Sioe deithiol y Prosiect Sir Benfro. 

Ym Mehefin a Gorffennaf fe aeth y sioe deithiol Prosiect Sir Benfro ar daith ar draws canolbarth a de Cymru. Noddwyd y sioe gan Iechyd Da a hoffem ddiolch i’r sefydliadau a roddodd lefydd i’r digwyddiadau sef: Y Pafiliwn Rhyngwladol y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, Arwethwyr da byw Sir Fynwy yn Raglan a mart Caerfyrddin. 

Yr unig beth oedd yn ein herbyn ni oedd y tywydd, mi oedd hi’n dywydd da a felly mi oedd llawer o’n darpar gynulleidfa naill ai yn cneifio neu wrth y cynhaeaf. Ond daeth cynulleidfaoedd digon parchus o rhan rhif ac yn gynulleidfaoedd deallus, a chafwyd trafodaeth a chwestiynau heriol, amrywiol a diddorol ym mhobman. 

Os nad ydych wedi cael y cyfle o weld criw’r prosiect yn sôn am eu gwaith, mae angen i chi wneud. Mae’r brwdfrydedd a’r egni a gymrwyd i sefydlu a chynnal y prosiect i’w weld yn amlwg yn eu cyflwyniadau. Mae’r ffermwyr a’r milfeddygon wedi ymroi i’r ffordd newydd yma o gydweithio. 

Dywedodd JFK;  

“For the great enemy of the truth is very often not the lie-deliberate…-but the myth. 

A dyma un o’r pethau sy’n bwysig i’r prosiect, yw chwalu hen chwedlau a chredoau, ac i edrych ar y data. 

Y prif benawdau: 

Mae’r prawf croen yn fwy tebygol o rhoi canlyniadau ffug negyddol na rhai ffug positif, hynny yw mae’n fwy tebygol o fethu achosion na mynd ac anifeiiaid yn ddi-anghenraid. Mae’n brawf da i ddarganfod buches gyda TB ond nid y gorau i glirio’r haint allan o fuches yn llwyr. 

I chwilio lwmp rhaid swmpo. Mae pob lwmp yn ran o’r stori a mae angen mesur a recordio pob un yn ofalus a chywir. 

Mae pob un prawf TB yn ddarlun o beth sydd yn digwydd ar y pryd yna, a gall sawl prawf o’u edrych arnynt fel cyfres rhoi hanes fwy cyflawn, fel ffilm yn hytrach nac un darlun unigol llonydd. Mae algorithm RiskRate yn helpu dehongli hyn. 

Mae’r app bioddiogelwch HerdSafe yn hybu sgwrs rhwng y ffermwr a’i filfeddyg am sefyllfa fferm ac yn eu galluogi i edrych ar wendidau a chryfderau bioddiogelwch y fferm ac i weithio ar strategaethau sut i gryfhau pethau. 

Mae bywyd gwyllt yn rhan o’r pictiwr ar rhai ffermydd ond nid ym mhobman. Mae’r wybodaeth o’r arolwg Moch Daear Marw ar draws Cymru yn rhan allweddol o’r data sy’n cael ei ddefnyddio yn y prosiect. 

Oherwydd y cydweithio a’r cyd-dynnu mae’r tîm o ffermwyr, milfeddygon, gwyddonwyr ac academyddion cymdeithasol yn gwynebu’r heriau gyda’u gilydd ac nid ar ben eu hunain. Mae’r prosiect yn cynhyrchu strategaethau i geisio rheoli TB a’r effaith y clefyd ar eu busnesau, stratagaethau i gynllunio ac i leihau risg. 

Mae’n brosiect arloesol ac ysbrydoledig, i’r graddau fod rhai o’r milfeddygon a ddaeth awydd cychwyn rhywbeth tebyg i’w cleientiaid hwy. 

Hoffem ddiolch i bawb sydd yng nghlwm â’r prosiect ac i’r rhai fu’n cyflwyno’r gwaith sef Roger, Michael, Rhiannon a Brendan. 

Fe fu yna sgyrsiau am yr arolwg Moch Daear Marw ac am y clefyd newydd sydd ar drothwy’n drws, Y Tafod Glas.  

‘Roedd hefyd cyfleoedd i sgwrsio am waith y prosiect Arwain DGC, gwaith yr WVSC a rheoli BVD.

Rhannu’r erthygl hon

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Po Box 8, North Road, Aberystwyth, SY23 2WB.

T: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Iechyd Da Limited is a company registered in England and Wales with company number: 1234567

Iechyd Da

Darganfod, datblygu a darparu.

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Blwch Post 8, Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, SY23 2WB.

Ff: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Mae Iechyd Da Cyfyngedig yn gwmni sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni: 08821623