Y pwysigrwydd o wneud y prawf TB ar amser
Mae gwneud y profion TB yn brydlon yn bwysig am sawl rheswm:
Mae’n darganfod anifeiliaid heintiedig yn gynharach, felly yn lleihau y risg o ledaenu y clefyd.
Mae’n diogelu iechyd y cyhoedd
Mae’n galluogi masnachu.
Mae meddwl o flaen llaw a bwcio profion Tb yn gynnar yn helpu gwneud yn siwr fod darpariaeth ar gael iddo chi ac yn helpu osgoi gorfod disgwyl yn ddianghenrhaid.
Mae gan APHA bolisi o ddim goddefgarwch tuag at profion hwyr, felly unwaith mae prawf yn hwyr mae yna gyfyngiadau ar eich buches yn syth. Gall symudiadau i ladd-dy ddigwydd ond fe fydd angen trwydded o APHA arno chi.
Petai chi yn anffodus ac yn cael adweithydd TB (reactor) ar brawf sydd dros 60 niwrnod yn hwyr, gall yr iawndal ei leihau hyd at 95% o’i werth.
(Cyngor o APHA)
Ymgynghoiad ar tagiau electronig i wartheg.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau ymgynghoriad ar ddefnyddio tagaiau elecroneg i wartheg (EID) yng Nghymru. Mae’r ymgynghoriad yn agored hyd at 14.08.2025 felly os ydych am fynegu barn, mae’r cyfle yna I chi.
Fe gynhaliwyd dwy sioe deithiol eisoes ym mis Mehefin yn Llanelwedd a Raglan, a mae’r un olaf am y tro ym mart Caerfyrddin ar yr Ail o Orffennaf. Felly peidiwch colli’r cyfle I wrando ar y prosiect arloesol yma sydd yn cael ei gynnal yn Sir Benfro.