Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau fod y cynllun Arwain DGC yn mynd i barhau am flwyddyn arall. Gweler y linc isod am fwy o wybodaeth
Mae’r cynllun yma yn adeiladu ar seiliau a osodwyd gan Iechyd Da yn 2016/17, gwaith a gychwynwyd ar ôl cyhoeddiad adroddiad O’Neil am ddefnydd cyfrifol cyffuriau gwrthficrobaidd.
Crewyd y rhaglen arloesol Defnydd Cyfrifol o Driniaethau Wrthficrobaidd Milfeddygol (AMU) Cymru ar ffermydd yng Nghymru gan Iechyd Da ar y cyd gyda Mentera (neu Menter a Busnes, fel ei gelwir ar y pryd).
Yn 2018 fe gwrddodd Iechyd Da a Cynhyrchwyr Cig Oen ac Eidion (WLBP) gyda “Tasglu Ymwrthedd Gwrthficrobaidd” (AMR), Prifysgol Bryste ac o hyn fe gychwynwyd y rhaglen Arwain Milfeddygon Cymru yn 2018, ac fe ariannwyd hyn gan Lywodraeth Cymru.
Fe ddatblygodd y rhaglen, ac yn 2021 fe’i ehangwyd i fod yn rhaglen fwy cynhwysfawr, sef y rhaglen Arwain Defnydd Gwrthficrobaidd Cyfrifol (Arwain DGC). Mae’r prosiect yma wedi mynd o nerth i nerth ac mae wedi cael cydnabyddiaeth cenedlaethol a rhyngwladol am y gwaith ar ddefnydd cyffuriau gwrthficrobaidd (AMU) yn ogystal ac ymwrthedd (AMR).
Mae Llywodraeth Cymru wedi creu hefyd y Grwp Cyflawni ar Ymwrthedd Gwrthficrobaidd (AMR) Anifeiliaid. Mae dau o fwrdd Iechyd Da yn aelodau o’r corff yma (ac ar ei rhagflaenydd, y Grwp Cyflawni ar Ymwrthedd Gwrthficrobaidd Anifeiliaid a’r Amgylchedd). Yn eu rôl ar y bwrdd mae nhw’n adlewyrchu lleisiau milfeddygon fferm ac amaethwyr Cymru.
Mae llwyddiant Arwain DGC yn llwyr ddibynnol ar gefnogaeth milfeddygon a phractisau Cymru. Mae bwrdd Iechyd Da am ddiolch i’n aelodau am eu cefnogaeth a’u ymrwymiad i’r gwaith yma ac yr ydym yn gobeithio bydd y rhaglen yma yn parhau i ffynnu yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Rob Smith Aelod o fwrdd Iechyd Da (arweinydd ar AMRU)