Cymorth TB
- Iechyd Da
- Categori: Cymorth TB
- Ymweliadau: 1372
Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans, heddiw ei bod yn lansio rhaglen Cymorth TB ledled Cymru, yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus.
Mae Cymorth TB yn cynnig i ffermwyr yng Nghymru becyn cymorth pwrpasol drwy ymweliadau milfeddygol, y mae Llywodraeth Cymru’n talu amdanynt, yn dilyn achos o TB. Cyflenwir y rhain gan filfeddyg preifat (milfeddyg y ffermwr ei hun, os oes modd) a byddant yn cynnwys cyngor bioddiogelwch wedi’i deilwra a chyngor ar sut mae clirio’r achos o TB cyn gynted â phosibl.
- Iechyd Da
- Categori: Cymorth TB
- Ymweliadau: 1344
Gwasanaeth cefnogi a chynghori rhad ac am ddim i’r gymuned ffermio yw Cymorth TB, a fydd yn eich cynorthwyo i leihau risg TB yn eich buches yn y dyfodol.
Yn ystod ymweliad Cymorth TB, daw milfeddyg i’ch gweld ar y fferm i gynnig cymorth a chyngor wedi’u teilwra ynghylch pob agwedd ar y broses gadarnhau, rheoli clefyd ar y fferm, bioddiogelwch, parhad busnes, ac arfer gorau i leihau tebygolrwydd achosion TB yn y dyfodol.
- Iechyd Da
- Categori: Cymorth TB
- Ymweliadau: 1396
Milfeddygfeydd sydd â Milfeddyg Hyfforddedig Cymorth TB
Mae milfeddyg(on) hyfforddedig Cymorth TB ar gael yn y milfeddygfeydd canlynol: