DERBYN CEISIADAU AR GYFER TAITH ASTUDIO ARWAIN DGC I’R ISELDIROEDD

Mae Arwain DGC yn cynnig cyfle cyffrous i filfeddygon, ffermwyr a myfyrwyr amaeth yng Nghymru gael profiad uniongyrchol o sut mae ffermydd a systemau milfeddygol blaenllaw yn Ewrop yn lleihau risgiau ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR).

Rydyn ni bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer ‘Taith Astudio Arweinwyr Arwain DGC Leaders’ i’r Iseldiroedd lle caiff y rheini fydd yn ymuno â ni gipolwg gwerthfawr ar y gwaith sy’n cael ei wneud yn Ewrop yn y frwydr yn erbyn ymwrthedd i wrthfiotigau.

Mae’r cyfle hwn ar gael i filfeddygon, ffermwyr, myfyrwyr sy’n astudio amaeth neu filfeddygiaeth, ynghyd ag aelodau o fudiad yr CFfI yng Nghymru sy’n 18 oed neu’n hŷn. Y dyddiad cau yw 23 Mehefin 2025.

Bydd y Daith Astudio, a fydd yn digwydd rhwng 21 a 24 Hydref 2025, yn cynnwys ymweliadau â sawl fferm flaenllaw, cyrff academaidd, a chwmnïau technoleg a gwyddonol arloesol.

Bydd y rheini ar y daith yn cael cipolwg uniongyrchol ar arferion cynaliadwy o ddefnyddio gwrthfiotigau cyn rhannu eu gwybodaeth gyda’r cymunedau amaethyddol a milfeddygol ehangach mewn digwyddiadau, cynadleddau, a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol fel Llysgenhadon AMS (Stiwardiaeth Wrthficrobaidd).

Mae Arwain DGC yn rhaglen a gaiff ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae’n ceisio atal ymwrthedd i wrthfiotigau ymhlith anifeiliaid ac yn yr amgylchedd. Mae’r rhaglen yn cefnogi ffermwyr a milfeddygon trwy lywio penderfyniadau yn seiliedig ar ddata, technolegau arloesol, ac arferion gorau.

Ein nod yw parhau i wneud Cymru yn arweinydd byd-eang yn y frwydr yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR), trwy feithrin cydweithio, annog arloesi, a rhannu gwybodaeth. Bydd hyn yn sicrhau bod gwrthfiotigau yn parhau i fod yn effeithiol ar gyfer iechyd anifeiliaid a phobl yn y dyfodol.

Dywedodd Rhys Jones, Arweinydd Technegol Arwain DGC: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at Daith Astudio Arwain DGC. Bydd yn caniatáu i filfeddygon, ffermwyr a myfyrwyr ymweld â’r Iseldiroedd a dysgu rhagor am amaethyddiaeth a stiwardiaeth wrthficrobaidd yn y wlad.

“Dyma gyfle penigamp i rwydweithio a meithrin dealltwriaeth. Bydd y rheini ar y daith yn cael cipolwg uniongyrchol ar arferion amaethyddol yr Iseldiroedd a ffyrdd arloesol y wlad o ddefnyddio gwrthfiotigau’n gyfrifol.

“Edrychwn ymlaen at dderbyn y ceisiadau a gweithio gyda grŵp y Daith Astudio i ddod yn llysgenhadon i Arwain DGC, a fydd yn hyrwyddo stiwardiaeth wrthficrobaidd gyfrifol yn eu grwpiau perthnasol.”

Gall darpar ymgeiswyr ddysgu mwy am y cyfle drwy gael sgwrs â thîm Arwain DGC.

Ychwanegodd Rhys: “Os hoffech chi gael trafodaeth cyn gwneud cais, mae croeso i chi gysylltu â ni. Bydd y tîm hefyd yn yr Ŵyl Wanwyn yn Llanelwedd penwythnos yma (17 a 18 Mai) a digwyddiad yr NSA yn Aberhonddu (21 Mai) os ydych chi am alw heibio.

“Pob lwc – neu fe ddylwn i ddweud Veel Succes!”

I wneud cais ar gyfer Taith Astudio ‘Arweinwyr Arwain DGC Leaders’, ewch at:

Rhannu’r erthygl hon

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Po Box 8, North Road, Aberystwyth, SY23 2WB.

T: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Iechyd Da Limited is a company registered in England and Wales with company number: 1234567

Iechyd Da

Darganfod, datblygu a darparu.

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Blwch Post 8, Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, SY23 2WB.

Ff: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Mae Iechyd Da Cyfyngedig yn gwmni sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni: 08821623