Mae Cymru’n wynebu bygythiad sylweddol uchel oherwydd nifer cynyddol o achosion o ffliw’r adar mewn adar cadw ac adar gwyllt ledled Prydain Fawr.
Mae ffliw adar yn destun pryder difrifol, nid yn unig o ran iechyd a lles anifeiliaid, ond hefyd o safbwynt cynhyrchu bwyd ac iechyd pobl.
O ddydd Iau Tachwedd 13, bydd yn ofyn cyfreithiol i bob ceidwad sy’n cadw mwy na 50 o adar o unrhyw rywogaeth gadw ei adar dan do.
Bydd heidiau o lai na 50 o adar o unrhyw rywogaeth yn gorfod cael eu cadw dan do hefyd os yw eu hwyau neu eu cynhyrchion yn cael eu gwerthu neu eu rhoi i ffwrdd, oherwydd y risg uwch o drosglwyddo’r clefyd sy’n gysylltiedig â masnachu neu roi cynhyrchion dofednod i ffwrdd.
Bydd gofynion bioddiogelwch ychwanegol hefyd yn cael eu cyflwyno ar gyfer y sector adar hela, a welodd achosion o ffliw adar y tymor diwethaf.
Bydd y mesurau gorfodol newydd i gadw adar dan do yn cael eu hymgorffori ym Mharth Atal Ffliw Adar presennol Cymru (AIPZ) a gyflwynwyd ym mis Ionawr.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy’n gyfrifol am Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies:
Rydym yn cadw golwg ar y mesurau sydd eu hangen. Ers i’r Parth Atal Ffliw Adar gael ei gyflwyno ddechrau’r flwyddyn, mae risg y clefyd wedi cynyddu eto yn ddiweddar, ac mae Cymru bellach yn wynebu risg uchel iawn o ffliw adar.
Nid ydym wedi gwneud y penderfyniad ar chware bach, ond mae’n angenrheidiol i ddiogelu ein hadar a bywoliaeth ceidwaid dofednod Cymru.
Rwy’n annog pob ceidwad adar i gydymffurfio â’r gofynion hyn a chynnal y safonau biodiogelwch uchaf. Rwy’n cydnabod y bydd hyn yn anodd, ond trwy weithredu nawr gallwn helpu i atal y clefyd rhag lledaenu ac amddiffyn ein heidiau.”
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine:
Rydym yn gweld cynnydd sydyn yn nifer yr achosion o ffliw adar mewn adar cadw ac adar gwyllt. Yn wyneb y lefelau risg uchel iawn presennol, rydym bellach yn cyflwyno mesurau gorfodol i gadw adar dan do, a fydd yn effeithio ar Gymru gyfan.
Rwy’n gwerthfawrogi’r effaith y mae’r mesurau hyn yn ei chael ar geidwaid, ac rwy’n parhau i fod yn ddiolchgar am eu cydweithrediad i ddiogelu iechyd a lles eu hadar.
Gall mesurau hyn i gadw adar dan do helpu i amddiffyn adar rhag y clefyd, ond ni ddylent gymryd lle hylendid a bioddiogelwch llym.
Rwy’n cynghori ceidwaid yn gryf i weithredu nawr ac i ymgyfarwyddo â’r camau y mae angen iddynt eu cymryd i amddiffyn eu hadar. Mae hyn yn cynnwys defnyddio’r rhestr hunanasesu bioddiogelwch orfodol sydd ar gael ar-lein.
Dylai pawb barhau i fod yn wyliadwrus, rhoi gwybod ar unwaith am unrhyw amheuon bod y clefyd wedi’u taro, a sicrhau eu bod yn dilyn y gofynion bioddiogelwch gorfodol llymach i amddiffyn eich adar.”
Bydd y gorchymyn cadw adar dan do a’r AIPZ mewn grym nes y cyhoeddir yn wahanol a bydd Llywodraeth Cymru’n cadw golwg ar y mesurau hwn wrth fonitro a rheoli’r risg ffliw adar, hynny law yn llaw â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a gweinyddiaethau eraill y DU.
Cyflwyno mesurau gorfodol i gadw dofednod dan do i’w hamddiffyn rhag ffliw’r adar | LLYW.CYMRU
