Gweithredu Trefn o Adnabod Gwartheg yn Electronig (EID) yng Nghymru
Disgrifiad o’r ymgynghoriad
Mae’r cynigion yn cynnwys:
- y gofyn i bob llo gael tag clust EID statudol
- gall tagiau EID gael eu darllen yn weledol a byddant ar gael fel tagiau baner, botwm neu fetel
- trefn newydd ar gyfer rhoi rhifau adnabod i wartheg
- tagio cyfatebol – bydd y rhif sydd wedi’i raglennu ar y slodyn yn cyfateb i’r rhif sydd wedi’i argraffu ar y tag
Nid oes disgwyl i hyn gael ei weithredu yng Nghymru hyd 2027 ar y cynharaf.
Hoffem glywed eich barn ynghylch y bwriad i weithredu trefn o adnabod gwartheg yn electronig yng Nghymru.
Gweithredu Trefn o Adnabod Gwartheg yn Electronig (EID) yng Nghymru | LLYW.CYMRU