Diddymu’r Parth Atal Ffliw Adar yng Nghymru

Mae ceidwaid adar yn cael eu cynghori nad yw ‘risg isel yn golygu dim risg’ wrth i Barth Atal Ffliw Adar Cymru gyfan (AIPZ) gael ei ddiddymu heddiw.


Cyflwynwyd mesurau bioddiogelwch gorfodol ar gyfer dofednod ac adar caeth eraill ym mis Ionawr 2025 i helpu i atal ffliw adar rhag lledaenu o adar gwyllt neu unrhyw ffynhonnell arall.


Ar ôl cael gwared ar y mesurau gorfodol i gadw adar dan do ym mis Ebrill, mae’r penderfyniad i godi’r mesurau bioddiogelwch AIPZ sy’n weddill yn dilyn yr asesiad diweddaraf sy’n dangos bod y risg o drosglwyddo ffliw adar o adar gwyllt i adar caeth ym Mhrydain Fawr wedi gostwng o ‘Ganolig’ i ‘Isel’.


Mae diddymu’r AIPZ yng Nghymru wedi’i gydgysylltu â chodi’r parthau cyfatebol yn Lloegr a’r Alban.


Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine:


“Rwy’n falch bod y gostyngiad diweddaraf yn y risg o ffliw adar yn golygu ein bod bellach yn gallu codi Parth Atal Ffliw Adar Cymru gyfan. Mae hyn yn newyddion da i’n ceidwaid adar, a hoffwn ddiolch i’r sector, sydd wedi gweithio’n galed ac wedi dangos gwyliadwriaeth ofalus trwy gyfnod parhaus a heriol.


“Rwyf hefyd eisiau bod yn glir iawn nad yw risg isel yn golygu dim risg.


“Mae ffliw adar yn parhau i fod yn glefyd difrifol, ac rydym yn gwybod y gall amodau newid. Rwy’n annog pob ceidwad adar, waeth beth yw maint yr haid neu ei math, i barhau i ddiogelu eu hadar – rhag ffliw adar a chlefydau eraill.


“Arferion hylendid da yw eich llinell amddiffyn gyntaf a mwyaf effeithiol. Mae gwyliadwriaeth ac adrodd prydlon am unrhyw amheuaeth o glefyd hefyd yn parhau i fod yn hollol hanfodol.”


Caiff ceidwaid adar eu hatgoffa i barhau i ddilyn arferion hylendid a bioddiogelwch da bob amser, gan gynnwys:
• cadw’r ardal lle mae adar yn cael eu cadw’n lân ac yn daclus
• rheoli mynediad at adar a’r mannau lle maent yn byw
• lleihau’r cyswllt rhwng adar caeth ac adar gwyllt
• diheintio offer, dillad ac esgidiau yn rheolaidd
• rhoi gwybod am unrhyw arwyddion o glefyd yn brydlon i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)


Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro’r sefyllfa yn ofalus, a gall ceidwaid adar sydd angen arweiniad pellach, gan gynnwys ar fioddiogelwch i atal clefydau rhag lledaenu i heidiau, ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.

Rhannu’r erthygl hon

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Po Box 8, North Road, Aberystwyth, SY23 2WB.

T: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Iechyd Da Limited is a company registered in England and Wales with company number: 1234567

Iechyd Da

Darganfod, datblygu a darparu.

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Blwch Post 8, Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, SY23 2WB.

Ff: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Mae Iechyd Da Cyfyngedig yn gwmni sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni: 08821623