BWLETIN MISOL Mehefin 2026

APHA

Ewthanasia ar ran APHA y tu allan i oriau

Os byddwch yn derbyn cais gan APHA y tu allan i oriau i ewthaneiddio anifail, sicrhewch eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ewthanasia.

Os ydynt wedi gofyn am ddefnyddio dyfais bollt gaeth yn hytrach na phigiad marwol, mae hynny er mwyn diogelu bywyd gwyllt, anifeiliaid eraill e.e. cŵn anwes a allai fwyta y carcas; a’r cyhoedd, (a allai gael mynediad at y carcas cyn iddo gael ei gasglu).

Os na allwch ddefnyddio’r ddyfais bollt gaeth, sicrhewch fod APHA yn cael gwybod hynny ar adeg yr alwad.

ATTs ac AVSs

A wnewch chi sicrhau eich bod yn rhoi gwybod i’ch AVSs am brofion sy’n barod i’w cymeradwyo, YN ENWEDIG pan fo’r profion yn agosáu at ddiwedd eu ffenestr brofi.

Rydym wedi cael ambell achos yn ddiweddar lle mae ffermwyr wedi cael eu rhoi dan gyfyngiadau oherwydd nad yw’r profion wedi’u cyflwyno cyn diwedd y ffenestr gau.

AVSs, sicrhewch eich bod yn gwirio eich basged waith yn rheolaidd er mwyn canfod unrhyw brofion a allai fod wedi dod i mewn heb i chi sylwi.

Achosion adrodd BTV

Canlyniadau samplau Tafod Glas

Rydym wedi cael gwybod bod nifer o Filfeddygon Swyddogol (OVs) wedi cysylltu â VENDU i ofyn am ganlyniadau samplau a gyflwynwyd fel rhan o ymchwiliadau i Dafod Glas.

Yn anffodus, oherwydd gofynion diogelu data, dim ond yn uniongyrchol â pherchennog cofrestredig yr anifeiliaid y gall APHA rannu’r canlyniadau hyn.

A wnewch chi sicrhau bod unrhyw OVs sydd ag ymholiadau yn cael eu cyfeirio at Dîm Cyflawni Maes APHA drwy APHA.CymruWales@apha.gov.uk, yn hytrach na chysylltu â VENDU.

Llawlyfrau QA wediu diweddaru

Mae UK Farmcare wedi diweddaru’r llawlyfrau QA i adlewyrchu’r newid yn y gofyniad ar gyfer nodwyddau sbâr.

Y gofyniad ar gyfer nodwyddau sbâr bellach yw 10% o’r anifeiliaid sydd i’w profi, ond yn ymarferol lleiafswm o 5 ac uchafswm o 20.

Mae’r llawlyfrau QA i’w gweld isod ac ar DEWIN.

Sioe Frenhinol Cymru

Bydd Sioe Frenhinol Cymru gyda ni cyn bo hir. Os ydych yn ymweld â’r sioe, galwch heibio stondin WAOS wrth ochr y prif gylch, lle bydd croeso i chi gael paned a sgwrs.

Rhannu’r erthygl hon

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Po Box 8, North Road, Aberystwyth, SY23 2WB.

T: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Iechyd Da Limited is a company registered in England and Wales with company number: 1234567

Iechyd Da

Darganfod, datblygu a darparu.

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Blwch Post 8, Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, SY23 2WB.

Ff: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Mae Iechyd Da Cyfyngedig yn gwmni sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni: 08821623