfon o APHA i’r VDP lleol. Mae yn a rhai achosion wedi dechrau dod i mewn a diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith yma hyd yn hyn.
Mae’n rhaid mynd i’r achosion a chwblhau y gwaith papur o fewn 3 diwrnod gweithio. Mae APHA yn ceisio cwblhau gymaint o’r ffurflenni a sy’n bosib i leihau’r gwaith papur i’r OV.
Mae’n rhaid cwblhau yr hyfforddiant NDOT cyn eich bod yn gymwys i wneud y gwaith yma. Os yr ydych wedi derbyn côd NDOT a heb ddanfon ymlaen eich tystysgrif i swyddfa Iechyd da, a allech chi wneud hynny cyn gynted a phosib.
Dyddiadau trefnu profion TB ar SAM.
Yn anffodus mae practisau ddim yn rhoi dyddiad, amser ac enw OV ar SAM yn ddigon prydlon.
Mae angen rhoi y manylion yma ar SAM o leiaf 2 ddiwrnod gweithio cyn dechrau’r prawf ar TT1.
hefyd os oes newidiadau gwnewch hynny mor fuan a sydd posib.
Mae hyn yn angenrheidiol a dyw ein perfformiad ddim yn ddigonol ar hyn o bryd.
