Dewin
Mae digwyddiadau, damweiniau a damweiniau a oedd bron a digwydd “near misses” yn awr yn cael eu cofnodi yn ddi-enw i hybu pobl i’n hysbysu.
A fedrwch ein hysbysu am rhain ar Dewin os gwelwch yn dda.
Mae’r rhestri gwirio (checklists) ar y fasged waith ar Dewin yn gweithio nawr.
Gall gweinyddwyr eu cwblhau ar Dewin a’i dyrannu i’r OV/ATT i’w arwyddo. Medr yr OV/ATT, wedi iddynt fewngofnodi, weld ar y sgrîn isod os oes rhestri wirio ganddynt i’w arwyddo.
Mae angen i ni gyd weithio ar gwblhau ac arwyddo y rhestri gwirio yma.
Os ydych yn teimlo fod angen hyddorddiant pellach ar gwblhau rhain, cysylltwch a’r swyddfa, yr ydym yn barod i helpu.
Gorchymyn Diwygio Clwyf y Traed a’r Genau 2025
Mae y gorchymyn diwygio Clwyf y Traed a’r Genau 2025 wedi ei gwblhau, gweler y linc isod:
The Foot-and-Mouth Disease (Wales) (Amendment) Order 2025
Mae’r gorchymyn yma’n dod a’n deddfwriaeth i gysoni â deddfau yr Alban a Lloegr. Felly fe fydd hyn yn rhoi pwerau disgresiwn i Weinidogion Cymreig greu Parth Rheolaeth Dros Dro os oes amheuaeth o bresenoldeb y clwyf. Cyn hyn mi oedd yn orfodol i’r gweindogion greu Parth Rheolaeth Dros Dro os oedd amheuaeth o bresenoldeb y clwyf.
BVD Cymru
PCHS (Premium cattle Health Scheme) a BVDCymru.
Os ydych yn danfon eich profion BVD fel rhan o’r PCHS (er enghraifft i gynllun Cymdeithas Da Duon) i’r SRUC cofiwch ddanfon y ffurflenni BVDCymru yn ogystal â ffurflenni y PCHS os ydych angen i’r canlyniadau yma cael eu uwchlwytho ar bortal BVDCymru.
Os ydych wedi danfon y ffurflenni PCHS eisoes ond heb ffurflenni BVDCymru, a fedrwch chi ddanfon rhain ymlaen i SRUC gyda manylion y samplau gwaed, gyda chroesgyfeiriad o ganlyniadau y PCHS. Mae yr SRUC, yn garedig iawn, wedi dweud y byddant wedyn yn eu uwchlwytho y canlyniadau i’r BVDCymru Portal unwaith eu bod wedi derbyn y gwaith papur.
Mae ffurflenni BVD yn ôl ar Dewin!
Mae ffurflenni gyda manylion fferm, CPH ag ati yn ôl ar Dewin ac mi fydd hyn yn hwyluso’r gwaith. Mae rhain i’w darganfod ar y tab “keepers” ac ewch i’r darn BVD a clic ar rhif y daliad (CPHH) ac fe ymddangosith ffurflen gyda llawer o’r manylion wedi’u llenwi.
Newid eich manylion ar SAM.
Os ych chi am ddiweddaru eich manylion ar SAM, (neu newid/ychwanegu practis) mae angen i chi nawr gwblhau ffurflen OV58 cyn newid cofrestr y practis. Mae hyn yn angenrheidiol i gwblhau y trywydd archwilio, felly os fedrwch chi lenwi’r ffurflen yma o hyn ymlaen os gwelwch yn dda.
Yn ychwanegol i hyn mae angen i’r OV ddiweddaru’r cyfrif gyda Improve International a llenwi y blwch “other information” os ydynt yn gweithio i fwy nag un practis.