Rydym yn falch o gyhoeddi bod enwebiadau bellach ar agor ar gyfer Gwobrau Milfeddyg a Ffermwr Arwain DGC 2026.
Mae’r gwobrau’n dathlu gwaith anhygoel milfeddygon a ffermwyr wrth fynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) yng Nghymru—gan helpu i ddiogelu iechyd anifeiliaid a phobl.
Hoffem eich gwahodd i enwebu unigolion neu bractis ar gyfer y categorïau canlynol:
- Gwobr Milfeddyg Da Byw
- Gwobr Ffermwr Da Byw
- Gwobr Practis Milfeddygol Da Byw
- Gwobr Ffermwr Ifanc neu Filfeddyg
Os ydych yn adnabod milfeddyg, ffermwr neu bractis sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y maes hwn, rydym yn eich annog i gyflwyno enwebiad a’n helpu i gydnabod eu hymroddiad a’u cyflawniadau.
Cyhoeddir yr enillwyr yn ein seremoni wobrwyo flynyddol ddydd Mercher, 22 Gorffennaf yn ystod Sioe Frenhinol Cymru.
Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau: 25 Mehefin 2026
Enwebwch yma: Gwobrau Arwain DGC Award 2026
