Os oes amheuaeth bod TB ar anifail, gosodir y fuches gyfan o dan gyfyngiadau, a chynhelir profion i nodi’n bendant p’un ai oes TB yn bresennol ai peidio. Nes i ganlyniadau’r profion hynny ddod i’r fei:

  • ni chaniateir symud anifail i’r fuches nag allan ohoni oni bai bod yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) wedi rhoi trwydded. Gall gwartheg adael y fuches i fynd yn syth i ladd-dy neu i gael eu difa trwy Uned Besgi Gymeradwy.
  • ni chanieteir ail-stocio nes bod yr holl wartheg eraill wedi cael un neu fwy o brofion TB.
  • rhaid gwahanu unrhyw anifail yr amheuir bod TB arno oddi wrth yr anifeiliaid eraill yn y fuches.

Mae hyn yn lleihau’r risg o ledaenu TB o fewn y fuches a rhwng buchesi. Pan fydd buches o dan gyfyngiadau symud, caiff rhagor o brofion eu cynnal nes i’r canlyniadau ddangos nad yw’r clefyd yn bresennol bellach yn y fuches.

Statws

Mae gan fuchesi Cymru statws TB o naill ai:

  • heb TB swyddogol (OTF)
  • heb TB swyddogol wedi’i atal (OTFS)
  • heb TB swyddogol wedi’i ddiddymu (OTFW).

Heb TB swyddogol

Mae buchesi’n cael statws heb TB swyddogol os ydy’r profion TB i gyd yn glir. Gellir prynu a gwerthu gwartheg cyn belled â bod y profion gofynnol wedi’u bodloni, a bod y profion hynny’n dangos nad oes clefyd ar y gwartheg.

Gellir gosod cyfyngiadau ar un neu fwy o anifeiliaid o fewn buches OTF os ydyn nhw wedi cael canlyniad amhendant i brawf croen ac nad oes statws OTFW wedi’i roi i’r fuches yn y tair blynedd ddiwethaf. Rhaid cadw’r anifeiliaid ‘amhendant’ ar yr eiddo, eu cadw draw oddi wrth wartheg eraill, a’u profi unwaith eto. Yn y cyfamser, mae gweddill y fuches yn cadw ei Statws heb TB swyddogol.

Heb TB swyddogol wedi’i atal

Mae statws OTF buches yn cael ei atal os oes amheuaeth bod TB yn y fuches. Caiff statws y fuches ei atal o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • mae un anifail yn adweithio i brawf croen, nid yw’r anifail hwnnw wedi’i olrhain, ni chanfuwyd briwiau yn ystod y post mortem ac roedd y profion meithriniad yn negyddol
  • nid yw’r fuches yn agos at fuches arall y cafodd ei statws OTF ei atal yn y chwe mis diwethaf nid yw’r fuches wedi colli ei statws OTF yn y tair blynedd diwethaf
  • nid oes anifeiliaid sydd wedi adweithio yn y fuches, ond cafwyd canlyniad amhendant i brawf croen un anifail neu ragor, ac mae’r fuches wedi bod â statws OTFW am y tair blynedd diwethaf
  • gwelwyd yn ystod archwiliad post mortem arferol mewn lladd-dy bod briwiau nodweddiadol o TB ar un neu ragor o anifeiliaid o’r fuches
  • mae un neu ragor o anifeiliaid yn y fuches yn dangos arwyddion clinigol TB
  • ni wyddys beth yw statws y fuches am fod y prawf croen yn hwyr
  • unrhyw gyfuniad o’r sefyllfaoedd uchod.

Bydd angen i fuches sydd â statws OTFS gael o leiaf un prawf TB clir cyn y gellir codi’r cyfyngiadau symud a rhoi’r statws OTF yn ôl iddi.

Heb TB swyddogol wedi’i ddiddymu

Caiff statws OTF buches ei ddiddymu pan fydd tystiolaeth bod y fuches wedi’i heintio. Diddymir y statws pan fydd mwy nag un anifail, neu un anifail yn unig yn adweithio i brawf croen TB a:

  • bod briwiau nodweddiadol o TB yn cael eu gweld arno mewn archwiliad post mortem
  • bod prawf labordy’n cadarnhau presenoldeb Mycobacterium bovis (TB gwartheg)
  • bod statws OTFW wedi’i roi i’r fuches yn y tair blynedd diwethaf
  • bod y fuches yn agos at fuches arall sydd wedi cael statws OTFW yn y chwe mis diwethaf
  • bod APHA wedi nodi risg bod y fuches yn cario’r clefyd
  • unrhyw gyfuniad o’r sefyllfaoedd uchod.

Pan roddir statws OTFW i fuches, cynhelir profion dilynol arni nes ein bod yn hollol sicr nad yw’r clefyd yn bresennol bellach. Gyda buches sydd â statws OTFW, rhaid cael dau brawf TB clir o’r bron, gyda bwlch o 60 diwrnod o leiaf rhwng y ddau, cyn y gellir rhoi’r statws OTF yn ôl iddi a chodi’r cyfyngiadau symud.

Llywodraeth Cymru

TB Hub

Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion

Rhwydwaith Cymunedau Ffermio

Byrddau Rhanbarthol Dileu TB Gwartheg

Dolen i’r wefan newydd

Os hoffech chi gysylltu â’ch bwrdd rhanbarthol lleol ebostiwch : Mae'r e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Mae milfeddygon preifat yn chwarae rôl hanfodol o ran sicrhau iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru. Trwy Cymorth TB mae Iechyd Da yn ceisio hybu rôl milfeddygon preifat yn y gwaith o reoli TB.

Mae Cymorth TB yn caniatáu i ffermwyr a cheidwaid buchesi sy’n cael eu heffeithio gan TB i gael ymweliad arbenigol gan filfeddyg preifat hyfforddedig. Yn ystod yr ymweliad, bydd y milfeddyg yn darparu cymorth a chyngor ar atal y clefyd. Mae’r ffermwr yn gwirfoddoli i fod yn rhan o’r rhaglen.

Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) sy’n gyfrifol am reoli’r rhaglen ac Iechyd Da a Menter a Busnes sy’n ei rhedeg. Bydd APHA yn rhoi talebau i ffermwyr sydd am ymuno â’r rhaglen. Mae'r rhaglen ar gael ar draws Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu dangosfwrdd TB i gyflwyno darlun o sefyllfa’r clefyd ar draws Cymru ac i wneud yr wybodaeth yn hawdd ei deall.

Gweler diffiniadau’r termau a ddefnyddir isod

Ffigur 1 – _Achosion agored ac achosion newydd ar ddiwedd y chwarter o’i gymharu â’r chwarter cynt.

Mae’r siart bar yn dangos nifer yr achosion agored bob chwarter ers 2010 (22 chwarter). Mae’r bar coch yn dynodi’r cyfrif uchaf a’r bar gwyrdd yn dynodi’r cyfrif isaf. Sylwer y gall graddfa’r echelin fertigol amrywio o sir i sir.

Ffigur 2 – _Nifer yr achosion newydd, achosion a gaewyd ac achosion agored

Nifer yr achosion newydd: Nifer y buchesi sydd â Statws Heb TB swyddogol lle mae o leiaf un anifail wedi adweithio i’r prawf, neu bod yna adweithio amhendant (IR) a ystyrir yn adweithio, neu gydag achos o feithriniad positif mewn lladd-dy a ddaeth i’r fei yn ystod y chwarter

Nifer yr achosion a gaewyd: Nifer yr achosion o TB Gwartheg lle codwyd y cyfyngiadau yn ystod y chwarter (Ffurflen TB10 wedi’i dosbarthu).

Nifer yr achosion agored: Cyfanswm yr achosion o TB Gwartheg lle mae’r cyfyngiadau yn parhau ar ddiwedd y chwarter. Mae’r cyfanswm yn cynnwys achosion newydd ac achosion sy’n parhau o gyfnodau blaenorol.

Ffigur 3 – _Niferoedd cymharol, mynychder mewn buchesi a lefel y risg ymhlith anifeiliaid

Nifer yr achosion newydd ymhob 100 o brofion ar fuchesi byw (neu niferoedd cymharol): nifer y buchesi a osodwyd o dan gyfyngiadau oherwydd achos newydd o TB Gwartheg ymhob 100 o brofion ar fuchesi byw yn ystod y chwarter.

Nifer y buchesi o dan gyfyngiadau oherwydd achos o BT Gwartheg ymhob 100 o brofion ar fuchesi byw ar ddiwedd y cyfnod dan sylw (neu mynychder mewn buchesi): nifer y buchesi o dan gyfyngiadau oherwydd achos o BT Gwartheg mewn poblogaeth hysbys ar ddiwedd y chwarter.

Nifer sydd wedi adweithio i’r prawf ymhob 1000 o wartheg a brofwyd (neu lefel y risg ymhlith anifeiliaid): nifer sydd wedi adweithio ymhob 1000 o wartheg a brofwyd yn ystod y chwarter.

Ffigur 4 – _Cyfran yr achosion o TB a gaewyd lle cafwyd ail-heintiad

Y gyfran o achosion TB Gwartheg a gaewyd yn ystod y chwarter lle bu ail-heintiad yn ystod y ddwy flynedd ganlynol. Cymharir hyn â nifer yr achosion a gaewyd yn yr un cyfnod, gan ddangos a oedd cysylltiad rhwng y cynnydd mewn achosion a gaewyd a’r cynnydd yn yr achosion o ailheintio. Oherwydd yr oediad amser o ddwy flynedd, y chwarter diweddaraf dan sylw yw Q2 2013.

Ffigur 5 – _Mesur Statws heb TB swyddogol

Canran y buchesi sydd â Statws heb TB swyddogol yng Nghymru yn ystod y chwarter dan sylw a’r chwarteri cyfatebol yn ystod y ddwy flynedd flaenorol. Mae hyn yn cynrychioli nifer y buchesi sydd â Statws heb TB swyddogol dan ddeddfwriaeth yr UE (gall buches gyda’r statws hwn gael ei masnachu heb unrhyw gyfyngiadau TB Gwartheg). Dangosir fel canran o’r holl fuchesi byw.

Rhestr termau

Statws heb TB swyddogol (OTF) – statws a roddir i fuches ac a ddiffinnir dan ddeddfwriaeth yr UE. Gall buches gyda’r statws hwn gael ei masnachu heb unrhyw gyfyngiadau TB Gwartheg.

Achos o TB Gwartheg – Buches gyda Statws heb TB swyddogol gynt lle mae o leiaf un anifail wedi adweithio i’r prawf, neu bod yna adweithio amhendant (IR) a ystyrir yn adweithio, neu gydag achos o feithriniad positif mewn lladd-dy yn dod i’r fei. Mae’r cyfyngiad, ac felly’r achos, yn dechrau ar ddyddiad y prawf a daw i ben ar ddyddiad dosbarthu’r ffurflen TB10.

Buches fyw – buches a ddiffinir fel un “fyw” (h.y. heb ei harchifo) yn nodiannau’r sir/plwyf/daliad/buches, ac a nodwyd fel un weithredol ar SAM ar 31 Rhagfyr 2013.

Niferoedd yw nifer yr achosion newydd o TB Gwartheg a geir o fewn nifer hysbys o anifeiliaid neu fuchesi dros gyfnod penodol o amser.

Niferoedd cymharol yw nifer yr achosion newydd o TB Gwartheg a ganfuwyd o fewn nifer hysbys o brofion ar fuchesi.

Mynychder mewn buchesi yw nifer yr achosion o TB Gwartheg a ganfuwyd o fewn nifer hysbys o anifeiliaid a brofwyd dros gyfnod penodedig.

Lefel y risg ymhlith anifeiliaid yw nifer yr anifeiliaid sydd wedi adweithio i’r prawf TB o fewn nifer hysbys o anifeiliaid a brofwyd dros gyfnod penodedig.

Graddfa ailheintio sy’n mesur y canran o achosion o TB Gwartheg a gaewyd lle cafwyd ailheintiad o fewn y ddwy flynedd ddilynol.

Mae arferion bioddiogelwch a hwsmonaeth da yn bwysig er mwyn lleihau’r risg o haint TB gwartheg.

Sut i wella bioddiogelwch

Mae symud gwartheg yn cynyddu’r risg o gyflwyno TB buchol a chlefydau eraill. Hyd yn oed mewn buchesi caeedig gall gwartheg ddod i gysylltiad â gwartheg eraill ar dir cyfagos, sy’n cynyddu’r bygythiad. Mae cyfres o gamau synhwyrol y gall ffermwyr gwartheg eu cymryd i wella bioddiogelwch ar eu daliad.

Cadw’ch gwartheg draw oddi wrth wartheg ffermydd cyfagos.

  • rhaid i’r ffensys rhwng ffermydd allu cadw stoc mewn ac allan
  • dylid ystyried codi ffens ddwbl (gyda bwlch o 3m o leiaf) ar hyd ffiniau ffermydd i atal cysylltiad trwyn-wrth-drwyn
  • os gall eich gwartheg ddod i gysylltiad â gwartheg ffermydd cyfagos (gatiau, cafnau a bylchau eraill) gallai ffens drydan dros dro fod yn ffin addas i’w hatal rhag dod i gysylltiad a lledaenu clefydau
  • lle bo modd, dylid atal gwartheg rhag rhannu cyrsiau dŵr fel pyllau neu nentydd, a dylid darparu dŵr pibell mewn cafnau yn lle.

Gwybod o ble mae’r anifeiliaid rydych chi’n eu prynu’n dod

  • mynnwch gyngor am iechyd anifeiliaid gan eich milfeddyg cyn prynu gwartheg
  • dylech wybod bob amser o ble mae’r gwartheg rydych chi’n eu prynu’n tarddu. Er bod y fuches heb TB, gall fod mewn ardal risg uchel
  • gofynnwch am dystiolaeth briodol o hanes profion y fuches y daw’r anifeiliaid ohoni, yn ogystal â dyddiadau profion TB blaenorol ar gyfer yr holl wartheg rydych chi’n eu prynu. Mae’r sticer pasbort TB yn ffordd hawdd o weld pryd cafodd y gwartheg brawf clir ddiwethaf (ar gyfer prynu yng Nghymru’n unig)
  • dylai’r gwartheg sy’n symud i’ch fferm fod wedi cael profion cyn symud os ydyn nhw’n dod o ardal risg uchel
  • dylech fod yn ymwybodol o’r risg o gyflwyno clefyd os ydych chi’n llogi neu’n rhannu gwartheg, gan gynnwys teirw llog. Lle bo modd, dylech fridio’ch anifeiliaid amnewid eich hun a/neu ffrwythloni’n artiffisial
  • dylech fod yn ymwybodol o’r perygl posib o gyflwyno haint pan fydd gwartheg yn dychwelyd ar ôl pori tir comin neu’n dychwelyd am na chawsant eu gwerthu yn y farchnad
  • dylech gadw gwartheg sy’n symud i’ch fferm mewn cyfleusterau ynysu priodol. Os byddwch yn defnyddio padog/cae i wneud hyn, gwnewch yn siŵr nad oes modd iddynt ddod i gysylltiad ag unrhyw wartheg eraill yn eich buches, na gwartheg ar ffermydd cyfagos.

Arferion da cyffredinol

  • dylai siediau gwartheg gael eu hawyru’n dda. Peidiwch â chadw gormod o wartheg mewn siediau dan do
  • rhowch ddeiet cytbwys a maethol i’r gwartheg
  • peidiwch â rhoi llaeth gyda chyfrif celloedd uchel sydd heb ei basteureiddio i loi
  • cadwch eich gwartheg draw o dail/slyri sydd newydd ei wasgaru a chofiwch gael gwared â’ch gwasarn fel na allant fynd ato
  • gweithiwch gyda’ch milfeddyg i lunio cynllun iechyd ar gyfer eich buches
  • dylai fod peiriant golchi gwasgedd uchel, brwshys, pibelli dŵr a diheintydd ar gael, a dylech fynnu bod ymwelwyr yn eu defnyddio hefyd
  • dylech lanhau a diheintio peiriannau fferm yn drylwyr, yn enwedig os ydych chi’n rhannu offer â fferm gyfagos, a dylech fynnu bod contractwyr yn gwneud yr un fath.

Delio â Thail

  • mae astudiaethau wedi dangos y gall Mycobacterium bovis oroesi am hyd at 6 mis mewn slyri sydd wedi’i storio
  • argymhellir peidio â gadael i wartheg bori am ddeufis ar dir lle mae slyri/tail/dŵr brwnt wedi’i wasgaru.

Am ragor o gyngor i geidwaid gwartheg ar sut i amddiffyn eu buchesi rhag TB, ewch i wefan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (dolen allanol).

Meddyliwch cyn Prynu

Gall TB neu glefydau fel BVD neu Johnes gael effaith sylweddol ar economi a lles eich fferm. Wrth brynu gwartheg i mewn mae perygl ichi heintio’ch buches. Gallwch leihau’r risg drwy ofyn am wybodaeth ynghylch profion a hanes yr anifail, a’r fuches y bu’n rhan ohoni, o safbwynt clefydau.

Cyn prynu gwartheg, gofynnwch y cwestiynau canlynol i’r gwerthwr neu’r arwerthwr:

  • Ydy’r anifail/anifeiliaid wedi cael prawf cyn symud? Os do, pryd?
  • Pryd gafodd y fuches gyfan ei phrofi am TB ddiwethaf?
  • A ydy’r fuches wedi cael TB erioed? Os do, ers pryd y mae’n rhydd o TB?

Dylech hefyd ystyried y sefyllfa o ran y clefyd yn yr ardal y daw’r gwartheg ohoni. Mae’n bwysig gwybod hanes TB y fuches, a hanes yr anifail o safbwynt clefydau, o ble bynnag y daw.

Dyddiad y Prawf Cyn Symud

Yn ddelfrydol, dylid profi’r gwartheg cyn eu symud. Gallwch hefyd gynnal prawf ar y gwartheg wrth iddynt gyrraedd y fuches newydd. Bydd hynny’n lleihau’r perygl o ledu haint.

Dyddiad y Prawf Diwethaf ar y Fuches Gyfan

Dylai pob anifail sy’n cael ei werthu i fuches sydd â Statws Heb TB fod wedi cael prawf TB negyddol. Yng Nghymru, mae pob buches yn cael un prawf TB o leiaf bob blwyddyn. Ond gall rhai gwartheg o rannau eraill o Brydain fod heb eu profi ers pedair blynedd. Mae’n rhoi tawelwch meddwl gwybod bod buches wedi cael prawf negyddol yn ddiweddar, a’i bod yn hollol glir o TB.

Ers faint y bu’r fuches heb TB

Mae mwy o berygl yn gysylltiedig â phrynu gwartheg o fuches sydd â hanes o’r clefyd nag o fuches sydd erioed wedi cael ei heffeithio gan y clefyd. Mae buches sydd wedi cael TB yn y gorffennol tua thair gwaith yn fwy tebygol o ddioddef achos newydd na buches sydd heb gael y clefyd o gwbl.

Rhagofalon i’w cymryd

Os ydych chi’n meddwl bod gwartheg yr ydych yn eu prynu mewn perygl o gael TB, gallwch gymryd y camau canlynol i leihau’r perygl hwnnw:

Ynysu’r anifail

Mae TB yn fwy tebygol o ledaenu rhwng anifeiliaid sydd wedi’u heintio a rhai sydd heb eu heintio yn ystod cyfnod o gyswllt agos, yn enwedig pan fydd gwartheg yn cael eu cadw dan do. Bydd cadw’r anifail newydd draw o weddill y fuches nes ei fod yn cael prawf clir yn lleihau’r perygl o ledaenu TB.

Profion ar ôl symud

Cyn cyflwyno unrhyw anifail newydd i’ch buches, yn enwedig os daw’r anifail o ardal lle nad oes profion blynyddol, byddai’n syniad da cynnal prawf ar ôl symud. Bydd hyn yn sicrhau nad yw wedi datblygu TB ers ei brawf diwethaf, a bydd yn lleihau’r perygl o ledaenu’r clefyd i weddill y fuches. Gallwch drefnu profion ar ôl symud gyda’ch milfeddyg lleol.

  • Map Milfeddygol

  • Byrddau Dileu

Digwyddiadau

  • No events