Prosiectau blaengar
Darganfyddiadau cyffrous, datblygiadau blaengar a chyflawni effeithiol. Mae Iechyd Da yn sicrhau cynnydd.
Os ydych chi’n awyddus i wneud gwahaniaeth, mae arnoch angen partner cyflawni sy’n gwneud pethau’n wahanol. Rydym wedi datblygu hyb cydweithredol sy’n cydweithio er mwyn gwireddu prosiectau sy’n gweddnewid bywydau ac sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ffermwyr, da byw a’r gymdeithas ehangach. Rydym yn cydweithio â chi ac yn gweithio er eich lles chi. Y canlyniad? Gwell bywydau i bawb.
PEILOT TB SIR BENFRO
Mynd i'r afael â lefelau dwys iawn o TB yn Sir Benfro.
Mae prosiect Sir Benfro yn gynllun pum mlynedd sy’n archwilio mesurau newydd er mwyn mynd i’r afael â TB mewn gwartheg yn Sir Benfro. Mae hefyd yn ceisio hybu cydweithio rhwng milfeddygon a ffermwyr, gan eu grymuso i gymryd yr awenau a gwneud penderfyniadau seiliedig ar wybodaeth ynghylch rheoli clefydau.
Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru a chaiff ei gyflawni gan Iechyd Da a Chanolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer TB mewn gwartheg (CBTB) ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae hyn yn integreiddio gwaith ymchwil a datblygu, yn ogystal â gwaith milfeddygol ymarferol er mwyn gweithredu a chryfhau dulliau o reoli TB buchol. Mae’r prosiect yn cyfuno gwaith dadansoddi data a gwyddorau cymdeithasol.
Mae dull y prosiect yn gyfuniad o waith dadansoddi data a gwyddorau cymdeithasol. Mae’n cynnwys hyfforddi milfeddygon a ffermwyr er mwyn gwella’u gwybodaeth am TB buchol, technegau bioddiogelwch, canlyniadau profion croen, arolygon ffermwyr a llawer mwy.
ARWAIN DGC (HYRWYDDO DEFNYDD GWRTHFICROBAIDD CYFRIFOL)
Lleihau datblygiad ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) mewn anifeiliaid a’r amgylchedd yng Nghymru.
Pwrpas y prosiect hwn yw i wella cynhyrchiant , iechyd a lles anifeiliaid tra’n lleihau’r angen i ddefnyddio cyffuriau gwrthficrobaidd fel gwrthfiotigau ar yr un pryd.Gwneuthir hyn drwy ddefnyddio technoleg newydd, arloesol a hyrwyddo ‘arfer da’.
Mae Iechyd Da wedi cyfrannu’n allweddol at y gwaith o sefydlu a datblygu cynllun Arwain DGC, ac mae’r datblygu yma’n parhau. Yn 2016, ar ôl cyhoeddi adroddiad O’Neill ynghylch ymwrthedd gwrthficrobaidd, datblygodd bwrdd Iechyd Da ei gynllun ei hun i hyrwyddo defnydd cyfrifol o wrthfiotigau mewn practisau milfeddygaeth da byw yng Nghymru.
Fe gyflwynodd Iechyd Da y fframwaith yr oedd wedi’i ddatblygu i “dasglu AMR” Prifysgol Bryste, ac yn sgil hynny, sefydlwyd cynllun arloesol Arwain Vet Cymru. Creodd hyn rwydwaith ledled Cymru o Hyrwyddwyr Rhagnodi Milfeddygol (VPCs) sydd bellach wedi dod yn lasbrint ar gyfer cynlluniau tebyg ar draws y byd.
Mae Arwain DGC yn adeiladu ar seiliau gwaith arloesol y prosiect blaenorol hwn. Ariennir y cynllun gan Lywodraeth Cymru a chaiff ei ddarparu gan Iechyd Da, ynghyd â sefydliadau eraill sy’n bartneriaid yn y gwaith.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun…
Farm Animal Veterinary Surveillance Network (FAVSNET)
Casglu data ynghylch symptomau clefydau o bob rhan o Gymru.
Nod FAVSNET yw diogelu lles anifeiliaid, iechyd y cyhoedd, a’r economi ac mae’n cyfrannu at y dull ‘Un Iechyd’ o ymdrin â lles pobl, anifeiliaid, planhigion a’r amgylchedd, gan ddefnyddio data.
Mae Iechyd Da, mewn cydweithrediad â Chanolfan Milfeddygaeth Cymru (WVSC) a Phrifysgol Lerpwl, yn cynnal cynllun peilot yn ymwneud â chadw golwg ar symptomau. Gall casglu’r data hyn alluogi monitro statws iechyd poblogaethau da byw, ac o bosibl, anfon rhybuddion am y posibilrwydd o glefydau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg (neu rai sy’n ailymddangos). Trwy ganfod ac ymateb i fygythiadau i iechyd yn gynnar, gellir gweithredu ymyriadau sy’n seiliedig ar wybodaeth megis brechiadau wedi’u targedu, mesurau bioddiogelwch a phrotocolau triniaethau yn brydlon.Gall hyn atal clefydau rhag lledaenu ymhellach, neu’n well fyth, atal clefydau’n gyfan gwbl.
Nod system FAVSNET Prifysgol Lerpwl yw datblygu methodoleg newydd at ddibenion casglu data o gofnodion iechyd electronig anifeiliaid ffermydd, sydd yna’n cael eu dienwi a’u defnyddio at ddibenion cadw golwg ar glefydau ac ymchwil.
Hyd yn hyn mae’r prosiect wedi cael gwybodaeth am dros 20,000 o ymgynghoriadau yn ymwneud ag anifeiliaid fferm yn bennaf gan dri phractis milfeddygol o bob rhan o Gymru. Mae tîm y prosiect wedi recriwtio pedwerydd practis, ac ar hyn o bryd, maen nhw’n disgwyl am y data o’r practis hwnnw.
Nod y system yw dadansoddi geiriau allweddol yn y cofnodion clinigol ac yna defnyddio’r wybodaeth hon i ymchwilio i weld a ellir canfod unrhyw dueddiadau mewn achosion o glefydau syndromig a chanfod cysylltiadau rhwng hynny a’r defnydd o feddyginiaeth. Trwy intigreiddio’r wybodaeth sy’n deillio o gadw golwg ar glefydau a defnydd meddygyniaethau gobeithir y gallai fod yn bosibl blaenoriaethu ffyrdd eraill o reoli glefydau er mwyn lleihau’r angen i ddefnyddio gwrthfiotogau.
AP HERDSAFE
Gwella bioddiogelwch ffermydd a lleihau'r angen am wrthfiotigau – a’r cyfan mewn un ap.
Mae treialon yr Ap Bioddiogelwch, a drefnir gan Iechyd Da, yn cynnwys 7 practis milfeddygol ac 20 o ffermydd ledled Cymru. Mae’r treial pesennol yn adeiladu ar yr un ffrwd waith ag iteriad cyntaf Arwain DGC.
Mae ffrwd waith yr App wedi’i llunio er mwyn helpu ffermwyr a’u milfeddygon i ganfod datrysiadau i broblemau bioddiogelwch. Trwy ddefnyddio’r Ap Bioddiogelwch, mae’n hawdd nodi meysydd i’w gwella, sy’n galluogi milfeddyg y fferm i roi cyngor ymarferol ynglŷn â thri gwelliant blaenoriaethol tra’n cynnig y cyfle i feincnodi eu bioddiogelwch yn ddienw trwy eu cymharu â ffermydd eraill sy’n cymryd rhan.
I gyflawni hyn, bydd pob fferm sy’n cymryd rhan yn defnyddio’r ap ar y cyd â’u milfeddyg i greu sgôr rhifiadol a rhoi sgôr bioddiogelwch (yn amrywio o 1 seren i 5) ar sail yr asesiadau cychwynnol. Ar ôl yr asesiad cychwynnol, bydd y ffermwr a’r milfeddyg yn cytuno ar gynllun rheoli strategol, sef cyfres o dasgau er mwyn lleihau risgiau. Bydd y newidiadau hyn yn cynhyrchu sgôr newydd ar sail y gwelliannau i’r risgiau er mwyn rhoi gwerth rhifiadol i fudd y gwelliannau bioddiogelwch. Gan gydweithio âr ffermwyr am 9-12 mis, bydd milfeddygon yn cynhyrchu ‘sgoriau risg’ bioddiogelwch personol ar y dechrau ac ar y diwedd i ddangos faint o gynnydd fydd wedi digwydd.
Hyd yn hyn, mae treialon yr Ap wedi dangos y gall y dull hwn leihau’r risg o ledaenu clefydau heintus o’r naill fferm i’r llall. Yn y peilot cam cyntaf, gweithredwyd 60% o’r argymhellion, gan sicrhau da byw iachach a mwy cynhyrchiol, llai o afiechydon, a lleihau’r angen am wrthfiotigau.
Mae gwelliannau’n parhau, gan gynnwys ychwanegu adrannau yn ymwneud â chlefydau penodol ar gyfer pob rhywogaeth.
FFERM LAETH TRAWSGOED
Cydweithio â Phrifysgol Aberystwyth ar fferm laeth Trawsgoed i gynorthwyo ag addysg ac ymchwil ym maes milfeddygaeth
Fferm Brifysgol yw Fferm Trawsgoed, sy’n cynorthwyo â hyfforddiant ac ymchwiliadau israddedigion milfeddygaeth Aberystwyth.
Mae Trawsgoed yn fferm 436 hectar sy’n cynnwys tir gwastad tua 60 metr uwchlaw lefel y môr yng Nghwm Ystwyth, gan godi i dir pori sydd tua 280 metr uwchlaw lefel y môr. Mae yna tua 100 hectar o goetiroedd wedi’u rheoli sy’n cynnwys coed cynhenid a chonifferau ac yno y cynhaliwyd digwyddiad glaswellt cynaliadwy Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru 2024.
Gall fferm Trawsgoed roi ystod eang o brofiadau fferm i fyfyrwyr gan fod yma wartheg bîff, diadell ddefaid a uned odro robotig. Defnyddir yr ap bioddiogelwch HerdSafe yma i fesur y risg o ledaenu clefydau heintus.
Canolfan Milfeddygaeth Cymru
Archwiliadau post-mortem arbenigol a diagnosteg clefydau milfeddygol.
Sefydlwyd Canolfan Milfeddygol Cymru yn 2015 gan Iechyd Da mewn cyd-weithrediad â Phrifysgol Aberystwyth. Mae’r Ganolfan yn gwmni nid er elw sy’n is-gwmni i Iechyd da; ac yn ogystal a darparu archwiliadau post-mortem a phrofion diagnosteg mae’r Ganolfan yn cefnogi amaethwyr a milfeddygon trwy ddarparu hyfforddiant a chyngor.
Mae’r ganolfan wedi ei leoli yn Aberystwyth a gall yr ystafell Post Mortem ymdopi â chreaduriaid fferm o gywion i deirw. Mae gan y ganolfan labordy sy’n achrededig gan UKAS (rhif 9934) ac yn ymfalchio yn y ffaith fod y gwaith o ansawdd yn ogystal â bod yn gyflym a chyfleus i filfeddygon a ffermwyr Cymru a’r Gororau.
Mae’r ganolfan hefyd yn darparu gwersi a chyfleoedd dysgu i fyfyrwyr, amaethwyr a milfeddygon. Mae’r tîm bob amser yn barod iawn i ymwneud â phrosiectau ymchwil ac wrth eu boddau yn rhannu eu profiad a’u gwybodaeth.
Mae bod yn rhan o’r prosiect ymchwil hwn wedi bod yn brofiad diddorol iawn i mi ac rwy’n hyderus y bydd yn werthfawr i’m busnes ac i eraill sydd yn yr un sefyllfa â fi. Os cewch chi gyfle i fod yn rhan ohono mewn rhy ffordd neu’i gilydd er mwyn gwneud pethau’n well i ffermwyr eraill, bachwch ar y cyfle.
Roger Lewis
Ffermwr, Pembrokeshire TB Pilot Project