Ers Ebrill 2016 mae’r trefniadau ar gyfer talu iawndal am wartheg a gafodd eu difa oherwydd TB wedi newid er mwyn annog ceidwaid gwartheg i ddilyn arferion gorau. Yn y rhan fwyaf o achosion caiff yr iawndal llawn ei dalu, ond os nad yw’r rheolau wedi’u dilyn gellir gostwng swm yr iawndal.
Sut mae’r iawndal yn cael ei gyfrifo?
Caiff gwerth anifail sy’n cael ei ddifa oherwydd TB ei bennu gan ddefnyddio’r fformiwla canlynol:
Os ydy SV < (M x MV) yna C = (M x MV), fel arall C = SV
SV yw gwerth yr anifail marw, M yw’r lluosydd, MV yw gwerth marchnad yr anifail, a C yw swm yr iawndal a delir.
O ganlyniad i hyn:
- yr iawndal lleiaf a delir yw gwerth yr anifail marw
- telir gwerth y farchnad pan fydd hwn yn fwy na’r gwerth marw
- pan fo’r Gorchymyn TB wedi’i dorri, defnyddir lluosydd o rhwng 0.75 a 0.05 ar werth y farchnad.
Dangosir enghreifftiau o’r iawndal a delir ar ôl defnyddio lluosyddion gwahanol yn y tabl isod:
Gwerth y farchnad |
Gwerth marw |
Lluosydd |
Iawndal |
£1,500 |
£500 |
1 |
£1,500 |
£1,500 |
£500 |
0.75 |
£1,125 |
£1,500 |
£500 |
0.5 |
£750 |
£1,500 |
£500 |
0.25 |
£500 |
£1,500 |
£500 |
0.05 |
£500 |
Hefyd, yr iawndal mwyaf a delir gan Lywodraeth Cymru am anifail yw £15,000 a £1 yw’r iawndal lleiaf.
Sut caiff gwartheg eu prisio?
Bydd Llywodraeth Cymru’n penodi prisiwr i benderfynu beth yw gwerth yr anifail ar y farchnad. Gallwch wrthod y penodiad os oes yna wrthdaro o ran buddiant personol neu fusnes. Mewn achosion felly, penodir prisiwr trwy enwebiad annibynnol, fel gyda’r drefn flaenorol. Gallwch roi unrhyw dystiolaeth/gwybodaeth angenrheidiol y dylai’r prisiwr ei hystyried wrth brisio’r anifail.
Pryd caiff yr iawndal ei leihau?
Bydd Llywodraeth Cymru’n lleihau’r iawndal os bydd yn fodlon, yn ôl pwysau tebygolrwydd, bod rheolau’r Gorchymyn TB wedi’u torri. Ceir rhestr o amgylchiadau lle gallai perchennog yr anifail gael llai na gwerth yr anifail ar y farchnad isod.
Mae hefyd yn drosedd torri’r rheolau a restrir yn y Gorchymyn TB, a gall yr Awdurdod Lleol erlyn ffermwyr nad ydynt yn cydymffurfio ag amodau’r Gorchymyn, gan ddefnyddio’r safon tystiolaeth ‘tu hwnt i bob amheuaeth resymol’.
A gaf i apelio?
Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad i leihau’r iawndal ond nid y pris a bennwyd gan y prisiwr.
Amgylchiadau lle mae’r lluosydd yn llai nag 1 | Y Lluosydd a ddefnyddiwyd |
Heb ufuddhau i hysbysiad ynysu neu hysbysiad arall o dan Erthygl 10(3) | 0.5 |
Llaeth heb ei basteureiddio o fuwch dan amheuaeth yn cael ei fwydo i lo neu famal arall | 0.05 |
Anifail o dan gyfyngiadau yn cael ei symud heb drwydded | 0.05 |
Hysbysiad Gofynion Milfeddygol: Tramgwydd cyntaf | 0.5 |
Hysbysiad Gofynion Milfeddygol:Tramgwydd wedi hynny | 0.05 |
Hysbysiad Gwella Bioddiogelwch: Tramgwydd cyntaf | 0.5 |
Hysbysiad Gwella Bioddiogelwch: Tramgwydd wedi hynny | 0.05 |
Heb ufuddhau i hysbysiad cyfyngiadau ar storio, gwasgaru neu symud tail neu slyri | 0.75 |
Heb ufuddhau i hysbysiad arall o dan Erthygl 18(1) h.y. hysbysiad ynysu neu hysbysiad glanhau a diheintio: Tramgwydd cyntaf | 0.5 |
Heb ufuddhau i hysbysiad arall o dan Erthygl 18(1) h.y. hysbysiad ynysu neu hysbysiad glanhau a diheintio: Tramgwydd wedi hynny | 0.05 |
Heb gynnal prawf ar anifail (y bwlch rhwng y dyddiad a roddwyd ar gyfer y prawf a’r prawf ei hun yw): Mwy na 60 diwrnod ond dim mwy na 90 diwrnod | 0.5 |
Heb gynnal prawf ar anifail (y bwlch rhwng y dyddiad a roddwyd ar gyfer y prawf a’r prawf ei hun yw): Mwy na 90 diwrnod | 0.05 |
Anifeiliaid sy’n ymuno â buches o dan gyfyngiadau
Mae angen symud gwartheg i fferm sydd dan gyfyngiadau am nifer o resymau, gan gynnwys lles yr anifail, i gadw at gytundeb, ac i fridio. O dan yr amgylchiadau hyn, gall Llywodraeth Cymru roi trwydded i ffermwr i gyflwyno anifail newydd i’r fuches, ond os bydd angen difa’r anifail wedi hynny oherwydd TB, cyn bod y fuches yn cael ei chyhoeddi’n fuches heb TB, caiff yr iawndal am yr anifail ei leihau. Mae hyn yn caniatáu i’r ffermwr ail-stocio ond mae’n golygu hefyd ei fod yn wynebu’r risg ariannol o ddod ag anifail iach i fuches gyda phroblem TB wybyddus.
Ni chaniateir cyflwyno gwartheg newydd i fuches sydd o dan gyfyngiadau cyn y prawf cyfnod byr cyntaf, am fod yna risg sylweddol y gallai hynny arwain at heintio mwy o anifeiliaid ac ymestyn cyfnod y clefyd.
Unedau Cymeradwy
Os na chedwir at amodau Uned Besgi Gymeradwy neu Uned Besgi Eithriedig, caiff yr iawndal a delir ar gyfer unrhyw anifail a leddir oherwydd TB ei leihau.
Uned Besgi Gymeradwy (AFU) – uned sy’n derbyn gwartheg o fuchesi o dan gyfyngiadau ac sydd wedi cael profion clir
Uned Besgi Eithriedig (EFU) – uned sy’n derbyn gwartheg o ffermydd heb TB, heb iddynt gael prawf cyn symud.
Oedi cyn Symud
Mae’n bwysig bod anifeiliaid sydd wedi’u heintio’n cael eu symud o ffermydd heintiedig cyn gynted â phosib ar ôl iddynt adweithio i’r prawf TB. Bydd Llywodraeth Cymru’n lleihau’r iawndal pan na fydd perchennog y fuches wedi cydweithredu i anfon yr anifail i’w ladd, ac oherwydd hynny, bod yna oedi o dros 10 diwrnod cyn symud yr anifail.
Ni chaiff yr iawndal ei leihau os collwyd y targed o 10 niwrnod am resymau sydd y tu hwnt i reolaeth y ffermwr
Ad-dalu costau a thaliadau
Mae’r Gorchymyn TB yn caniatáu i Lywodraeth Cymru i adfer eu costau, megis cost offer a/neu staff, os ydynt wedi gorfod cynnal prawf TB gan nad yw’r ffermwr wedi cynnal prawf ar yr anifail. Gallant hefyd adfer eu costau:
- os na fydd ffermwr yn caniatáu i anifail sydd wedi adweithio gael ei brisio
- os na fydd ffermwr yn caniatáu i anifail sydd wedi adweithio gael ei symud
Gall Llywodraeth Cymru hefyd ohirio talu iawndal, neu ei gymryd o daliadau iawndal yn y dyfodol.