Profi gwartheg yng Nghyymru

Mae’r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i geidwaid gwartheg gynnal profion TB ar eu gwartheg. Yng Nghymru caiff pob buches ei phrofi o leiaf unwaith y flwyddyn, heblaw am loi bach sy’n iau na 42 o ddyddiau ar ddiwrnod y prawf. Cynhelir prawf TB er mwyn sicrhau nad oes TB ar y fuches ac i roi rhwydd hynt i fuchesi gyda Statws heb TB swyddogol (OFT) i brynu a gwerthu gwartheg. Hefyd, cynhelir y profion er mwyn gweld pa fuchesi sydd wedi’u heintio.

Profion TB

Mae dau fath o brawf TB gwartheg swyddogol sydd wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio o fewn yr Undeb Ewropeaidd, sef:

  • y ‘prawf croen’
  • y ‘prawf gama’

Mae’r profion hyn yn chwilio am imiwnedd i TB gwartheg, a gallant ganfod haint yn yr anifail cyn bod unrhyw symptomau i’w gweld. Mae symud yr anifail heintiedig o’r fuches cyn gynted â phosib yn golygu ei fod yn llai tebygol o heintio’r gwartheg eraill.

Does yr un prawf diagnostig yn berffaith ac nid yw’r naill brawf na’r llall yn gwbl gywir ymhob achos. Dyna pam bod yn rhaid cael dau brawf clir ar fuches heintiedig cyn codi unrhyw gyfyngiadau symud. Mae hyn yn lleihau’r risg o gael anifeiliaid heintiedig yn y fuches yn ddiarwybod.

Prawf croen twbercwlin

Y prawf croen yw’r prif brawf sgrinio. Mae’r prawf yn un da am ddarganfod haint mewn buches ac yn dda iawn am nodi’n gywir pa wartheg sydd heb eu heintio. Ar ôl canfod yr haint mewn buches, mae canlyniad y prawf nesa’n cael ei ddehongli’n fwy trylwyr. Mae hynny’n gwella gallu’r prawf i ddod o hyd i wartheg heintiedig eraill yn y fuches.

Mae’r prawf croen wedi bod yn effeithiol o ran dileu’r haint o rannau o’r DU lle nad yw TB mewn anifeiliaid gwyllt yn broblem sylweddol.

Prawf gwaed gama interferon

Defnyddir y prawf gama fel ategiad i’r prawf croen a gall ganfod yr haint yn gynt. O’i ddefnyddio ochr yn ochr â’r prawf croen, cynyddir y tebygolrwydd o ddod o hyd i wartheg sydd wedi’u heintio.

Mae’r prawf gama’n brawf drutach ac mae angen cael sampl gwaed. Nid yw cystal â’r prawf croen am nodi’n gywir pa wartheg sydd heb eu heintio. Mae hynny’n golygu pe bai’n cael ei ddefnyddio yn lle’r prawf croen, bod yna risg bach y câi rhai buchesi eu nodi ar gam fel rhai sydd wedi’u heintio. Dyna pam nad ydym yn defnyddio’r prawf gama fel y prif brawf sgrinio. Rydym yn ei ddefnyddio ar fuchesi heintiedig o dan amgylchiadau penodol:

  • yn y rhannau o Gymru lle ceir llai o achosion o’r haint, er mwyn rhwystro TB gwartheg rhag sefydlu
  • mewn ardaloedd lle mae TB yn fwy cyffredin, i helpu i waredu buchesi o’r haint yn gynt.

Post mortem a phrofion labordy

Cynhelir archwiliad o bob carcas i wneud yn siŵr bod y cig yn ddiogel i’w fwyta. Cynhelir prawf meithriniad microbiolegol mewn labordy i ddarganfod a yw’r bacteriwm Mycobacterium bovis (TB gwartheg) yn bresennol. Gall y prawf hwn hefyd ganfod yr union fath o TB gwartheg. Weithiau gall profion post mortem a meithriniad fethu â chanfod yr haint. Dyna pam fod canlyniadau profion croen a/neu gama yn cael eu defnyddio i ddangos a yw anifail neu fuches wedi’i heintio.

Tagiau DNA

Gosodir tagiau DNA ar wartheg sy’n adweithio’n bositif i’r prawf TB gwartheg, i nodi’n glir pa rai sydd angen eu symud. Caiff y samplau eu cymharu â DNA gwartheg a anfonir i’r lladd-dy i wneud yn siŵr mai’r anifeiliaid cywir sy’n cael eu lladd.

  • Map Milfeddygol

  • Byrddau Dileu

Digwyddiadau

  • No events