BWLETIN MISOL — Hydref 2026

APHA

Profion ar anifeiliaid nad ydynt yn wartheg

Rydym wedi tynnu sylw o’r blaen at broblemau gyda phrofion ar anifeiliaid nad ydynt yn wartheg.

Sicrhewch fod y WSA wedi’i gwblhau ar SAM o fewn y 5 diwrnod gwaith gofynnol. Rhaid hefyd anfon y siartiau prawf wedi’u cwblhau’n llawn at APHA o fewn yr un cyfnod. Cofiwch gynnwys Iechyd Da fel derbynnydd copi o’r e-bost.

Bydd methu â chwblhau unrhyw ran o’r broses yn arwain at fethiant yn erbyn dangosydd perfformiad allweddol (KPI).

Rydym yn bwriadu datblygu DEWIN i gynnwys y profion hyn.

Sicrhewch fod modd adnabod pob anifail a brofir, yn ddelfrydol drwy ficrosglodyn, tag neu frand.

Storio twbercwlin

Cyhoeddwyd nodyn briffio ar 20 Awst yn amlinellu cyfarwyddiadau diwygiedig ar storio a defnyddio twbercwlin.

Mae’r nodyn yn rhoi gwybod i Filfeddygon Swyddogol (OVs) a Phrofwyr Twbercwlin Cymeradwy (ATTs) am y cyfarwyddiadau diwygiedig ar storio a rheoli poteli twbercwlin ar ôl eu tynnu o oergelloedd mewn practisau milfeddygol.

Mae hefyd yn atgoffa OVs ac ATTs mai dim ond poteli twbercwlin sydd wedi’u storio’n gywir, gan gynnwys o fewn yr ystod tymheredd benodedig, y dylid eu defnyddio wrth gynnal profion croen TB.

Mae’r nodyn briffio ar gael yma.

Sicrhewch fod eich gweithdrefnau gweithredu safonol (SOPs) wedi’u diweddaru yn unol â hyn.

Amseroedd cyflwyno profion a KPIs

Cofnodwyd nifer fawr o fethiannau KPI dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Cyflwyno profion yn hwyr sydd wrth wraidd y rhan fwyaf ohonynt.

Wrth gwblhau profion, sicrhewch eich bod yn defnyddio’r WSA cywir — er enghraifft, tracing test, PRMT ac ati.

Sicrhewch eich bod yn cofnodi ac yn cyflwyno eich profion mewn pryd. Os oes angen cymeradwyaeth AVS, gwnewch yn siŵr bod yr AVS yn gwybod bod y prawf yn barod i’w gymeradwyo. Os yw eich prif AVS i ffwrdd, anfonwch y prawf at eich dirprwy. Gallwch gael un AVS a dau ddirprwy.

Os ydych yn aros i’r ceidwad gadarnhau unrhyw wybodaeth, rhaid cyflwyno’r wybodaeth sydd eisoes yn hysbys mewn pryd, cyn cyflwyno rhan derfynol gyda’r manylion wedi’u cadarnhau. Gallai apêl ynghylch ail ran neu ran derfynol hwyr gael ei derbyn, ar yr amod bod y rhan gyntaf wedi’i chwblhau’n gywir.

Rhaid cyflwyno pob prawf ar anifeiliaid nad ydynt yn wartheg ar SAM, a dychwelyd y taflenni prawf wedi’u cwblhau’n gywir, er mwyn osgoi methiant KPI. Cofiwch gynnwys Iechyd Da fel derbynnydd copi wrth anfon y taflenni prawf.

Os cewch broblem gyda dyfais llaw neu broblem dechnegol gyda SAM, sicrhewch eich bod yn cael rhif digwyddiad ac yn cadw sgrinlun o unrhyw negeseuon gwall. Gall y rhain gefnogi apêl yn erbyn methiant KPI.

Diweddariadau i lawlyfrau UK Farmcare — Archwiliad

Yn dilyn nodyn briffio diweddar APHA ar storio twbercwlin (OV62), mae UK Farmcare wedi diweddaru eu llawlyfrau i adlewyrchu’r newid. Maent hefyd wedi cynnwys gweithdrefn, SOP, i’w mabwysiadu a’i defnyddio wrth storio twbercwlin mewn cerbydau.

Rydym yn cydnabod na fydd yr ateb a gynigiwyd gan APHA yn addas i bawb. Oni bai eich bod yn cynnal nifer cymharol uchel o brofion ac yn defnyddio llawer o dwbercwlin bob wythnos, efallai y bydd yn gwneud mwy o synnwyr parhau i fynd â dim ond faint o dwbercwlin sydd ei angen arnoch bob dydd, a chael gwared ar unrhyw dwbercwlin nas defnyddiwyd ar ddiwedd y dydd.

Newid arall i’r broses sicrhau ansawdd yw bod defnyddio’r ffurflen “Hysbysiad o Brawf a Adawyd” bellach yn arfer gorau, yn hytrach na gofyniad gorfodol a fyddai’n arwain at gofnodi diffyg cydymffurfio mewn archwiliad o brofwr TB.

Gwaredwch unrhyw gopïau papur blaenorol o’r llawlyfrau. Mae’r fersiynau newydd ar gael ar DEWIN a hefyd yn y Llyfrgell ar Farminsights. Dyma fanylion y newidiadau:

Llawlyfr Gweithrediadau’r Practis, fersiwn 12:

  • Disodlwyd Atodiad 14 gan fersiwn newydd.

Llawlyfr Sicrhau Ansawdd Profion TB, fersiwn 15:

  • Disodlwyd Atodiad 8 gan fersiwn newydd.
  • Disodlwyd Atodiad 9 gan y weithdrefn weithredu safonol ar gyfer storio twbercwlin.
  • Ail-enwyd yr Holiadur Adborth Cleientiaid yn Atodiad 10, a diweddarwyd pob cyfeiriad cysylltiedig.

Rhestr staff

Mae Iechyd Da yn defnyddio’r rhestr staff i adnabod aelodau newydd sydd angen mynychu cwrs sicrhau ansawdd, ac i anfon gwybodaeth hanfodol am brofion TB, gan gynnwys newidiadau neu broblemau.

Gofynnwn i bob practis sicrhau bod ei restr staff yn gyfredol, a bod yr holl fanylion cyswllt wedi’u cwblhau, gan gynnwys cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn.

Os oes milfeddyg wedi symud o un practis i un arall, cysylltwch â’r swyddfa i ofyn am drosglwyddo ei fanylion. Bydd hyn yn sicrhau bod yr holl fanylion archwilio yn cael eu trosglwyddo hefyd.

Os ydych yn cael trafferth ychwanegu pobl neu angen hyfforddiant ar DEWIN, cysylltwch â Tasha, a all drefnu hyfforddiant.

Dyddiadau i’ch dyddiadur

Ffair Aeaf Frenhinol Cymru — 30 Tachwedd ac 1 Rhagfyr 2026

Fel un o sioeau stoc dethol gorau Ewrop, mae’r Ffair Aeaf yn denu ymwelwyr o bell ac agos.

Gweithdy Arweinwyr TB — 9 Rhagfyr 2026

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i ddysgu am y datblygiadau diweddaraf a sut y gallant fod o fudd i ffermydd eich cleientiaid.

Nodwch y dyddiad yn eich dyddiadur am gyfle i ddysgu a rhannu profiadau!

Rhannu’r erthygl hon

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Po Box 8, North Road, Aberystwyth, SY23 2WB.

T: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Iechyd Da Limited is a company registered in England and Wales with company number: 1234567

Iechyd Da

Darganfod, datblygu a darparu.

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Blwch Post 8, Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, SY23 2WB.

Ff: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Mae Iechyd Da Cyfyngedig yn gwmni sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni: 08821623