Mae gweinidogion wedi cytuno i drwyddedu tri brechlyn y Tafod Glas (BTV-3) i’w defnyddio mewn argyfwng ledled Cymru, yn unol â chais gan gynrychiolwyr y diwydiant ffermio.
Gan mai dyma’r tro cyntaf i frechlyn da byw heb awdurdod gael ei drwyddedu yng Nghymru, mae’r Prif Swyddog Milfeddygol, Dr Richard Irvine yn gofyn am eich cydweithrediad i gadw cofnodion o’r dosau brechlyn y Tafod Glas yr ydych yn eu harchebu, eu cyflenwi a’u rhagnodi.
Gofynnir i filfeddygon roi gwybod i Lywodraeth Cymru am yr holl frechlynnau’r Tafod Glas (BTV-3) y maent yn eu rhagnodi o fewn 7 diwrnod i’r dyddiad a ragnodir drwy ei e-bostio i’r blwch post canlynol animaldiseases@gov.wales.
Mae’r cais hwn yn ychwanegol at eich cyfrifoldeb i hysbysu’r awdurdodau perthnasol am unrhyw effeithiau andwyol sy’n gysylltiedig â brechlyn y Tafod Glas y byddwch yn sylwi arnynt