Ynglŷn ag Iechyd Da
Rydym yn bartner cyflawni gwasanaethau milfeddygol ychydig yn wahanol i’r arfer. Y gwahaniaeth yw yn gonsortiwm o bractisau milfeddygol, sy’n cydweithio i ymchwilio’n rhagweithiol a darganfod datrysiadau ataliol sydd o fudd i filfeddygon, ffermwyr a’r Llywodraeth.
Profion TB a llawer iawn rhagor
Yn Iechyd Da, rydym yn frwdfrydig dros wella iechyd a lles da byw, a dyna ein diben. Bob amser.
Rydym yn ymchwilio ar y cyd â’n ffermwyr, yn datblygu’n rhagweithiol ar y cyd â’n milfeddygon ac yn mynd ati’n frwdfrydig i sicrhau datrysiadau ataliol ar gyfer y Llywodraeth a’r diwydiant. Y canlyniad? Mae ffermwyr a’u da byw yn mwynhau bywydau iachach a hapusach.
Dull sy’n cael ei ysgogi gan ymchwil
O’r fferm i’r labordy, byddwn yn gwrando, yn asesu ac yn cynghori.
Gan gydweithredu â Phrifysgol Cymru, fe agorodd Iechyd Da Ganolfan Milfeddygaeth Cymru (WVSC) yn 2015. Heddiw, mae WVSC yn darparu archwiliadau post-mortem milfeddygol arbenigol, yn diagnosio clefydau ac yn cynnig hyfforddiant prifysgol, gan gynorthwyo sector amaethyddol y DU gyfan ac iechyd anifeiliaid.
Dewch i gwrdd â’r tîm
Yn ogystal â darparu gwasanaethau milfeddygol a chyfrannu at gynllunio iechyd a lles anifeiliaid, mae ein tîm hefyd yn mynd ati’n rhagweithiol i gynnal mentrau ysbrydoledig sy’n helpu i ddiwallu anghenion newidiol ffermwyr a’u da byw.
Cyfleoedd gyrfa
Mae darganfod datblygiadau gwyddonol a rhoi cymorth gwerthfawr sy’n gwella bywydau yn gyffrous. Mae gweithio yn y sector milfeddygaeth da byw yn golygu gwneud gwahaniaeth bob dydd. Dyma’r swyddi gwag sydd ar gael ar hyn o bryd, yn ein holl bractisau milfeddygol…
Profwr TB
Lleoliad: Remote
Rôl: Full-time
Dyddiad cau: 14/11/2024
Cyfle i fod yn Filfeddyg Anifeiliaid Mawr
Ydych chi’n chwilio am rôl ym maes Milfeddygaeth Anifeiliaid Mawr gyda phecyn sy’n gweddu’ch anghenion chi?
Lleoliad: O bell
Rôl: Amser llawn
Dyddiad cau: 14/11/2024
Gwnewch wahaniaeth go iawn
Cyfrannwch at ddarganfod cyfleoedd gwyddonol newydd, datblygu datrysiadau sy’n gweddnewid bywydau a darparu gwasanaethau buddiol i’r gymdeithas.