Datganiad Ysgrifenedig: Seroteip 3 y Tafod Glas (BTV-3) – Datgan Parth dan Gyfyngiadau dros Gymru gyfan

Mae polisi rheoli Tafod Glas Llywodraeth Cymru, gyda diweddariadau rheolaidd iddo ar sail tystiolaeth i’w gryfhau, wedi cadw’r Tafod Glas rhag lledaenu o’r Parth dan Gyfyngiadau Lloegr gyfan tan yr adeg o’r flwyddyn pan na fydd yn debygol o ledaenu’n eang nac yn cael effaith fawr. Mae’r polisi wedi rhoi amser hefyd i ffermwyr frechu eu da byw a pharatoi ar gyfer ymddangosiad y clefyd yng Nghymru. Mae’r polisi hwn wedi llwyddo, diolch i waith caled partneriaid gan gynnwys yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) a Sefydliad Pirbright ac i gydweithrediad ac ewyllys da y sector da byw.

Hyd yma, dim ond un deg un achos o’r Tafod Glas sydd wedi’u cadarnhau yng Nghymru, pedwar ym Mhowys a saith yn Sir Fynwy. Mae’n debygol y bydd nifer yr achosion yn cynyddu wrth i ni barhau i gadw golwg ar y sefyllfa. Rwy’n sylweddoli bod y cyfyngiadau ar symud da byw a sefydlu’r Parth Rheoli Dros Dro (TCZ) wedi tarfu ar geidwaid da byw a’r diwydiant ehangach. Dw i wedi cwrdd â’r sector da byw sawl gwaith, mewn cyfarfodydd ford gron, ac wedi gwrando ar eu hymateb i’r heriau y mae’r cyfyngiadau ar symud da byw rhwng Cymru a Lloegr wedi’u creu.

Yn dilyn y trafodaethau hynny gyda’r diwydiant, ac yn unol â’m hymrwymiad i adolygu’r sefyllfa ar sail tystiolaeth newydd a thystiolaeth sy’n dod i’r amlwg, rwyf wedi ystyried ein polisi Tafod Glas yng Nghymru ar gyfer gweddill 2025 a thu hwnt. Rwyf wedi nodi bod y Tafod Glas eisoes ar led ym Mharth dan Gyfyngiadau Lloegr, a bod Prif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi cadarnhau bod y clefyd sy’n gysylltiedig â’r fferm gyntaf lle gwelwyd BTV-3 yn Sir Fynwy hefyd ar led. 

O gofio bod firws y Tafod Glas sy’n cael ei gario gan wybed wedi cyrraedd Cymru, a bod data hanesyddol am y tymheredd a gwaith modelu yn awgrymu ei bod yn annhebygol iawn y bydd gwybed yn lledaenu firws y tafod glas yng Nghymru ar ôl 10 Tachwedd, rwyf am ddatgan bod Cymru gyfan yn Barth dan Gyfyngiadau (RZ) o 10 Tachwedd. 

Dyma fydd effeithiau datgan Parth dan Gyfyngiadau:

  • Diddymu’r Parth Rheoli Dros Dro (TCZ) – bydd y TCZ presennol a’r amodau cysylltiedig yn cael eu dileu, gan symleiddio’r mesurau i reoli’r clefyd ledled Cymru;
  • Dileu’r cyfyngiadau ar lefel safle – ni fydd cyfyngiadau rheoli neu symud sy’n benodol i’r Tafod Glas ar safleoedd unigol yng Nghymru bellach;
  • Dim rhagor o ddifa na chyfyngiadau – ni chaiff anifeiliaid heintiedig eu difa a ni chaiff rhagor o gyfyngiadau eu gosod oherwydd seroteip 3 y Tafod Glas (BTV-3) yng Nghymru;
  • Dim cyfyngiadau ar symud da byw – ni fydd gorfodaeth bellach i frechu da byw sy’n cael eu symud rhwng Cymru a Lloegr rhag y Tafod Glas na chymryd mesurau lliniaru eraill. Bydd hynny’n hwyluso’r fasnach a logisteg. Rydyn ni’n dal i argymell eich bod yn brechu, gan gynnwys da byw sy’n cael eu symud i bori yn Lloegr dros y gaeaf;
  • Gwyliadwriaeth barhaus a bod yn barod – bydd monitro rheolaidd yn parhau, er mwyn canfod unrhyw seroteipiau newydd o’r Tafod Glas a chefnogi ymdrechion i adennill statws di-glefyd yn y dyfodol. Efallai y bydd angen mesurau i reoli seroteipiau eraill y Tafod Glas.
  • Cyfyngiadau’n parhau ar gynhyrchion cenhedlu  – parheir i gynnal profion ar anifeiliaid sy’n darparu cynhyrchion cenhedlu cyn rhewi a marchnata’r cynhyrchion hynny i sicrhau ansawdd a lleihau’r risg o drosglwyddo’r Tafod Glas yn y tymor hwy;
  • Newidiadau i symudiadau da byw i’r Alban – bydd anifeiliaid sy’n cael eu symud o Barth dan Gyfyngiadau Cymru i’r Alban yn gorfod bodloni rheolau Llywodraeth yr Alban ar drwyddedu a phrofion symud. 

Yn ein cyfarfod ford gron ar 27 Hydref, roedd cynrychiolwyr y diwydiant yn unfrydol eu cefnogaeth i sefydlu Parth dan Gyfyngiadau yng Nghymru gyfan. Gwnaethon nhw gadarnhau bod cael symud da byw rhwng Cymru a Lloegr yn angenrheidiol i’r diwydiant a’u bod gyda’i gilydd yn derbyn y problemau posibl o ran iechyd a lles anifeiliaid, gan gynnwys effeithiau’r polisi ar ffrwythlondeb ac ar gynhyrchiant.   

Yn unol â’r trefniadau newydd, rwy’n annog ceidwaid da byw i fod yn ofalus wrth brynu stoc, i gadw golwg am arwyddion y Tafod Glas ac i roi gwybod ar unwaith i APHA os ydyn nhw’n amau bod achos o’r clefyd. 

“Brechu yw’r ffordd orau o hyd o amddiffyn da byw a bywoliaethau rhag effeithiau gwaethaf y clefyd. Mae ein polisi newydd o ymdrin â’r Tafod Glas yn golygu ei bod yn bwysicach nag erioed ein bod yn barod ar gyfer effeithiau’r clefyd. Gyda chefnogaeth lawn y diwydiant, rwy’n annog ceidwaid anifeiliaid yn gryf i drafod y posibilrwydd o frechu eu buchesi a’u diadellau rhag y Tafod Glas gyda’u milfeddygon, yn enwedig cyn cyfnod nesaf trosglwyddo’r clefyd, yng ngwanwyn 2026. 

Rwy’n ddiolchgar i’r sectorau da byw a milfeddygol am ledaenu’r negeseuon hyn i’r diwydiant ehangach. Mae cydweithredu rhwng ffermwyr, milfeddygon, Llywodraeth Cymru a’n partneriaid cyflenwi yn parhau i fod yn hanfodol i leihau effaith hirdymor y Tafod Glas yng Nghymru.

Rhannu’r erthygl hon

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Po Box 8, North Road, Aberystwyth, SY23 2WB.

T: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Iechyd Da Limited is a company registered in England and Wales with company number: 1234567

Iechyd Da

Darganfod, datblygu a darparu.

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Blwch Post 8, Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, SY23 2WB.

Ff: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Mae Iechyd Da Cyfyngedig yn gwmni sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni: 08821623