Bydd y newidiadau fesul cam i hwyluso gwerthiannau da byw yn yr hydref yn dechrau ddydd Llun, Awst 18.
O hynny ymlaen, bydd da byw o Gymru sydd wedi cwblhau cwrs o frechiad seroteip 3 (BTV-3) o feirws y Tafod Glas yn gallu mynd i farchnadoedd penodol yn Lloegr at ddibenion gwerthu da byw o Gymru yn unig, o fewn 20km i’r ffin â Chymru.
Ymhlith y marchnadoedd sy’n gymwys i gynnal gwerthiant pwrpasol o dda byw wedi eu brechu o Gymru mae Bishops Castle, Henffordd, Kington, Ludlow, Market Drayton, Croesoswallt, Rhosan ar Wy a’r Amwythig, ac mae’n rhaid iddynt gadw at amodau penodol.
Rhaid i anifeiliaid sy’n mynd i’r marchnadoedd hyn ac sy’n dychwelyd i Gymru hefyd gwblhau’r symudiad yn ystod yr un diwrnod ac maent yn ddarostyngedig i amodau’r drwydded gyffredinol.
Ni all anifeiliaid aros yn y farchnad dros nos ac ni fydd yr anifeiliaid hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ofynion profi cyn neu ar ôl symud lle mae’r holl amodau wedi’u bodloni.
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine:
Mae’r tafod glas yn glefyd a allai fod yn ddinistriol, fel y gwelwyd yn anffodus mewn gwledydd eraill.
Fel rhan o gadw ein hymrwymiad i adolygu polisi’r Tafod Glas, rydym wedi bod yn trafod gyda rhanddeiliaid yn rheolaidd.
Yn sgil y trafodaethau hyn, cytunwyd ar ddull fesul cam i hwyluso gwerthiannau’r hydref sy’n taro cydbwysedd rhwng buddion i’r diwydiant a’r risg o ledaenu’r clefyd.
Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn cydnabod y risg ymhlyg a chronnol o gael gwared ar gyfyngiadau da byw yn raddol, a’r cydbwysedd y mae’n rhaid ei daro rhwng y gallu i fasnachu a’r risg uwch o ledaenu’r clefyd.
Drwy drafodaethau, mae’r diwydiant hefyd yn cydnabod ei gyfrifoldebau’n llawn, gan gynnwys yr angen i sicrhau cydymffurfiaeth â’r gofynion i fynychu gwerthiannau a marchnadoedd, rôl sylfaenol brechu yn erbyn y Tafod Glas – a’r risg a’r canlyniadau a rennir pe bai’r Tafod Glas yn dod i Gymru.
Gyda gwerthiannau’r hydref yn agosáu, rydym yn ystyried addasiadau pellach i’n polisi, gan gynnwys hwyluso gwerthiannau bridio mewn ‘Marchnadoedd Gwyrdd Tafod Glas Cymeradwy’ yng Nghymru ar gyfer gwerthu da byw sydd wedi cael y brechlyn BTV-3 o Gymru a Lloegr.
Bydd y gwerthiannau hyn yn gallu gwneud cais i ddod yn ‘Farchnadoedd Gwyrdd Tafod Glas Cymeradwy’ o ganol mis Medi.