Os oes amheuaeth bod TB ar anifail, gosodir y fuches gyfan o dan gyfyngiadau, a chynhelir profion i nodi’n bendant p’un ai oes TB yn bresennol ai peidio. Nes i ganlyniadau’r profion hynny ddod i’r fei:

  • ni chaniateir symud anifail i’r fuches nag allan ohoni oni bai bod yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) wedi rhoi trwydded. Gall gwartheg adael y fuches i fynd yn syth i ladd-dy neu i gael eu difa trwy Uned Besgi Gymeradwy.
  • ni chanieteir ail-stocio nes bod yr holl wartheg eraill wedi cael un neu fwy o brofion TB.
  • rhaid gwahanu unrhyw anifail yr amheuir bod TB arno oddi wrth yr anifeiliaid eraill yn y fuches.

Mae hyn yn lleihau’r risg o ledaenu TB o fewn y fuches a rhwng buchesi. Pan fydd buches o dan gyfyngiadau symud, caiff rhagor o brofion eu cynnal nes i’r canlyniadau ddangos nad yw’r clefyd yn bresennol bellach yn y fuches.

Statws

Mae gan fuchesi Cymru statws TB o naill ai:

  • heb TB swyddogol (OTF)
  • heb TB swyddogol wedi’i atal (OTFS)
  • heb TB swyddogol wedi’i ddiddymu (OTFW).

Heb TB swyddogol

Mae buchesi’n cael statws heb TB swyddogol os ydy’r profion TB i gyd yn glir. Gellir prynu a gwerthu gwartheg cyn belled â bod y profion gofynnol wedi’u bodloni, a bod y profion hynny’n dangos nad oes clefyd ar y gwartheg.

Gellir gosod cyfyngiadau ar un neu fwy o anifeiliaid o fewn buches OTF os ydyn nhw wedi cael canlyniad amhendant i brawf croen ac nad oes statws OTFW wedi’i roi i’r fuches yn y tair blynedd ddiwethaf. Rhaid cadw’r anifeiliaid ‘amhendant’ ar yr eiddo, eu cadw draw oddi wrth wartheg eraill, a’u profi unwaith eto. Yn y cyfamser, mae gweddill y fuches yn cadw ei Statws heb TB swyddogol.

Heb TB swyddogol wedi’i atal

Mae statws OTF buches yn cael ei atal os oes amheuaeth bod TB yn y fuches. Caiff statws y fuches ei atal o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • mae un anifail yn adweithio i brawf croen, nid yw’r anifail hwnnw wedi’i olrhain, ni chanfuwyd briwiau yn ystod y post mortem ac roedd y profion meithriniad yn negyddol
  • nid yw’r fuches yn agos at fuches arall y cafodd ei statws OTF ei atal yn y chwe mis diwethaf nid yw’r fuches wedi colli ei statws OTF yn y tair blynedd diwethaf
  • nid oes anifeiliaid sydd wedi adweithio yn y fuches, ond cafwyd canlyniad amhendant i brawf croen un anifail neu ragor, ac mae’r fuches wedi bod â statws OTFW am y tair blynedd diwethaf
  • gwelwyd yn ystod archwiliad post mortem arferol mewn lladd-dy bod briwiau nodweddiadol o TB ar un neu ragor o anifeiliaid o’r fuches
  • mae un neu ragor o anifeiliaid yn y fuches yn dangos arwyddion clinigol TB
  • ni wyddys beth yw statws y fuches am fod y prawf croen yn hwyr
  • unrhyw gyfuniad o’r sefyllfaoedd uchod.

Bydd angen i fuches sydd â statws OTFS gael o leiaf un prawf TB clir cyn y gellir codi’r cyfyngiadau symud a rhoi’r statws OTF yn ôl iddi.

Heb TB swyddogol wedi’i ddiddymu

Caiff statws OTF buches ei ddiddymu pan fydd tystiolaeth bod y fuches wedi’i heintio. Diddymir y statws pan fydd mwy nag un anifail, neu un anifail yn unig yn adweithio i brawf croen TB a:

  • bod briwiau nodweddiadol o TB yn cael eu gweld arno mewn archwiliad post mortem
  • bod prawf labordy’n cadarnhau presenoldeb Mycobacterium bovis (TB gwartheg)
  • bod statws OTFW wedi’i roi i’r fuches yn y tair blynedd diwethaf
  • bod y fuches yn agos at fuches arall sydd wedi cael statws OTFW yn y chwe mis diwethaf
  • bod APHA wedi nodi risg bod y fuches yn cario’r clefyd
  • unrhyw gyfuniad o’r sefyllfaoedd uchod.

Pan roddir statws OTFW i fuches, cynhelir profion dilynol arni nes ein bod yn hollol sicr nad yw’r clefyd yn bresennol bellach. Gyda buches sydd â statws OTFW, rhaid cael dau brawf TB clir o’r bron, gyda bwlch o 60 diwrnod o leiaf rhwng y ddau, cyn y gellir rhoi’r statws OTF yn ôl iddi a chodi’r cyfyngiadau symud.

  • Map Milfeddygol

  • Byrddau Dileu

Digwyddiadau

  • No events