Brechiad BTV3
Wedi cais gan gynrychiolwyr o’r byd amaeth, fe wnaeth Gweinidogion Cymreig ganiatau defnydd brys o’r tri brechiad BVD-3 yng Nghymru. Gan mai hwn yw’r tro cyntaf i frechiad da byw sydd heb ei awdurdodi hyd at hyn gael ei ddefnyddio ar drwydded mae’r Prif Filfeddyg, Dr Richard Irvine, yn gofyn am gydweithrediad i gofnodi hanes archebu, gwerthu a rhoi presgripsiwn.
Gofynnir i filfeddgon hysbysu Llywodraeth Cymru am unrhyw frechiad sydd wedi cael presgripsiwn o fewn 7 niwrnod trwy e-bost i’r cyfrif: animaldiseases@gov.wales
Mae hyn yn ychwanegol i’ch cyfrifoldeb o hysbysu’r awdudurdodau perthnasol am unrhyw adwaith niweidiol a sylwir o ddefnydd y brechiad BTV-3.
Gwahoddiad i ffermwyr gymryd rhan mewn treialon Brechiad TB gwartheg a phrawf croen newydd.
Mae APHA wedi cyhoeddi fod y treialon brechiadau TB a’r prawf newydd ar drothwy’r cam nesaf, ac mae angen ffermwyr a’u milfeddygon sydd â diddordeb fod yn rhan yma o’r prosiect i rhoi gwybod i APHA.
Mae’r cam nesaf yma, sef Cam 3, yn debyg i’r ddau flaenorol, ac yn cael ei gynnal ar ffermydd mewn ardaloedd gyda risg isel o TB, a’r disgwyl yw y bydd hyn yn cael ei gwblhau yn 2026/7.
Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy i Gymru, (lles a iechyd anifeliaid)
Yn y Ffair Aeaf Tachwedd 2024 fe gyhoeddodd Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Huw Irranca-Davies, y cynigion bras diweddaraf ynglyn a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (yr SFS)
https://www.llyw.cymru/y-cynllun-ffermio-cynaliadwy-amlinelliad-or-cynllun-2024-html
Yr SFS fydd y prif ffordd i ddelio gyda taliadau cymorth i ffermydd yn y dyfodol. Mae’r cynllun yn cefnogi gweithgareddau sy’n cydlynu gyda bwriadau Llywodraeth Cymru am ddefnydd tir cynaliadwy. Sef:
1 I gynhyrchu bwyd a chynnyrch arall mewn modd cynaliadwy.
2 I ymateb ac addasu i newid hinsawdd
3 I gynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a’u manteision.
4 I gadw a gwella cefn gwlad er mwyn lles pobl a diwylliant
Mae’r milfeddyg fferm yn rhan allweddol o’r weithred gyffredinol sy’n ymwneud â lles ac iechyd anifeiliaid. Yr ydym yn credu fod hwn yn gyfle unigryw i filfeddygon weithredu milfeddygaeth ataliol er budd eu cleientiaid.
Rhan blaenllaw o’r polisi yma yw y Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid neu’r AHIC. Mae hwn yn broses barhaol o gydweithrediad rhwng y ffermwr a’i filfeddyg i wella cynhyrchiant y fferm ac iechyd a lles yr anifeiliaid. Mae’r rhaglen wedi ei gynllunio i gefnogi ffermwyr i gynllunio gwelliannau i’w arferion er mwyn gwella cynhyrchiant. Fe fydd e’n broses o ffocysu ar rhai ffigyrau iechyd a chynhyrchiant sydd i’w gweld i fod yn rwystr i berfformiad y fferm. Proses barhaus o ystyried, cynllunio, gweithredu ac yna ail-ystyried gan y ffermwr a’i filfeddyg.
Mae cynllun peilot wedi ei gynnal sydd yn cynnwys 60 fferm a 22 o filfeddygon, ac fe gychwynnwyd hwn yn Ionawr 2024 ac fe’i estynnwyd yn 2025 i gynnwys o leiaf un milfeddyg o’r practisau anifeilaid fferm sydd yng Nghymru yn ogystal a rhai o’r practisau sydd ar y Gororau. Mae’r hyfforddiant wedi ei anelu at allu y milfeddygon i gyflenwi anghenion y polisi, ac fel bydd y prosiect yn mynd yn ei flaen fe fydd yna gymorth wrth gefn a goruwchwyliaeth i asesu safon y gwaith.
Yn ogystal i’r AHIC fe fydd cefnogaeth i ffermwyr a’u milfeddygon i leihau risg bioddiogelwch o brynu anifeiliad i mewn a gweithgareddau eraill i hybu lles anifeiliad, e.e, hyfforddiant i ffermwyr, hyrwyddo sgorio cyflwr a symudedd.
Mae brwdfrydedd a diddordeb milfeddygon yn allweddol i lwyddiant yr agweddau sy’n ymwneud â iechyd a lles anifeiliaid o fewn y cynllun newydd. Yr ydym, fel Iechyd Da, yn mynd i gydweithio yn agos gyda milfeddygon sy’n gweithio yng Nghymru i alluogi nhw i wneud y gorau o’r cyfle yma i wella iechyd, lles a chynhyrchiant ar ffermydd eu cleientiaid.