Mae yna sawl diweddariad pwysig i’w rannu gyda chi ynghylch BVD a’r cynllun
cenedlaethol yng Nghymru:
Newidiadau Llywodraeth Cymru i’r ddeddfwriaeth BVD
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau i Orchymyn Dolur Rhydd
Feirysol Buchol (Cymru) 2024, a ddaeth i rym ar 8 Mai 2025. Mae’r newidiadau hyn
yn rhan o’r ymdrech genedlaethol i ddileu BVD yng Nghymru.
Mae tri newid wedi’u gwneud:
- Bydd cam nesaf y ddeddfwriaeth yn dod i rym ar 1 Gorffennaf 2026.
NODER:
MAE HI’N DAL I FOD YN OFYNNOL, YN ÔL Y GYFRAITH, I BOB
DALIAD SY’N CYNNWYS GWARTHEG GYNNAL ARCHWILIAD
BLYNYDDOL ERBYN 1 GORFFENNAF 2025 A PHOB BLWYDDYN
WEDI HYNNY.
Gyda’r newid hwn o ran dyddiad ar gyfer y cam nesaf, bydden ni’n annog
milfeddygon i barhau i ddylanwadu ar ffermwyr i fabwysiadu’r newidiadau mewn
ymddygiad sy’n ofynnol i leihau faint o firws sy’n cylchredeg. Er enghraifft, profion
cyn symud, profion ynysu ac ar ôl symud anifeiliaid o statws anhysbys, a helfeydd
PI lle mae tebygolrwydd bod PI yn bresennol ar y fferm. - Mae cymeradwyaeth ‘Samplwyr Gwaed Cymeradwy’ (ABS), er mwyn ymgymryd
â phrawf samplu gwaed BVD ar fferm at ddibenion ygorchymyn BVD, bellach
wedi’i chadarnhau.
Gallai hwn fod yn dasg a gaiff ei dirprwyo i ATTau, ond bydd hefyd yn ei agor i
unigolion hyfforddedig newydd (ABS). Bydd angen i’r unigolion hyn ymgymryd â
chwrs cymeradwy a fydd ar gael gan Improve International, ac mae disgwyl iddo
fod ar gael o fis Gorffennaf ymlaen. - Ehangu’r ffenestr i gynnal profion antigen cyn symud gwartheg
Pasiwyd newid i ganiatáu ehangu’r ffenestr i gynnal profion antigen cyn symud
gwartheg unigol o fuchesi sydd ddim yn negatif am BVD. Yn hytrach na’r angen i
gynnal profion ‘cyn pen 30 diwrnod i symud gwartheg’, gallwch bellach eu cynnal
‘cyn pen 60 diwrnod i symud gwartheg’. (Mae hyn yn rhan o ddeddfwriaeth a gaiff
ei rhoi ar waith o 1/7/2026 ymlaen).
Cynhadledd BVD Aberystwyth
Caiff y gynhadledd hon ei chynnal gan Ganolfan Gwyddor Filfeddygol Cymru ym
Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mercher, 4 Mehefin, rhwng 10am a 3:30pm. Bydd y
gynhadledd yn canolbwyntio’n benodol ar agwedd ymarferol cyflawni gofynion y
ddeddfwriaeth BVD yng Nghymru. Bydd y fformat yn cynnwys cyfraniadau gan
gyd-weithwyr milfeddygol o’r Alban ar eu profiad o gyflawni eu cynllun
cenedlaethol yn yr Alban, agweddau ar wyddoniaeth gymdeithasol, a cyfraniadau
gan yr undebau ffermio, Llywodraeth Cymru a milfeddygon. Dylai trafodaethau
bord gron ac amser i sgwrsio â chyd-filfeddygon wneud hwn yn ddiwrnod
cynhyrchiol. Rydyn ni’n eich annog chi i gyd i anfon cynrychiolydd milfeddygol i’r
digwyddiad, yn ddelfrydol eich milfeddyg BVD enwebedig. Fel rhan o’r
trafodaethau bord gron, fe hoffen ni i chi awgrymu hyd at bedwar pwnc ynghylch
gweithredu’r cynllun BVD yr hoffech chi eu trafod. Anfonwch eich pynciau
enwebedig at hwright@wvsc.wales. Bydd agenda fanwl ar gyfer y diwrnod, ynghyd
ag amseroedd a lleoliad y safle, yn eich cyrraedd maes o law.
Milfeddyg Enwebedig BVD
Mae BVDCymru yn cydnabod bod cyfathrebu effeithiol rhwng y rhaglen a chi fel
milfeddygon yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant y rhaglen BVD yng Nghymru.
Er mwyn hwyluso hyn, anfonwch enw a manylion cyswllt eich milfeddyg BVD
enwebedig at bvdcymru@colegsirgar.ac.uk (os nad ydych chi eisoes wedi gwneud
hyn, wrth gwrs). Bydd yr unigolyn hwn yn gweithredu fel pwynt cyswllt ac yn
ffurfio dolen bwysig rhwng BVDCymru a’n milfeddygon maes sy’n hanfodol wrth
arwain ffermwyr a helpu’r diwydiant i gyflawni’r ddeddfwriaeth.