Adroddiad ar ein Gweithdy gweinyddu i bractisiau Iechyd Da

Cynhaliwyd y gweithdy yma i drafod cwestiynau sydd wedi codi o ran agweddau gweinyddol ein Contract VDP. Diolch i bawb a ddaeth yno i gymryd rhan, i siarad ac am y trefniant. Mi roedd yn ddiwrnod diddorol, gwerthfawr a defnyddiol iawn.

 

APHA

Casglwyd nifer o ymholiadau am agweddau o bolisi a’r rhaglen gyflenwi rheolaeth TB ac fe’u danfonwyd i APHA. Fe fu sesiwn buddiol yn delio gyda rhein yng nghwmni Michal Siwonia ac Andrea Davies o APHA. Mae angen diolch iddynt am yr amser a’u hymdrech yn ateb y cwestiynau yma.Y prif themau oedd:

Rheolau ynglŷn ac oedi symud anifeiliaid sydd wedi adweithio i’r prawf TB.

Amseri profion cyfnod byr (SI)

Bod angen cael gohebaieth i bractisiau OV ynglŷn â chanlyniadau profion sy’n cael ei gwneud gan staff APHA, gan nad yw rhein yn ymddangos ar Dewin.

Newid y dehongliad i amodau llym wedi i adweithydd cael ei ddatgelu ar brawf amodau safonol.

 

Fel sy’n digwydd mewn sesiynau fel hyn, mae un cwestiwn yn creu sawl un arall, ac i ddweud y gwir gall y sesiwn yma fod wedi cymryd diwrnod cyfan. Mi oedd y trafod yn werth chweil ac fel ym mhob peth, mae gallu rhoi gwyneb i lais neu enw yn helpu llawer pan mae’n dod i gyfathrebu yn y dyfodol.

 

Dewin

Bu Natasha Thomas yna yn trafod swyddogaethau Dewin. Dewin yw ein cronfa ddata a’n system gyfatherbu, ac rydym yn gweithio yn barhaus i’w wella. Fe gynigiwyd sawl gwelliant ac rydym yn mynd i ddefnyddio’r adborth yma i’w ddatblygu.

Mae Dewin yn gymorth i Iechyd Da i weinyddu ein contractau, ac mae diweddaru manylion y practisiau yn hanfodol. Mae Natasha ar gael i gynnig hyfforddiant ar sut mae defnyddio Dewin.

 

Iechyd a diogelwch.

Fe fu sesiwn gan Paul Rodgers yn trafod yr adroddiadau iechyd a diogelwch a’i bwysigrwydd i alluogi gwneud profion TB diogel a chywir.

(Mae angen ceisio meithrin a hybu gweithio yn ddiogel ar ffermydd gan fod ffermydd yn gallu bod yn lefydd peryglus ar adegau. Mae llai na 1% o weithlu y DU yn gweithio ar ffermydd ond mae 20% o farwolaethau yn y gweithle yn digwydd ar ffermydd).

 

Fe bwysleiswyd yr angen i nodi damweiniau a’r digwyddiadau ble roedd rhywun yn meddwl “whiw, mi oedd hwnna’n agos”, oherwydd mi allai hi fod yn wahanol y tro nesaf. Mae hi hefyd yn ofynnol i roi adborth ar y crush a’r cyfleusterau trin gwartheg. Cafwyd aborth o’r gynulleidfa am newidiadau i’r ffurflenni ac fe fyddwn yn mynd ati i addasu rhain.

 

UK Farmcare

Siaradodd Kate Bowen o UK Farmcare am eu gwaith o archwilio OVs, ATTs a phractisiau. Mi restrodd y cydymffurfiadau cyffredin a ddarganfuwyd yn ystod eu hymchwiliadau (diffyg ffurflenni addas ac offer). Mi bwysleisiodd yr angen i roi trefniadau profion ar SAM, yn rhestri dyddiad, amser ac enw yr OV/ATT o leiaf 2 ddiwrnod gwaith cyn y prawf (ond os yn bosib, cyn hynny). Mae hyn yn enwedig o bwysig i brofion sydd ag o leiaf cant o anifeliaid. Mae angen y manylion yma i drefnu yr archwiliadau (mae yna fwy o bwysau arnym yng Nghymru i wneud hyn, gan fod angen i 75% o’r archwiliadau fod yn ddirybudd). Mae ymweliad dibwrpas gan archwilydd yn ddrud ac fe fydd cost ar Iechyd Da ac fe fydd hyn yn y pen draw yn cael ei drosglwyddo i’r practisiau.

 

KPIs

 

Soniodd David Thomas ein Uwch-OV (SOV) am ei gyfrifoldeb am oruchwylio y contract VDP. Mi amlinellodd y gwahanol KPIs sydd yn angenrheidiol i ni gyrraedd. Mae’n perfformiad wedi bod yn dda ac yr ydym ymysg y goreuon, os nad y gorau ar hyd y blynyddoedd. Mae llawer o’r clod am hyn yn mynd i’r staff gweinyddu yn y practisiau ac mi ddiolchodd iddynt am eu rôl sydd yn allweddol i ffyniant a llwyddiant Iechyd Da.

 

Prosiect Sir Benfro

Soniodd dau o’r cyfarwyddwyr, Brendan Griffin a Paul Rodgers am y technegau a’r meddylfryd tu ôl i’r prosiect cyffrous ac arloesol yma. Gwraidd y prosiect yma yw i ffermwyr a’u milfeddygon, wedi hyfforddiant ychwanegol a chael data, cael y wybodaeth i geisio rheoli TB ar eu ffermydd.

 

Gall y prawf croen adael adweithyddion ar ôl yn y fuches, sef haint gweddilliol, ac mae hwn yn un o’r prif resymau am bresenoldeb TB ar ffermydd sydd o dan waharddiad am gyfnodau hir. Bu sôn am RiskRate, meddalwedd sy’n edrych ar hen ganlyniadau profion TB y fferm i adnabod anifeliaid sydd o risg uwch na’r gweddill. Mae hyn yn tanlinellu y pwysigrwydd o fesur a recordio yn gywir pob lwmp ar y profion.

Gwella bioddiogelwch trwy defnyddio App Herdsafe wnaeth Paul, un o gynllunwyr yr app. Mae Herdsafe yn holi am fanylion am y fferm i ddarganfod mannau gwan a sut y gallai hyn wella sgôr bioddiogelwch y fferm.

 

Swyddog gweithredu a datblygu

Siaradodd Phil Thomas am ei rôl newydd yn Iechyd Da. Gan fod Iechyd Da wedi datblygu i fod yn fwy na’r syniad gwreiddiol o gontractiwr gwasanaethau TB mae yna sawl ffrwd o waith wedi tyfu dros y blynyddoedd diwethaf. Mae rhein wedi datblygu i’r graddau for angen mwy o oruchwyliaeth arnynt. Mae ei swydd nid yn unig i gyfathrebu gyda’r aelodau, ond hefyd i gynrychioli Iechyd Da i’r diwydiant ac i’r byd ehangach. Mi fydd ei waith yn cynnwys gweithio ar y tender nesaf, a fydd gyda ni yn fuan.

Mae’n gynrychiolydd ar wahanol bwyllgorau sydd yn ymwneud â BVD a soniodd am y sefyllfa bresennol gyda BVDCymru.

Un prosiect a ddechreuodd Iechyd Da yw y Ganolfan Milfeddygol yn Aberystwyth, sef y WVSC.

Maent yn gwneud archwiliadau post mortem ar anifeliad fferm, yn gwneud profion yn y labordy ac yn darparu hyfforddiant. Y WVSC sydd wedi cael y contract am wneud yr Arolwg Moch Daear Marw dros Gymru a diolchodd i’r practisiau sydd yn helpu yn y gwaith yma. Mae’r gwybodaeth a ddaw o hwn yn ddarn pwysig o’r pôs TB, ac yn cael ei ddefnyddio yn helaeth yn y prosiect Sir Benfro. Mae’r WVSC hefyd yn darparu gwasaneth cyngor i filfeddygon am ganlyniadau BVD, y rheolau ac opsiynau.

 

Adborth o’r gynulleidfa.

 Gwybodaeth defnyddiol am:

rhesymau a rheolau am oedi symudiadau adweithyddion oddi ar ffermydd;

rheolau newydd BVD ar wartheg sy’n dod o Loegr.

 Newid syniadau am TB, yn enwedig taw “nid Moch Daear yw’r unig broblem”

Meddyliodd un practis am ddefnyddio gwahanol ffurflenni Iechyd Da fel screensavers i fod yn rhywbeth i atgoffa y staff o’i bresenoldeb a’i bwysigrwydd.

 Y pwysigrwydd o recordio damweinaiu ac y “near misses”.

 Cael y person sy’n derbyn y ffurflen TB181 i arwyddo ei bod nhw wedi ei dderbyn.

 Mi oedd y diwrnod yn gyfle da i gwrdd â’n cydweithwyr dros ein rhanbarth, ac i rannu syniadau a phrofiadau. Roedd yr adborth yn bositif ac fe benderfynwyd i wneud hyn yn rhan o galendar hyfforddiant Iechyd Da yn y dyfodol.

 Mae effeithiau gwneud profion TB yn mynd tu hwnt i’r risg o fedru cael anaf tra’n gwneud y profion ac effeithiau ar fusnes y ffermydd. Mae yna gryn bwysau meddyliol ar bawb sy’n gysylltiedig. Un o’r sylwadau mwyaf pwysig y dydd a ddaeth o un o’n cydweithwyr a soniodd am un o’i phrofiadau. Mi oedd ffermwr wedi cael cyfnod gwael yn ei fywyd a nawr mi oedd o dan warchae TB. Rhoddwyd cerdyn yr Elusen DPJ iddo a’r tro nesaf y galwodd hi yno, mi ddiolchodd iddi am achub ei fywyd. Diolch iddi am rannu hyn.

Rhannu’r erthygl hon

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Po Box 8, North Road, Aberystwyth, SY23 2WB.

T: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Iechyd Da Limited is a company registered in England and Wales with company number: 1234567

Iechyd Da

Darganfod, datblygu a darparu.

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Blwch Post 8, Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, SY23 2WB.

Ff: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Mae Iechyd Da Cyfyngedig yn gwmni sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni: 08821623