Mae gwaith arloesol Arwain DGC i leihau ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) mewn da byw a’r amgylchedd yng Nghymru wedi cael ei gydnabod mewn seremoni wobrwyo ryngwladol.
Mae Dysgu a Rennir a Gwobrau’r Antibiotic Guardian 2024/25 yn hyrwyddo sefydliadau ac unigolion sydd wedi ‘dangos cyflawniadau wrth fynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd ar lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol.’
Mae Arwain DGC (Defnydd Gwrthficrobaidd Cyfrifol) yn rhaglen a gaiff ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac a arweinir gan Mentera. Ei nod yw atal ymwrthedd gwrthficrobaidd ymhlith anifeiliaid ac yn yr amgylchedd. Caiff hyn ei wneud trwy gefnogi ffermwyr a milfeddygon trwy benderfyniadau a gaiff eu gyrru gan ddata, technolegau arloesol, ac arferion da.
Cyrhaeddodd Arwain DGC y rhestr fer mewn tri chategori yn nigwyddiad yr Antibiotic Guardian yn Birmingham – ‘Iechyd Anifeiliaid, Amaethyddiaeth a Chyflenwad Bwyd’, ‘Arloesi a Thechnoleg’, ac ‘Ymgysylltu â’r Cyhoedd’.
Arwain DGC oedd yr enillydd cyffredinol mewn dau gategori, sef ‘Iechyd Anifeiliaid, Amaethyddiaeth a Chyflenwi Bwyd’ ac ‘Arloesi a Thechnoleg’.
Enillodd gwaith y rhaglen i greu dull cydlynol o ymdrin ag ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) ar gyfer da byw a’r amgylchedd yng Nghymru y wobr i Arwain DGC yn y categori ‘Iechyd Anifeiliaid, Amaethyddiaeth a Chyflenwad Bwyd’.
Roedd y wobr yn y categori ‘Arloesi a Thechnoleg’ yn cydnabod gwaith Arwain gyda phartner y prosiect Cynhyrchwyr Cig Oen ag Eidion Cymru i gynhyrchu cyfrifiannell defnydd gwrthficrobaidd (AMU), sydd wedi cynhyrchu data hanfodol ar ddefnydd o wrthfiotigau ar ffermydd yng Nghymru.
Roedd enwebiad Arwain yng nghategori ‘Ymgysylltu â’r Cyhoedd’, yn dathlu gwaith y rhaglen yn yr ymgyrch ‘Un Gymru, Un Iechyd’ – partneriaeth rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Arwain DGC, a sefydliadau gofal sylfaenol ac eilaidd ledled Cymru.
Dywedodd Dewi Hughes, Rheolwr Gwasanaethau Iechyd Anifeiliaid Mentera a rheolwr rhaglen Arwain DGC, “Rydym wrth ein bodd ac yn hynod falch bod gwaith Arwain DGC wedi cael ei gydnabod ochr yn ochr â cheisiadau mor gryf o feysydd iechyd anifeiliaid a phobl. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dangos pa mor hanfodol yw lleihau ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) i Un Iechyd.
“Mae’r gwobrau hyn yn adlewyrchu ymrwymiad a sgiliau partneriaid rhaglen Arwain DGC ar draws y diwydiant amaethyddol a’r byd academaidd ac yn dangos y gwaith maen nhw wedi’i wneud i herio AMR ymhlith da byw a’r amgylchedd yng Nghymru.
“Hoffem ddiolch i’r holl ffermwyr a milfeddygon sy’n rhan o Arwain DGC, hebddyn nhw ni fyddem yn gallu gwneud yr hyn a wnawn.”
Dywedodd Iestyn Tudur-Jones, sy’n cynrychioli Cynhyrchwyr Cig Oen ac Eidion Cymru Cyf, sy’n bartner yn rhaglen Arwain DGC, “Rydym wrth ein bodd ac yn hynod falch bod ymrwymiad ac ymroddiad ffermwyr Cymru yn gweithio gyda’u milfeddygon i dystio eu defnydd o wrthfiotigau drwy ddefnyddio technoleg wedi cael ei gydnabod ymhlith ceisiadau mor gryf o’r sectorau anifeiliaid a dynol –
mae aelodau ffermwyr Cynhyrchwyr Cig Oen ac Eidion Cymru, drwy’r Cynllun Gwarant Fferm Da Byw a chan weithio ar y cyd â’u milfeddygon, yn arwain y DU ac Ewrop wrth dystio’r defnydd o wrthfiotigau yn gyfrifol.
“Nid yn unig mae hyn yn dangos y gwaith y maent wedi’i wneud i herio AMR ymhlith da byw a’r amgylchedd yng Nghymru, ond mae’n mynd yn bell i dystiolaethu ac ategu cymwysterau cynhyrchu ein sector da byw yng Nghymru. Ymdrech tîm go iawn – gyda ffermwyr yn cymryd cyfrifoldeb ac yn cael eu cefnogi gan bartneriaid yn y diwydiant a’r llywodraeth.”
Mae AMR yn cael ei ddosbarthu fel her ‘Un Iechyd’ fyd-eang, ac mae galwadau am gamau gweithredu amlsectoraidd brys. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae AMR yn broblem lle “os nad oes gweithredu brys, rydyn ni’n wynebu cyfnod ôl-wrthfiotig, lle bydd heintiau cyffredin a mân anafiadau yn gallu lladd unwaith eto.”
Wedi’i lansio yn 2014, dechreuodd Ymgyrch Un Iechyd yr Antibiotic Guardian fel system addewidion ar-lein yn seiliedig ar weithredu i gynyddu ymgysylltiad wrth fynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd trwy wella gwybodaeth a newid ymddygiad ar draws iechyd pobl ac anifeiliaid. Mae enillwyr gwobrau blaenorol wedi cynnwys cwmnïau a sefydliadau o’r DU a chwmnïau a sefydliadau rhyngwladol.
Nod Arwain DGC yw parhau i wneud Cymru yn arweinydd byd-eang yn y frwydr yn erbyn AMR, trwy feithrin cydweithio, hyrwyddo arloesedd, a rhannu gwybodaeth. Bydd hyn yn sicrhau bod gwrthfiotigau yn parhau i fod yn effeithiol ar gyfer iechyd anifeiliaid a phobl yn y dyfodol.
Gan weithio gyda ffermwyr, milfeddygon, ymchwilwyr ac arbenigwyr yn y diwydiant, mae Arwain DGC yn gweithredu dull cynhwysfawr a chydlynol o leihau ymwrthedd gwrthficrobaidd. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys hyrwyddo stiwardiaeth gwrthficrobaidd, arloesedd technolegol, monitro defnydd gwrthficrobaidd, gwyliadwriaeth AMR, a chyfnewid gwybodaeth.