Penblwydd hapus i ni, penblwydd hapus i‘r WVSC, penblwydd hapus i ni!
Pwy feddyliau fod deng mlynedd ers i ddrysau caeedig labordy’r VLA ailagor ar 13/4/2015 fel y Wales Veterinary Science Centre, WVSC.
Bu trafodaethau ynglyn â chau y ganolfan yn 2013 ac fe’i caewyd yn Ebrill 2014. Bu 24 o labordai yn rhan o’r rhwydwaith, pan fo hwn ar ei anterth yn y 60au, ond erbyn 2014 mi oedd hwn lawr i chwech. Yn ffodus i Gymru roedd dal cyfleusterau ar gael yng Nghaerfyrddin a’r Amwythig. Ond gan fod Bangor a Chaerdydd wedi cau eisoes yn yr 80au mi oedd yna fylchau dros fap Cymru gan fod y cyfleusterau a oedd ym Mhrifysgolion Lerpwl a Bryste hefyd yn cau ac yn rhan o’r un broses o doriadau.
Fe fu proses o dendro am y gwaith o gyflenwi gwasanaethau post mortem i anifeiliad fferm yn yr ardaloedd tu hwnt i awr o siwrne i Gaerfyrddin a’r Amwythig. Bu Iechyd Da mewn cydweithrediad gyda Phrifysgol Aberystwyth, yn llwyddianus yn ennill y tendr yma ac fe agorwyd y WVSC yn Ebrill 2015. Roedd y dechrau yn araf, roeddem wedi agor ar ôl y dau fis prysuraf o’r flwyddyn (sef Chwefror a Mawrth). Petai ni yn siop ar y stryd fawr, mi oedd fel dechrau ym mis Ionawr, wedi’r ‘Dolig basio! Wedi dweud hynny efallai byddai hynny wedi bod yn ormod i ddigymod â, mor fuan ar ôl cychwyn.
Yn yr Ebrill cyntaf fe ddaeth gwaith o ddau bractis, ac ym mhen dwy flynedd mi oedd y ganolfan wedi delio gyda hanner cant o bractisau gan ein bod yn cynnal profion parasitoleg a CPD i filfeddygon yn ogystal a’r gwaith post mortem. Yn hwyrach yn 2017 fe fu fwy o bractisau yn ein defnyddio gan ein bod ni’n cynnig profion BVD wrth i’r cynllun Gwaredu BVD gychwyn.
Felly yn y blynyddoedd a ddaeth wedi’r toriadau mae’r tirlun milfeddygol wedi ei drawsnewid :
Mae labordai APHA yng Nghaerfyrddin a’r Amwythig yn dal i wasanaethu eu hardaloedd hwy.
Ail-agorwyd y canolfannau yn Lerpwl a Bryste (o dan reolaeth eu prifysgolion yn hytrach na APHA).
Cychwynnwyd gwasaneth i gludo cyrff o ardaloedd a oedd tu hwnt i awr o siwrne o’r ganolfan agosaf, ac mi wellodd hwn y gwasanaeth i’r ardaloedd yng Ngogledd-orllewin a’r De-ddwyrain o Gymru.
Agorwyd y WVSC.
Mae’r gwasanaethau yma yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru a DEFRA, ac ni fyddant yn bodoli heb eu cefnogaeth.
Yn y blynyddoedd ddaeth wedyn, fe fu datblygiadau cyffroes ym Mhrifysgol Aberystwyth;
dechreuwyd cwrs gradd Vetereinary Bioscience, yna cwrs milfeddygol ar y cyd gyda’r RVC, Llundain yn 2021, a chwrs gradd hyfforddi nyrsus milfeddygol yn 2024. Hefyd, agorwyd yn rhan o gynllun Sêr Cymru y ganolfan ymchwil TB yn 2018.
Felly, bu trawsnewidiad, ac o le a oedd yn weddol llwm fe dyfodd sawl peth newydd, cyffrous ac erbyn hyn mae’n chwith meddwl am Gymru heb y seilwaith yma. Ond mae pob un o’r sefydliadau yma yn gwynebu heriau i’w bodolaeth gyda’r sefyllfa economeg a gwleidyddol fel ag y mae hi.
Felly, ni fedrwn gymryd dim byd yn ganiataol ond rwy’n credu gallwn gymryd eiliad fach i ddweud, penblwydd hapus a diolch am eich cefnogaeth.